Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 18 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 2:44, 18 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Gallaf. Rydym yn y broses o roi ein Deddf arloesol ar waith. Mewn gwirionedd, wrth i ni siarad, rydym wrthi'n cyflwyno'r fframweithiau rhanbarthol. Rydym wedi bod yn gweithio'n galed iawn yn wir gyda nifer fawr o randdeiliaid ledled Cymru, gan gynnwys, yn hollbwysig rwy'n credu, goroeswyr cam-drin domestig, er mwyn sicrhau bod y canllawiau a'r llwybrau ar waith yn briodol gennym fel eich bod, ni waeth ble fyddwch chi'n gwneud y datgeliad—ni waeth ble mae'r datgeliad yn digwydd—yn cael eich tywys at y llwybr cywir a fydd yn arwain at y canlyniad cywir i chi fel goroeswr, neu fel darpar oroeswr ar y pwynt hwnnw, fel y gallwn helpu pobl i gael eu bywydau yn ôl ar y trywydd cywir cyn gynted â phosibl.