Part of the debate – Senedd Cymru am 3:18 pm ar 18 Gorffennaf 2018.
Diolch. Siom mawr i mi oedd clywed bod cyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cael eu cymhwyso am y drydedd flwyddyn mewn perthynas â gwerthu pren. Croesawaf y ffaith bod Swyddfa Archwilio Cymru wedi cydnabod bod ymateb Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn adeiladol a bod yna ymrwymiad clir ar ran yr arweinyddiaeth i roi camau gweithredu ar waith. Cyfarfûm y bore yma gyda chadeirydd a phrif weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru i drafod y mater.