Digideiddio Gwasanaethau Cyhoeddus

Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 18 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 3:03, 18 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, arweinydd y tŷ. Mae cynghorau ledled Cymru yn edrych ar ddeallusrwydd artiffisial i ymgymryd â rhai o swyddogaethau eu staff. Mae cyngor Caerdydd yn cyflwyno rhith-gynorthwyydd i ymdrin ag ymholiadau gan y cyhoedd, ac mae Cyngor Sir Fynwy yn cyflwyno bot sgwrsio ar gyfer ei ymholiadau ar-lein. Mae adroddiad gan PricewaterhouseCoopers yn awgrymu y bydd y newid i ddeallusrwydd artiffisial yn golygu gostyngiad mawr yn nifer y bobl a gyflogir mewn gwasanaethau gweinyddol a chymorth. Arweinydd y tŷ, pa asesiad y mae eich Llywodraeth wedi'i wneud o'r effaith y bydd deallusrwydd artiffisial yn ei chael ar weithlu'r sector cyhoeddus?