Ceiswyr Lloches

Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 18 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 2:31, 18 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Ychydig wythnosau'n ôl, ymwelais ag Ysgol Uwchradd Llanisien yn fy etholaeth, sef Gogledd Caerdydd, i gyflwyno tystysgrif iddi fel yr ysgol noddfa gyntaf yng Nghaerdydd, gan ei chyflwyno i fyfyrwyr sy'n mynd i'r afael â'r stigma a wynebir gan geiswyr lloches, o fewn yr ysgol a thu allan yn y gymuned. Pa gymorth ac anogaeth y gall Ysgrifennydd y Cabinet eu cynnig i ysgolion eraill sydd eisiau dod yn ysgolion noddfa? Oherwydd mae'n ymddangos yn ffordd mor bwysig o godi ymwybyddiaeth a mynd i'r afael â'r stigma sy'n bodoli, yn anffodus, mewn perthynas â cheiswyr lloches.