2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip – Senedd Cymru ar 18 Gorffennaf 2018.
5. A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i ddigideiddio gwasanaethau cyhoeddus? OAQ52537
Yn sicr. Mae Digidol yn Gyntaf yn nodi'r camau sydd eu hangen i greu'r amgylchedd cywir ar gyfer darparu gwasanaethau cyhoeddus digidol effeithiol. Mae amrywiaeth o welliannau'n cael eu gwneud ar draws ac o fewn portffolios yr holl Ysgrifenyddion Cabinet.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, arweinydd y tŷ. Mae cynghorau ledled Cymru yn edrych ar ddeallusrwydd artiffisial i ymgymryd â rhai o swyddogaethau eu staff. Mae cyngor Caerdydd yn cyflwyno rhith-gynorthwyydd i ymdrin ag ymholiadau gan y cyhoedd, ac mae Cyngor Sir Fynwy yn cyflwyno bot sgwrsio ar gyfer ei ymholiadau ar-lein. Mae adroddiad gan PricewaterhouseCoopers yn awgrymu y bydd y newid i ddeallusrwydd artiffisial yn golygu gostyngiad mawr yn nifer y bobl a gyflogir mewn gwasanaethau gweinyddol a chymorth. Arweinydd y tŷ, pa asesiad y mae eich Llywodraeth wedi'i wneud o'r effaith y bydd deallusrwydd artiffisial yn ei chael ar weithlu'r sector cyhoeddus?
Mae yna lefelau sgiliau cymysg ymhlith gweithwyr y sector cyhoeddus, sy'n effeithio ar eu gallu i nodi cyfleoedd i drawsnewid gwasanaethau digidol, a hefyd i ddefnyddio gwasanaethau newydd sydd wedi'u darparu. Felly, mae gennym raglen hyfforddi ar draws y sector cyhoeddus i uwchsgilio staff ac rydym yn gweithio'n galed iawn gyda'r cynghorau sydd wedi mynegi barn yn ddiweddar ar greu rôl arweinyddiaeth ddigidol gydlynol ar gyfer awdurdodau lleol, gyda'r bwriad o uwchsgilio'r staff, nid yn unig oherwydd bygythiad deallusrwydd artiffisial, er bod y bygythiad hwnnw'n amlwg yn bodoli ar gyfer tasgau gweinyddol lefel is yn arbennig—mae'n rhywbeth sydd wedi bod yn digwydd ers amser hir bellach, ers y 1980au cynnar—ond hefyd gyda golwg ar fynd ati i gynnwys rhaglenni trawsnewid er mwyn rhyddhau'r staff hynny ar gyfer swyddi gwasanaethau rheng flaen na chânt eu heffeithio gan ddeallusrwydd artiffisial, a cheir nifer fawr o'r rheini yn ogystal. Mae gan gyngor partneriaeth y gweithlu ddiddordeb enfawr ynddo, a gwn, er enghraifft, eu bod yn ystyried gwneud gwelliannau i wasanaeth recriwtio ar-lein Cyfnewid Pobl Cymru gyda'r bwriad o'i wneud yn borth ar gyfer y math hwnnw o weithgarwch.
Arweinydd y tŷ, mae sefydliadau'n cysylltu â mi yn rheolaidd, fel llawer o Aelodau'r Cynulliad rwy'n gwybod, am fod ganddynt syniadau ynglŷn â sut y byddent yn gallu helpu i wella, digideiddio a symleiddio gwasanaethau cyhoeddus. Mae llawer o'r sefydliadau hyn wedi profi eu hunain ledled gweddill y DU ac Ewrop yn wir, ond maent yn ei chael hi'n fwyfwy anodd rhyngwynebu â Llywodraeth Cymru. Rwy'n bryderus ein bod yn creu rhwystrau, ac mae perygl na fyddwn ar flaen y gad yn y chwyldro digidol mewn gwasanaethau cyhoeddus.
Pa lwybrau y byddech yn eu hawgrymu fel y ffyrdd gorau i mewn ar gyfer y sefydliadau hyn? Maent yn ceisio cysylltu â deiliaid portffolio unigol, ond cânt eu rhwystro gan swyddogion. Nid yw meddylfryd 'heb ei wneud yma yng Nghymru' yn ein helpu i ddod yn arweinwyr na'r gorau yn y maes, ac rydym eisiau dysgu o'r enghreifftiau da eraill ledled Ewrop. Rwy'n ymwybodol iawn o'r ffaith, yn arbennig ym maes iechyd, fod llawer iawn o waith da iawn yn digwydd mewn mannau eraill, ac ymddengys nad oes gennym ran ynddo.
Rwy'n hapus iawn i fod yn sianel i'r Llywodraeth os oes rhywun yn profi'r anhawster hwnnw. Ddirprwy Lywydd, rwyf bob amser wedi synnu pan fyddaf yn dweud hyn, ond fe'i dywedaf eto yma yn y Siambr: fy nghyfeiriad e-bost yw julie.james@gov.wales. Mae'n syndod i mi cyn lleied o bobl sy'n manteisio ar y cyfle hwnnw. Buaswn yn croesawu ymholiadau gan unrhyw un sy'n credu y gallant wella gwasanaethau cyhoeddus.
Mae fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, yn gweithio'n galed iawn ar y rhaglenni hynny. Rydym yn falch iawn, fel rwyf newydd ei ddweud, fod yna gynigion i'r CLlLC sefydlu swyddogaeth arweinyddiaeth ddigidol, a fydd yn ei alluogi i gydlynu. Drwy gyngor partneriaeth y gweithlu yn ogystal, mae gennym sianel uniongyrchol i'r holl sefydliadau sector cyhoeddus datganoledig, yn ogystal â'r rhai nad ydynt wedi'u datganoli, sy'n cymryd rhan yn nhrefniadau cyngor partneriaeth y gweithlu, gyda'r bwriad o ledaenu'r arfer da hwnnw.