Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 18 Gorffennaf 2018.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, arweinydd y tŷ. Dywedodd Cymorth i Fenywod Cymru nad yw dioddefwyr cam-drin domestig yn gallu gadael yr amgylchedd ymosodol oherwydd na allant fforddio gwneud hynny. Gyda'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod achosion o gam-drin domestig yng Nghymru wedi cynyddu 23 y cant, a wnaiff arweinydd y tŷ sôn am y cymorth sydd ar gael i ddioddefwyr sy'n cael eu dal mewn sefyllfa o'r fath?