2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 18 Gorffennaf 2018.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Mark Isherwood.
Diolch, Lywydd. Ddoe, cefais ohebiaeth gan etholwr o sir y Fflint a oedd wedi cael ymateb gan Openreach yn dweud na fyddent yn cael mynediad o dan gam cyntaf rhaglen Cyflymu Cymru. Roedd un arall a gefais, ar ran etholwr, gan Openreach ddoe yn dweud hefyd:
Mae'n ddrwg gennyf nad yw trigolion Llangollen wedi clywed unrhyw newyddion ynglŷn â'r bwriad i gyflwyno band eang ffeibr yn eu hardal. Rwyf wedi siarad â'n tîm ffeibr lleol ac yn anffodus mae darpariaeth band eang ffeibr ar draws yr ardal bellach wedi'i stopio.
Mae'r ddau ohonynt yn cyfeirio at raglen olynol Llywodraeth Cymru. Pam, felly, nad ydych chi hyd yma wedi darparu'r datganiad y dywedoch chi ar 10 Mai, mewn ymateb i fy nghwestiwn ysgrifenedig, y byddech yn ei ddarparu o fewn y mis nesaf? Roeddech yn dweud:
Mae'r ymarfer caffael ar gyfer y prosiect olynol, a fydd yn dod i ben ar 23 Mai, ar y gweill, gyda golwg ar gontract cyflenwi yn cael ei ddyfarnu yn hwyr yn yr haf eleni. Byddaf yn gwneud datganiad o fewn y mis nesaf i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau— a ddylai, felly, yn ôl pob tebyg, fod wedi'i wneud erbyn 10 Mehefin.
Wrth gwrs, rydym wedi cwblhau cynllun cyflwyno Cyflymu Cymru yn llwyddiannus iawn, ac fel y gŵyr yr Aelod, o'r ohebiaeth y mae ef a minnau wedi'i chael, ac y mae nifer o Aelodau eraill yn y Siambr wedi'i chael, mae gennym tua 85,000 o bobl nad ydynt wedi'u cynnwys yn hwnnw, ond mae'r cynllun wedi'i ddarparu i lawer mwy o safleoedd na'r hyn a ragwelwyd gennym yn wreiddiol.
Rydym wedi cyhoeddi prosiect olynol. Mae hwnnw yn mynd drwy'r broses gaffael ar hyn o bryd. Roeddwn yn gobeithio'n fawr y buaswn mewn sefyllfa i allu rhoi mwy o fanylion am hwn erbyn heddiw, Lywydd, ond yn anffodus, nid wyf yn y sefyllfa honno. Gobeithiaf y byddaf yn y sefyllfa honno yn fuan iawn.
Diolch. Wel, rwy'n gobeithio y byddwch yn deall rhwystredigaeth yr etholwyr a gafodd gopi o'ch ateb ac sydd wedi bod yn aros ers 10 Mehefin, ac sydd wedi cysylltu â mi yn rheolaidd yn gofyn a ydym wedi cael y datganiad eto.
Ar fater gwahanol, ym mis Mai, cynhyrchodd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru adroddiad o'r enw 'Grymuso Cymunedau'—nad yw o fewn eich briff yn uniongyrchol, ond mae'r rhan hon yn sicr o fewn eich briff. Roedd yn dweud eu bod wedi
'canolbwyntio ar gymunedau sy’n "seiliedig ar le" neu ardal leol, ond mae grwpiau gwahanol o bobl yn byw yn y rhain: gwahanol ryweddau, grwpiau ethnig, grwpiau ffydd, oedrannau.'
Ac roeddent yn dweud
'Dylai cydnabod amrywiaeth mewn cymunedau ac ar draws cymunedau—a meithrin y cryfderau sy’n dod gyda hynny—fod yn ganolog i bolisïau llesiant cymunedol. Mae cydraddoldeb yn rhan o lesiant cymunedol.'
Yn y cyd-destun hwnnw, ac o fewn eich briff, sut rydych yn bwriadu ymateb i'r sylwadau yn y llythyr ymadawol gan Archwilydd Cyffredinol Cymru i Nick Ramsay, fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, a oedd yn cyfeirio at
'yr hyn sydd wedi bod yn amlwg absennol hyd yma ar draws y gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru' a'r cyfleoedd gwirioneddol
'i ailsiapio gwasanaethau ac ailgynllunio modelau darparu mewn ffyrdd sy’n gwneud trawsnewid gwirioneddol yn bosibl a gosod y dinesydd yn y canol, drwy weithio ar y cyd mewn ffyrdd sy'n codi uwchlaw y strwythurau sefydliadol a etifeddwyd'?
Wel, wrth gwrs, fel rhan o'n cynllun cydlyniant cymunedol, rydym yn gweithio'n agos iawn â'n rhanddeiliaid ac rydym yn ymgynghori ar y cynllun cydlyniant cymunedol cenedlaethol newydd yn yr hydref a fydd, wrth gwrs, yn cynnwys y croestoriad y gwn fod Mark Isherwood yn teimlo'n angerddol iawn yn ei gylch. Rydym yn gweithio'n galed iawn i sicrhau bod ein strategaeth arfaethedig yn cyd-fynd â'r strategaethau eraill yn y ffordd ddi-dor y mae'r archwilydd cyffredinol wedi bod yn ei thrafod.
Diolch. Wel, rwy'n gobeithio y byddwch chi felly'n cydnabod y bydd rhai o'r bobl ar y brig sy'n cynrychioli'r rhwystrau i rannu grym yn cael eu gorfodi i gydnabod fod hyn yn ymwneud â throi mater pŵer wyneb i waered a dylunio'r system tuag at yn ôl, gyda'r bobl yn fan cychwyn yn hytrach nag ôl-ystyriaeth.
Mae fy nghwestiwn olaf yn ymwneud â chwarae a chwaraeon. Cyhoeddwyd adroddiad gan Sense ychydig flynyddoedd yn ôl, ymchwiliad i chwarae, a ddywedodd fod ymyrraeth gynnar drwy chwarae yn hanfodol bwysig i blant ag anghenion lluosog a'u teuluoedd ac yn esgor ar amrywiaeth eang o fanteision datblygiadol ac emosiynol.
Dywedodd Chwarae Cymru, gan ddyfynnu ffynhonnell arall,
'Mae galluogi pob plentyn i chwarae, ac i chwarae gyda'i gilydd, o fudd i'r gymuned gyfan. Nid yw'n ymwneud â goresgyn rhwystrau cyfreithiol neu sicrhau darpariaeth costus ar gyfer adran fechan o'r gymuned. Os y caiff unrhyw blentyn ei rwystro rhag chwarae yna bydd yn lleihau profiad chwarae pob un.'
Felly sut rydych yn ymateb i'r dystiolaeth sy'n dangos bod plant anabl yng Nghymru yn rhy aml yn cael eu hamddifadu o fynediad priodol at fannau chwarae, er gwaethaf yr effaith negyddol arnynt, lle mae cyfarpar addas ar gyfer pob plentyn ar gael ond yn rhy aml, ni wneir yn siŵr ei fod ar gael, a bod angen gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i ddarparu offer mewn mannau chwarae sy'n diwallu anghenion plant anabl a phlant eraill? Hefyd, ochr yn ochr â hynny, mae'r adroddiad a gyhoeddwyd gan Chwaraeon Cymru yr wythnos ddiwethaf, a ganfu fod mynediad plant ac oedolion anabl at chwaraeon yn cael ei ystyried yn anghyson mewn llawer o ardaloedd ar draws llawer o chwaraeon, gydag ystafelloedd newid hygyrch a mynediad uniongyrchol at gyfleusterau chwaraeon yn aml yn absennol.
Gwn y byddwch yn cytuno â mi fod plant ac oedolion anabl yn haeddu mynediad cyfartal at chwarae ac at chwaraeon. Sut ar y ddaear rydych yn bwriadu gwneud i hynny ddigwydd?
Rwy'n cytuno'n llwyr â Mark Isherwood. Yn amlwg, yr hyn y byddai pawb ohonom yn hoffi ei weld yw bod yr holl fannau chwarae ym mhob man yn hygyrch i bob plentyn. Nid ydym eisiau i blant orfod teithio pellteroedd hwy nag unrhyw blentyn arall er mwyn cael mynediad at yr unig gyfarpar sy'n hygyrch iddynt. Felly, rydym yn gweithio'n galed iawn gydag Anabledd Cymru, ac yn ein fframwaith gweithredu ar gyfer byw'n annibynnol, yn ein canllawiau i Anabledd Cymru, ac mewn nifer fawr o weithgareddau ymgysylltu gyda grwpiau anabledd i gyflwyno'r canllawiau ynglŷn ag ail-ddylunio unrhyw fannau hygyrch cyn gynted â phosibl, fel nad oes neb yn cael eu heithrio ni waeth beth yw eu nodweddion. Felly, cytunaf yn llwyr ag ef fod angen i ni wneud hynny.
Yn fy nghynllun cydraddoldeb cyffredinol, sef yr adolygiad pedair blynedd a fydd yn cael ei gyflwyno gerbron y Siambr hon ym mis Rhagfyr, Lywydd, rwy'n gobeithio y byddaf yn gallu trafod ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol mewn perthynas â'r math o gynhwysiant y mae Mark Isherwood newydd sôn amdano.
Llefarydd UKIP, David Rowlands.
Diolch, Lywydd. Arweinydd y tŷ, fel cyn ynad, rwyf wedi gweld canlyniadau, a chanlyniadau erchyll weithiau, cam-drin domestig â fy llygaid fy hun. A fyddai arweinydd y tŷ yn gallu rhoi amlinelliad o'r ymyriadau diweddaraf sy'n cael eu hysgogi gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r troseddau hyn?
Gallaf. Rydym yn y broses o roi ein Deddf arloesol ar waith. Mewn gwirionedd, wrth i ni siarad, rydym wrthi'n cyflwyno'r fframweithiau rhanbarthol. Rydym wedi bod yn gweithio'n galed iawn yn wir gyda nifer fawr o randdeiliaid ledled Cymru, gan gynnwys, yn hollbwysig rwy'n credu, goroeswyr cam-drin domestig, er mwyn sicrhau bod y canllawiau a'r llwybrau ar waith yn briodol gennym fel eich bod, ni waeth ble fyddwch chi'n gwneud y datgeliad—ni waeth ble mae'r datgeliad yn digwydd—yn cael eich tywys at y llwybr cywir a fydd yn arwain at y canlyniad cywir i chi fel goroeswr, neu fel darpar oroeswr ar y pwynt hwnnw, fel y gallwn helpu pobl i gael eu bywydau yn ôl ar y trywydd cywir cyn gynted â phosibl.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, arweinydd y tŷ. Dywedodd Cymorth i Fenywod Cymru nad yw dioddefwyr cam-drin domestig yn gallu gadael yr amgylchedd ymosodol oherwydd na allant fforddio gwneud hynny. Gyda'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod achosion o gam-drin domestig yng Nghymru wedi cynyddu 23 y cant, a wnaiff arweinydd y tŷ sôn am y cymorth sydd ar gael i ddioddefwyr sy'n cael eu dal mewn sefyllfa o'r fath?
Gwnaf. Rydym yn ariannu amrywiaeth o raglenni ar draws Cymru, ond ar hyn o bryd, fel y dywedais, rydym yn gweithio gyda nifer o randdeiliaid i sicrhau bod y llwybrau hynny yn bodoli ym mhob man yng Nghymru. Lywydd, nid yw'n wir fod gennym fframwaith hollol ddelfrydol ledled Cymru, ond fel rhan o'n strategaeth ranbarthol ac fel rhan o'r broses o gyflwyno'r cynllun, ac o ganlyniad i gyngor gan ein cynghorwyr cenedlaethol, rydym yn gobeithio gallu rhoi'r cynllun hwnnw ar waith, ac rydym ar y trywydd cywir o ran y Ddeddf ar gyfer gweithredu'r cynlluniau fframwaith cenedlaethol, a bydd hynny'n llywio ein gwariant yn dilyn hynny.
Buaswn yn dweud, serch hynny, y dylem fod yn falch bod y niferoedd yn codi, oherwydd rydym yn gobeithio bod hynny'n golygu fod pobl yn fwy parod i roi gwybod am ddigwyddiadau, er nad oes gennym dystiolaeth empirig o hynny, wrth gwrs. Yr hyn nad ydym ei eisiau yw trosedd gudd lle nad yw pobl yn rhoi gwybod amdani. Felly rydym yn croesawu'r cynnydd yn y niferoedd, gan fod hynny'n dangos cynnydd yn nifer y digwyddiadau y rhoddir gwybod amdanynt.
Unwaith eto, diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am hynny, ac rwy'n cydnabod y nifer o ymyriadau sy'n digwydd bellach mewn perthynas â cham-drin domestig. Ond rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi fod llochesi yn elfen allweddol er mwyn symud dioddefwyr o sefyllfaoedd lle y cânt eu cam-drin. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud i sicrhau bod llochesi yng Nghymru yn aros ar agor? Ac os bydd arian yn cael ei sianelu drwy awdurdodau lleol yn y dyfodol, pa fesurau sydd ar waith i leihau'r gyfran o'r arian sy'n mynd tuag at gostau gweinyddol?
Yn sicr, yn union fel y dywedais, mae yna bellach gyfrifoldeb ar awdurdodau lleol i gynhyrchu cynlluniau rhanbarthol, ac mae'r cynllun rhanbarthol yn asesiad o anghenion, ac felly mae'n rhaid iddynt ymateb wedyn i'r asesiad o anghenion, sy'n asesu anghenion eu hardal, ac mae'r arian yn dilyn. Felly, mae'n fwy na'n bod yn rhoi arian iddynt ac yna'n gofyn iddynt ei ddyrannu fel y mynnant; mae'n rhaid iddynt gynhyrchu'r cynllun rhanbarthol, sy'n dweud wrthym beth yw'r angen yn yr ardal, ac yna byddwn yn edrych i weld bod yr arian yn cael ei wario yn y ffordd honno mewn gwirionedd. Fel rhan o'r grant mawr newydd, sef yr hyn roedd David Rowlands yn cyfeirio ato, credaf ei bod yn deg dweud fod set swmpus o ganllawiau i fynd ochr yn ochr â hwnnw ynglŷn â'r hyn rydym yn disgwyl i awdurdodau lleol ei wneud.
Llefarydd Plaid Cymru, Siân Gwenllian.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rydw i am drafod rhai o gasgliadau'r adolygiad cyflym o gydraddoldeb rhywedd, a'r cam cyntaf, sydd wedi cael eu cyhoeddi'n ddiweddar. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at nifer o feysydd ble mae angen i Lywodraeth Cymru ysgogi gwelliant a dangos arweiniad. Un weithred yn benodol y mae'r adroddiad yn ei argymell ydy mynd i'r afael â nifer isel y bobl sy'n manteisio ar absenoldeb rhiant a rennir o fewn Llywodraeth Cymru. Mae'r adroddiad yn argymell yn benodol cyflwyno absenoldeb rhiant a rennir ar gyfradd mamolaeth well—yr enhanced maternity rate—i dadau sydd yn cymryd cyfnod o absenoldeb. A ydych chi'n mynd i wneud hyn?
Ie, rwy'n gobeithio'n fawr iawn y byddwn yn gallu gweithredu'r argymhelliad hwnnw yn yr adroddiad. Rwyf am egluro ein sefyllfa ar hyn o bryd, Ddirprwy Lywydd. Rydym wedi cyhoeddi cam 1 yr adroddiad fel y mae. Nid ydym wedi ymateb yn ffurfiol iddo eto. Ar hyn o bryd, rydym yn edrych i weld beth y gallwn ei ddatblygu'n gyflym dros yr haf, neu mewn geiriau eraill—ni wn pa ystrydeb y gallaf ei defnyddio: ffrwythau isel, os mynnwch—rhywbeth sy'n eithaf amlwg y gallwn fwrw ymlaen ag ef, ac yna bydd gennym gynllun tymor canolig a thymor hwy ar gyfer rhai o'r agweddau mwy heriol ar yr adroddiad, fel y dywedodd Siân Gwenllian yn gywir.
Byddaf yn cael cyfres o gyfarfodydd gyda'r Ysgrifennydd Parhaol—a hoffwn brysuro i ddweud nad wyf yn osgoi hyn mewn unrhyw ffordd, ond yn amlwg, mater i'r Ysgrifennydd Parhaol yw telerau ac amodau'r gwasanaeth sifil, nid Gweinidogion—ond byddaf yn cael cyfres o gyfarfodydd gyda'r Ysgrifennydd Parhaol ynghylch amrywiaeth o eitemau yn yr adroddiad, sy'n ymwneud â thelerau ac amodau'r gwasanaeth sifil ac ati, gyda golwg ar weld beth y gallwn ei wneud. Rwy'n falch o ddweud bod Llywodraeth Cymru, ochr yn ochr â Chomisiwn y Cynulliad, bellach wedi ymrwymo i system feincnodi cyflogwyr Chwarae Teg, felly dylai hynny ysgogi rhywfaint o'r gwaith hwnnw yn ogystal.
Diolch yn fawr, ac edrychwn ni ymlaen i weld hynny yn cael ei weithredu. Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at nifer o feysydd lle nad ydy’r Llywodraeth wedi cyflawni yr hyn a fwriadwyd. Mae’r adroddiad yn rhybuddio bod cydraddoldeb yn aml yn cael ei weld fel ymarfer ticio blwch sydd ddim yn dylanwadu ar bolisi. Mae yna un rhan sydd yn arbennig o feirniadol yn yr adroddiad, lle mae’n dweud fel hyn:
'mae proses bresennol y gyllideb a’r strwythur yn parhau i weithredu fel rhwystr rhag gweithio’n effeithiol yn drawslywodraethol ar bob mater, gan gynnwys cydraddoldeb rhywiol. Nid yw proses y gyllideb wedi’i chysoni â’r broses o lunio polisïau ac mae cyllidebau yn canolbwyntio ar bwysau ariannol yn hytrach nag ar effaith.'
Mi wnaf i ddweud hynny eto:
'Nid yw proses y gyllideb wedi’i chysoni â’r broses o lunio polisïau'.
I mi, mae hynny’n feirniadaeth ddamniol o’r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn pennu ei chyllideb, a’r ffordd y mae wedi bod yn gweithredu ers blynyddoedd lawer. Ond, yn bwysicach, beth ydych chi yn mynd i'w wneud i sicrhau bod hyn yn newid, ac yn newid ar unwaith?
Mewn gwirionedd, fel y mae'n digwydd, mynychodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a minnau, ychydig cyn y sesiwn hon, grŵp cynghorol y gyllideb ar gydraddoldeb, lle rydym yn ymgynghori â hwy yn ystod proses y gyllideb. Cawsom drafodaeth fywiog yno am yr asesiadau cydraddoldeb integredig newydd a'r hyn y gallwn ei wneud, fel grŵp o bobl, i sicrhau eu bod yn cael eu cyflwyno mewn ffordd ddefnyddiol yn hytrach nag ymarfer ticio blychau. Mae gennyf graff defnyddiol, Ddirprwy Lywydd, y gallaf ei rannu ag Aelodau'r Cynulliad, ynglŷn â sut y disgwyliwn i'r broses honno weithio a pha welliannau a fydd yn deillio ohoni. Fel rhan o hynny, rydym yn trafod—oherwydd, fel y dywedais, nid wyf wedi ymateb yn ffurfiol i'r adroddiad. Pan fyddwn yn ymateb—. Buom yn trafod yn y grŵp hwnnw, mewn ffordd ddefnyddiol, beth y gall y grŵp ei wneud er mwyn bwrw ymlaen â rhai o'r materion pan fyddwn yn ymateb yn ffurfiol. Felly, roedd yn sgwrs ragarweiniol ddefnyddiol iawn, ac yn yr hydref, byddaf mewn gwell sefyllfa i allu ymateb yn gadarnhaol iawn i rai o'r pethau hynny.
Mae’r adroddiad hefyd yn amlygu diffyg gallu eich Llywodraeth i droi bwriadau yn ganlyniadau. Mae o'n nodi fel hyn:
'Mae llawer o’r rhai y buom yn siarad â hwy yn teimlo bod diffyg uchelgais o ran y camau gweithredu a’r amcanion o fewn cynlluniau cydraddoldeb, cynlluniau llesiant a pholisïau cenedlaethol yn ehangach ac, ar sail dadansoddiad o bolisïau presennol Llywodraeth Cymru, mae tueddiad cynyddol i wneud datganiadau uchelgeisiol, eang gyda chamau gweithredu, amserlenni a mesurau llwyddiant cyfyngedig' er mwyn amlinellu sut y caiff yr uchelgeisiau hyn eu gwireddu. Mae’n rhaid imi ddweud, mae’r datganiad ynglŷn ag eisiau creu Cymru ffeministaidd yn taro nodyn yn y fan yna, onid ydy—sef, 'datganiadau uchelgeisiol, eang', ond lle mae’r camau gweithredu?
Yn rhyngwladol, o blith y gwledydd hynny sy’n perfformio’n dda o ran cydraddoldeb rhywedd, mae bron bob un ohonyn nhw yn cyhoeddi data a thystiolaeth rheolaidd a hygyrch yn mapio allan cydraddoldeb rhywedd. Heb gamau gweithredu na dangosyddion i hyrwyddo cydraddoldeb rhywedd mewn polisïau yng Nghymru, mi fydd hi’n amhosibl olrhain cynnydd yn effeithiol, a chyfyngedig fydd y gweithgaredd craffu.
A ydych chi’n cydnabod bod y rhain yn themâu yr ydym ni’n eu gweld dro ar ôl tro gan eich Llywodraeth chi? Mi fyddwn ni’n nodi yn nes ymlaen yn ein dadl ar adroddiad y pwyllgor ar gyflogau isel, ac mi wnaethom ni sôn am hyn yn ddiweddar hefyd yn gysylltiedig efo iechyd meddwl a nifer o bynciau eraill—sef y diffyg data a’r diffyg targedau. A fedrwch chi ddangos y ffordd, felly, i weddill y Llywodraeth, drwy fabwysiadau targedau meintiol a dangosyddion pwrpasol i fesur cynnydd tuag at gydraddoldeb rhywedd yng Nghymru?
Ie, credaf fy mod yn gallu cytuno â llawer o'r hyn a ddywed Siân Gwenllian. Nid wyf yn cytuno bod hon yn broblem ym mhob man, ond mae yna broblemau data yng Nghymru. Rydym yn cael trafferth i ymgodi rhai o'r arolygon cenedlaethol mewn ffordd realistig, ac er nad yw'n ymwneud yn uniongyrchol â'r pwnc rydym yn ei drafod ar hyn o bryd, rwy'n gobeithio y bydd yn enghreifftiol. Er enghraifft, nid ydym wedi cymryd rhan yn yr archwiliad anghyfartaledd hiliol y cymerodd Lywodraeth y DU ran ynddo, hyd yn oed gan ymgodi ar gyfer Cymru, oherwydd byddai'r niferoedd y byddem wedi'u cael o hwnnw wedi bod yn rhy isel i fod o unrhyw arwyddocâd ystadegol. Felly, rydym wrthi'n edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud yng Nghymru ar hyn o bryd er mwyn gwneud rhywbeth sydd o arwyddocâd ystadegol, ac i raddau helaeth o ran ein hymateb i'r cam cynnar hwn o'r adolygiad rhywedd, ac yna, rwy'n gobeithio, y cynllun gweithredu yn y dyfodol, pan fydd gennym broses yr ail gam, sut y cawn afael ar ddata sylfaenol, pa ddata sydd ar gael ar hyn o bryd, pa adnoddau rydym eu hangen i ymgodi hwnnw, oherwydd bydd yn rhaid i ni wneud hynny, gan nad yw data y DU yn tueddu i gynnwys digon o sampl yng Nghymru i fod yn arwyddocaol, ac yna yr hyn y gallwn ei wneud i greu'r targedau hynny, oherwydd cytunaf yn llwyr â hi, oni bai bod gennym y targedau hynny ar waith, ni fydd gennym unrhyw syniad a yw ein polisi yn effeithiol ai peidio.
Hefyd, o ran arweinyddiaeth, fodd bynnag, mae'n hawdd bod yn sinigaidd, ond os nad ydych yn datgan eich bod eisiau i Gymru fod yn wlad ffeministaidd, ac os ydych yn ofni gwneud hynny oherwydd y sinigiaeth, yna yn bersonol, ni chredaf y byddech chi byth yn cyrraedd y pwynt hwnnw. Felly, er fy mod yn cydnabod y sinigiaeth, rwyf hefyd yn cydnabod y weledigaeth, ac rwyf eisiau gweithio'n galed iawn yn wir i wneud yn siŵr fod gennym gynllun gweithredu gweithgar ac ystyrlon y gellir ei weithredu, fel y dywedais, dros y tymor byr, y tymor canolig a'r tymor hwy i ymgorffori'r prosesau hynny.