Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 18 Gorffennaf 2018.
Wel, wrth gwrs, fel rhan o'n cynllun cydlyniant cymunedol, rydym yn gweithio'n agos iawn â'n rhanddeiliaid ac rydym yn ymgynghori ar y cynllun cydlyniant cymunedol cenedlaethol newydd yn yr hydref a fydd, wrth gwrs, yn cynnwys y croestoriad y gwn fod Mark Isherwood yn teimlo'n angerddol iawn yn ei gylch. Rydym yn gweithio'n galed iawn i sicrhau bod ein strategaeth arfaethedig yn cyd-fynd â'r strategaethau eraill yn y ffordd ddi-dor y mae'r archwilydd cyffredinol wedi bod yn ei thrafod.