Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 18 Gorffennaf 2018.
Yn amlwg, rwy'n cydnabod diddordeb Llywodraeth Cymru yn hyn o beth, yn ogystal â gwaith caled Joyce Watson ar y mater ers cryn dipyn o amser, ond hoffwn glywed ychydig mwy am weithgaredd penodol rhwng y ddwy Lywodraeth, os mynnwch, ers i Theresa May gyflwyno'r Ddeddf hon yn 2015. Fel y dywedodd Rhun, mae llawer o asiantaethau'n ymwneud â'r gwaith o nodi a helpu pobl eraill i nodi beth yw caethwasiaeth fodern, ond a ydych wedi cael unrhyw dystiolaeth hyd yma sy'n awgrymu bod y cydgysylltydd yn cynorthwyo'r heddlu yma yng Nghymru i fynd i'r afael â'r drosedd hon mewn ffordd gyson—dyna fy mhrif gwestiwn—ond hefyd, a yw hynny wedyn yn rhaeadru i lawr, i ddefnyddio'r geiriau ofnadwy hynny, i rai o'r asiantaethau y buom yn sôn amdanynt yn gynharach?