Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 18 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 2:50, 18 Gorffennaf 2018

Diolch yn fawr, ac edrychwn ni ymlaen i weld hynny yn cael ei weithredu. Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at nifer o feysydd lle nad ydy’r Llywodraeth wedi cyflawni yr hyn a fwriadwyd. Mae’r adroddiad yn rhybuddio bod cydraddoldeb yn aml yn cael ei weld fel ymarfer ticio blwch sydd ddim yn dylanwadu ar bolisi. Mae yna un rhan sydd yn arbennig o feirniadol yn yr adroddiad, lle mae’n dweud fel hyn:

'mae proses bresennol y gyllideb a’r strwythur yn parhau i weithredu fel rhwystr rhag gweithio’n effeithiol yn drawslywodraethol ar bob mater, gan gynnwys cydraddoldeb rhywiol. Nid yw proses y gyllideb wedi’i chysoni â’r broses o lunio polisïau ac mae cyllidebau yn canolbwyntio ar bwysau ariannol yn hytrach nag ar effaith.'

Mi wnaf i ddweud hynny eto:

'Nid yw proses y gyllideb wedi’i chysoni â’r broses o lunio polisïau'.

I mi, mae hynny’n feirniadaeth ddamniol o’r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn pennu ei chyllideb, a’r ffordd y mae wedi bod yn gweithredu ers blynyddoedd lawer. Ond, yn bwysicach, beth ydych chi yn mynd i'w wneud i sicrhau bod hyn yn newid, ac yn newid ar unwaith?