Part of the debate – Senedd Cymru am 3:45 pm ar 18 Gorffennaf 2018.
Dywedodd mam o'r enw Sarah wrthyf sut y byddai ei merch fach weithiau'n ei cholli hi, sut y byddai'n colli pob rheolaeth pan fyddai pethau'n mynd yn rhy swnllyd a byddai'n crafu ei llygaid ei hun fel bod yn rhaid i Sarah geisio ei hatal rhag gwneud hynny, sut nad oedd ei brodyr yn deall pam roedd eu chwaer weithiau'n eu taro a pham nad oedd eu mam yn dweud y drefn wrthi. A'r holl amser y byddai Sarah yn ceisio ymdopi â hyn i gyd, a gwneud ei swydd, roedd hi hefyd yn ymladd i gael diagnosis i'w merch. Dywedodd wrthyf ei bod yn gorfod ymladd am bopeth, a'i fod yn waith mor flinedig pan fo'n rhaid i chi dreulio eich diwrnod yn edrych ar ôl plentyn sy'n eich pinsio, yn eich taro â'i phen ac yn eich cnoi. Nawr, y newyddion da yw bod merch Sarah wedi cael diagnosis o anhwylder sbectrwm awtistiaeth, a'u bod ill dwy bellach yn cael cymorth. Mae ganddynt strategaethau ar waith sy'n eu helpu i reoli pethau. Mae gan ei merch gardiau fflipio sy'n ei helpu i gynllunio ei gweithgareddau dyddiol arferol.
Nid wyf am awgrymu nad oes llawer o arferion cadarnhaol eisoes ar waith. Er bod arferion da mewn gwasanaethau i bobl ag anhwylder sbectrwm awtistiaeth i'w gweld mewn rhai rhannau o Gymru, y broblem yw bod gwasanaethau'n wael mewn ardaloedd eraill, ac mae amseroedd aros, am ddiagnosis yn arbennig, yn llawer rhy hir. Dyna pam rwy'n cyflwyno'r Bil hwn, oherwydd dangosodd tystiolaeth o ymchwil, a'r ddau ymgynghoriad a gynhaliais, fod gwasanaethau ledled Cymru ar gyfer pobl sydd ag anhwylder sbectrwm awtistiaeth yn anghyson, ac mewn rhai ardaloedd, mae'n annigonol. Nod y Bil hwn yw hyrwyddo arferion gorau mewn gwasanaethau awtistiaeth ym mhob rhan o Gymru ac i sicrhau bod pobl ag anhwylder sbectrwm awtistiaeth a'u teuluoedd a'u gofalwyr yn gallu dod o hyd i'w ffordd drwyddynt.
Mae'n glod i Lywodraeth Cymru ei bod wedi dewis cyhoeddi a chynnal strategaeth awtistiaeth sydd wedi sicrhau rhai gwelliannau amlwg i'r gwasanaeth. Mae'r Bil hwn yn ceisio adeiladu ar y datblygiadau hynny. Mae'n ei gwneud yn ofynnol i gyrff perthnasol gydymffurfio â'r strategaeth a chanllawiau cysylltiedig, gan sicrhau lefelau cyson o wasanaethau. Ac mae'n darparu fframwaith deddfwriaethol i sicrhau gwelliannau parhaus a pharhad y gwasanaeth yn fwy hirdymor.
Mae'n Fil sy'n anelu at gynnal ffocws llywodraethol ar anghenion pobl fel Sarah a'i merch, ni waeth pa hinsoddau gwleidyddol ac economaidd a welir yn y dyfodol. Er enghraifft, mae'r Bil yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gyhoeddi strategaeth awtistiaeth a chanllawiau cysylltiedig, a rhaid i awdurdodau lleol a chyrff y GIG gydymffurfio â hwy. Bydd y strategaeth a'r canllawiau yn destun ymgynghoriad ac adolygiad cyfnodol.
Mae'r Bil yn nodi gofynion ar gyfer casglu a chyhoeddi data. Gwneir hyn er mwyn gallu llunio cynlluniau parhaus a gwella gwasanaethau anhwylderau sbectrwm awtistiaeth. Mae'r Bil hefyd yn cydnabod y gallai rhai o'r heriau a wynebir gan bobl ag anhwylderau sbectrwm awtistiaeth, eu teuluoedd a gofalwyr gael eu helpu drwy fwy o ddealltwriaeth am anhwylderau sbectrwm awtistiaeth ymhlith y cyhoedd a darparwyr gwasanaeth. O ganlyniad, mae'r Bil yn rhoi sylw i'r angen am hyfforddiant ac yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gynnal ymgyrch codi ymwybyddiaeth er mwyn wella dealltwriaeth o anghenion pobl sydd ag anhwylderau sbectrwm awtistiaeth ymhlith y cyhoedd, cyflogwyr a darparwyr gwasanaeth.
Er mwyn diogelu ar gyfer y dyfodol, mae'r Bil yn defnyddio'r diffiniad o anhwylder sbectrwm awtistiaeth yn nosbarthiad clefydau rhyngwladol Sefydliad Iechyd y Byd. Golyga hyn, os bydd ein dealltwriaeth o anhwylder sbectrwm awtistiaeth yn newid yn y dyfodol, y bydd y Bil yn newid gyda'r ddealltwriaeth honno. Mae'r Bil hefyd yn cynnwys pŵer i gymhwyso ei ddarpariaethau mewn perthynas ag anhwylderau niwroddatblygiadol eraill. Mae'r pŵer hwn wedi'i gynnwys er mwyn lliniaru pryderon y gallai Bil awtistiaeth drwy amryfusedd leihau ffocws cyrff perthnasol ar fynd i'r afael ag anhwylderau niwroddatblygiadol eraill. Mater i Weinidogion Cymru fydd cyfiawnhau, drwy gyflwyno rheoliadau i'r Cynulliad eu hystyried, p'un a fyddai darpariaethau'r Bil yn briodol mewn perthynas ag anghenion pobl sydd ag anhwylderau niwroddatblygiadol eraill. Unwaith eto, fy mwriad sylfaenol oedd rhagweld y potensial i faterion sy'n codi yn y dyfodol a sicrhau bod y ddeddfwriaeth hon yn addas at y diben, nid yn unig yn awr ond yn y blynyddoedd i ddod.
I grynhoi, mae hwn yn Fil a ddatblygwyd ar gyfer diwallu anghenion pobl ag awtistiaeth, yn awr ac yn y dyfodol, unwaith ac am byth, gan sicrhau diagnosis amserol a gwell cefnogaeth ar draws y wlad, ni waeth ble rydych chi'n byw, a chynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o awtistiaeth a dealltwriaeth ehangach o'r cyflwr ymysg pob un ohonom.
Cyn cloi, Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddau ymgynghoriad a gynhaliais wrth ddatblygu'r Bil hwn, a'r cannoedd o unigolion, fel Sarah a'i merch, sydd wedi siarad yn bersonol gyda mi ynglŷn â'i argymhellion. Rwy'n falch fod y mwyafrif llethol o'r ymatebion wedi bod yn gadarnhaol iawn am y Bil, a bod y Bil wedi gwella o ganlyniad i'w mewnbwn. Rwy'n parhau i groesawu mewnbwn o'r fath, ac edrychaf ymlaen at drafodaethau agored a thrylwyr yn ystod taith ddeddfwriaethol y Bil hwn drwy'r Cynulliad, ac rwy'n ei gymeradwyo i'r Siambr.