Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 18 Gorffennaf 2018.
Wrth gwrs, rydym wedi cwblhau cynllun cyflwyno Cyflymu Cymru yn llwyddiannus iawn, ac fel y gŵyr yr Aelod, o'r ohebiaeth y mae ef a minnau wedi'i chael, ac y mae nifer o Aelodau eraill yn y Siambr wedi'i chael, mae gennym tua 85,000 o bobl nad ydynt wedi'u cynnwys yn hwnnw, ond mae'r cynllun wedi'i ddarparu i lawer mwy o safleoedd na'r hyn a ragwelwyd gennym yn wreiddiol.
Rydym wedi cyhoeddi prosiect olynol. Mae hwnnw yn mynd drwy'r broses gaffael ar hyn o bryd. Roeddwn yn gobeithio'n fawr y buaswn mewn sefyllfa i allu rhoi mwy o fanylion am hwn erbyn heddiw, Lywydd, ond yn anffodus, nid wyf yn y sefyllfa honno. Gobeithiaf y byddaf yn y sefyllfa honno yn fuan iawn.