– Senedd Cymru am 3:44 pm ar 18 Gorffennaf 2018.
Eitem 6 ar yr agenda y prynhawn yma yw datganiad gan Paul Davies ar gyflwyno Bil arfaethedig Aelod, Bil Awtistiaeth (Cymru). Galwaf ar Paul Davies i gyflwyno'r Bil hwnnw.
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Fel y gwyddoch, ddydd Gwener yr wythnos diwethaf, gosodais Fil Awtistiaeth (Cymru) yn y Swyddfa Gyflwyno. A gaf fi gofnodi fy niolch diffuant i Tom Jackson a'i dîm am eu cefnogaeth aruthrol a'u harweiniad wrth ddatblygu'r Bil hwn? A gaf fi ddiolch hefyd i Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru a'r rhanddeiliaid di-rif sydd wedi helpu i roi bod i'r Bil?
Deddfwriaeth sylfaenol yw hon i helpu i wella bywydau pobl sy'n byw gydag awtistiaeth ledled Cymru, ac mae'r bobl hynny o'n cwmpas ym mhob man: cydweithwyr, ffrindiau, teulu. Mae angen inni ddiwallu eu hanghenion, mae angen inni ddiogelu eu hawliau, mae angen inni wireddu eu potensial. Mewn dau ymarfer ymgynghori a chyfarfodydd niferus, mae'r gymuned awtistiaeth wedi dweud yn hynod o glir eu bod o blaid deddfwriaeth sylfaenol, gan fynegi ewyllys da tuag at Fil a'u cefnogaeth iddo. Wrth wneud hynny, maent wedi rhannu eu straeon a'u profiadau gyda mi. Hoffwn ddweud un stori o'r fath wrthych, er fy mod yn mynd i newid enwau'r bobl dan sylw.
Dywedodd mam o'r enw Sarah wrthyf sut y byddai ei merch fach weithiau'n ei cholli hi, sut y byddai'n colli pob rheolaeth pan fyddai pethau'n mynd yn rhy swnllyd a byddai'n crafu ei llygaid ei hun fel bod yn rhaid i Sarah geisio ei hatal rhag gwneud hynny, sut nad oedd ei brodyr yn deall pam roedd eu chwaer weithiau'n eu taro a pham nad oedd eu mam yn dweud y drefn wrthi. A'r holl amser y byddai Sarah yn ceisio ymdopi â hyn i gyd, a gwneud ei swydd, roedd hi hefyd yn ymladd i gael diagnosis i'w merch. Dywedodd wrthyf ei bod yn gorfod ymladd am bopeth, a'i fod yn waith mor flinedig pan fo'n rhaid i chi dreulio eich diwrnod yn edrych ar ôl plentyn sy'n eich pinsio, yn eich taro â'i phen ac yn eich cnoi. Nawr, y newyddion da yw bod merch Sarah wedi cael diagnosis o anhwylder sbectrwm awtistiaeth, a'u bod ill dwy bellach yn cael cymorth. Mae ganddynt strategaethau ar waith sy'n eu helpu i reoli pethau. Mae gan ei merch gardiau fflipio sy'n ei helpu i gynllunio ei gweithgareddau dyddiol arferol.
Nid wyf am awgrymu nad oes llawer o arferion cadarnhaol eisoes ar waith. Er bod arferion da mewn gwasanaethau i bobl ag anhwylder sbectrwm awtistiaeth i'w gweld mewn rhai rhannau o Gymru, y broblem yw bod gwasanaethau'n wael mewn ardaloedd eraill, ac mae amseroedd aros, am ddiagnosis yn arbennig, yn llawer rhy hir. Dyna pam rwy'n cyflwyno'r Bil hwn, oherwydd dangosodd tystiolaeth o ymchwil, a'r ddau ymgynghoriad a gynhaliais, fod gwasanaethau ledled Cymru ar gyfer pobl sydd ag anhwylder sbectrwm awtistiaeth yn anghyson, ac mewn rhai ardaloedd, mae'n annigonol. Nod y Bil hwn yw hyrwyddo arferion gorau mewn gwasanaethau awtistiaeth ym mhob rhan o Gymru ac i sicrhau bod pobl ag anhwylder sbectrwm awtistiaeth a'u teuluoedd a'u gofalwyr yn gallu dod o hyd i'w ffordd drwyddynt.
Mae'n glod i Lywodraeth Cymru ei bod wedi dewis cyhoeddi a chynnal strategaeth awtistiaeth sydd wedi sicrhau rhai gwelliannau amlwg i'r gwasanaeth. Mae'r Bil hwn yn ceisio adeiladu ar y datblygiadau hynny. Mae'n ei gwneud yn ofynnol i gyrff perthnasol gydymffurfio â'r strategaeth a chanllawiau cysylltiedig, gan sicrhau lefelau cyson o wasanaethau. Ac mae'n darparu fframwaith deddfwriaethol i sicrhau gwelliannau parhaus a pharhad y gwasanaeth yn fwy hirdymor.
Mae'n Fil sy'n anelu at gynnal ffocws llywodraethol ar anghenion pobl fel Sarah a'i merch, ni waeth pa hinsoddau gwleidyddol ac economaidd a welir yn y dyfodol. Er enghraifft, mae'r Bil yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gyhoeddi strategaeth awtistiaeth a chanllawiau cysylltiedig, a rhaid i awdurdodau lleol a chyrff y GIG gydymffurfio â hwy. Bydd y strategaeth a'r canllawiau yn destun ymgynghoriad ac adolygiad cyfnodol.
Mae'r Bil yn nodi gofynion ar gyfer casglu a chyhoeddi data. Gwneir hyn er mwyn gallu llunio cynlluniau parhaus a gwella gwasanaethau anhwylderau sbectrwm awtistiaeth. Mae'r Bil hefyd yn cydnabod y gallai rhai o'r heriau a wynebir gan bobl ag anhwylderau sbectrwm awtistiaeth, eu teuluoedd a gofalwyr gael eu helpu drwy fwy o ddealltwriaeth am anhwylderau sbectrwm awtistiaeth ymhlith y cyhoedd a darparwyr gwasanaeth. O ganlyniad, mae'r Bil yn rhoi sylw i'r angen am hyfforddiant ac yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gynnal ymgyrch codi ymwybyddiaeth er mwyn wella dealltwriaeth o anghenion pobl sydd ag anhwylderau sbectrwm awtistiaeth ymhlith y cyhoedd, cyflogwyr a darparwyr gwasanaeth.
Er mwyn diogelu ar gyfer y dyfodol, mae'r Bil yn defnyddio'r diffiniad o anhwylder sbectrwm awtistiaeth yn nosbarthiad clefydau rhyngwladol Sefydliad Iechyd y Byd. Golyga hyn, os bydd ein dealltwriaeth o anhwylder sbectrwm awtistiaeth yn newid yn y dyfodol, y bydd y Bil yn newid gyda'r ddealltwriaeth honno. Mae'r Bil hefyd yn cynnwys pŵer i gymhwyso ei ddarpariaethau mewn perthynas ag anhwylderau niwroddatblygiadol eraill. Mae'r pŵer hwn wedi'i gynnwys er mwyn lliniaru pryderon y gallai Bil awtistiaeth drwy amryfusedd leihau ffocws cyrff perthnasol ar fynd i'r afael ag anhwylderau niwroddatblygiadol eraill. Mater i Weinidogion Cymru fydd cyfiawnhau, drwy gyflwyno rheoliadau i'r Cynulliad eu hystyried, p'un a fyddai darpariaethau'r Bil yn briodol mewn perthynas ag anghenion pobl sydd ag anhwylderau niwroddatblygiadol eraill. Unwaith eto, fy mwriad sylfaenol oedd rhagweld y potensial i faterion sy'n codi yn y dyfodol a sicrhau bod y ddeddfwriaeth hon yn addas at y diben, nid yn unig yn awr ond yn y blynyddoedd i ddod.
I grynhoi, mae hwn yn Fil a ddatblygwyd ar gyfer diwallu anghenion pobl ag awtistiaeth, yn awr ac yn y dyfodol, unwaith ac am byth, gan sicrhau diagnosis amserol a gwell cefnogaeth ar draws y wlad, ni waeth ble rydych chi'n byw, a chynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o awtistiaeth a dealltwriaeth ehangach o'r cyflwr ymysg pob un ohonom.
Cyn cloi, Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddau ymgynghoriad a gynhaliais wrth ddatblygu'r Bil hwn, a'r cannoedd o unigolion, fel Sarah a'i merch, sydd wedi siarad yn bersonol gyda mi ynglŷn â'i argymhellion. Rwy'n falch fod y mwyafrif llethol o'r ymatebion wedi bod yn gadarnhaol iawn am y Bil, a bod y Bil wedi gwella o ganlyniad i'w mewnbwn. Rwy'n parhau i groesawu mewnbwn o'r fath, ac edrychaf ymlaen at drafodaethau agored a thrylwyr yn ystod taith ddeddfwriaethol y Bil hwn drwy'r Cynulliad, ac rwy'n ei gymeradwyo i'r Siambr.
Diolch yn fawr iawn. A gaf fi alw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol? Vaughan Gething.
Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd, a diolch i'r Aelod sy'n gyfrifol am ei ddatganiad ac am y sgyrsiau a gawsom dros gyfnod o amser yn arwain at heddiw. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau'n ymrwymedig i gefnogi a gwella'r amrywiaeth o wasanaethau sydd ar gael ar gyfer plant ac oedolion sydd ag anhwylder sbectrwm awtistiaeth, eu teuluoedd a'u gofalwyr. Er bod Cymru wedi arwain y ffordd yn y DU drwy ddatblygu polisïau i gefnogi pobl ag awtistiaeth a'u teuluoedd a'u gofalwyr, rwy'n parhau'n ymwybodol iawn o'r heriau sy'n wynebu pobl wrth geisio cael gofal a chymorth o ansawdd uchel. Gwelaf yr heriau hyn nid yn unig fel Aelod etholaeth ac fel Gweinidog ond hefyd yn rhai o fy nghysylltiadau personol fy hun, ac ni all unrhyw un amau'r dewrder y mae pobl ag anhwylder sbectrwm awtistiaeth a'u teuluoedd a'u gofalwyr yn ei ddangos bob dydd. Mae gweld y dewrder hwn ac ymdrechion y mae teuluoedd yn eu gwneud i sicrhau bod pobl yn eu teuluoedd yn parhau i gael gwasanaeth a chyfle yn gwneud i mi deimlo'n wylaidd iawn, ac mae'n naturiol y byddai pawb yn y Siambr am wneud popeth yn eu gallu i'w cefnogi . Felly, rwy'n llongyfarch yr Aelod ar y gwaith a wnaeth dros y misoedd diwethaf ac am ddod â'r Bil i'r cam hwn yn y Cynulliad.
Wrth gwrs, ceir nifer o gwestiynau y bydd angen inni eu gofyn i ni'n hunain dros y misoedd nesaf, ac yn benodol, a fydd y ddeddfwriaeth hon ar yr adeg hon yn gwella gwasanaethau a chanlyniadau a phrofiad pobl ymhellach. Mae yna gwestiwn amgen wrth gwrs a fydd y ddeddfwriaeth hon ond yn cael effaith fach neu effaith negyddol o bosibl os yw'n tynnu'r ffocws oddi ar fesurau gwella gwasanaeth a roddwyd ar waith yn y tymor Cynulliad hwn, mesurau rydym yn parhau'n ymrwymedig iddynt.
Fel y dywedais yn fy natganiad llafar y mis diwethaf, gall Llywodraeth Cymru ddangos camau ymarferol a gymerwyd gennym i wella gwasanaethau awtistiaeth, gyda chymorth dros £13 miliwn o fuddsoddiad newydd, a chreu gwasanaeth awtistiaeth integredig ledled Cymru. Wrth gwrs, nid yw'r sefyllfa'n berffaith, ond gwneir cynnydd gwirioneddol, a cheir risg o darfu arno. Mae'r adroddiad blynyddol ar weithredu'r cynllun gweithredu strategol ar anhwylderau sbectrwm awtistiaeth yn nodi'r cynnydd a wnawn. I gadarnhau ein hymrwymiad yn y dyfodol, cyn bo hir byddwn yn cyhoeddi ymgynghoriad ar god ymarfer ar ddarparu gwasanaethau awtistiaeth. Mae strategaeth awtistiaeth wedi bod ar waith gennym ers dros 10 mlynedd ac ni cheir unrhyw rheswm dros gredu na fydd yn parhau.
Buaswn yn gofyn i'r Aelod sy'n gyfrifol am y Bil a'r Aelodau sy'n craffu i ystyried rhai o'r pwyntiau canlynol dros y misoedd nesaf: i ystyried sut y bydd y Bil hwn yn ychwanegu gwerth at yr ymrwymiadau sydd eisoes yn cael eu cyflawni drwy'r strategaeth bresennol; beth yw'r ymateb i'r pryderon a godwyd gan nifer o bobl drwy'r ymgynghoriad ar y Bil drafft y gallai'r ddeddfwriaeth roi mantais ychwanegol i un cyflwr dros rai eraill; ac i ofyn i'r Bil gynyddu disgwyliadau mewn perthynas â'n gwasanaethau statudol sydd dan bwysau drwy gyflwyno targedau amser aros ar gyfer cael asesiad o 13 wythnos—nid yn unig y dystiolaeth sy'n sail i hynny, ond cydbwysedd y risg honno yn erbyn agweddau eraill ar y gwasanaeth, ac a fyddant yn dioddef, wrth i adnoddau, yn ddealladwy, gael eu cyfeirio tuag at asesiad. Mae aelodau o'n grŵp cynghori ar anhwylderau sbectrwm awtistiaeth, cymuned ymarfer diagnostig anhwylderau sbectrwm awtistiaeth a gwasanaethau awtistiaeth integredig rhanbarthol eisoes wedi mynegi eu pryderon eu hunain ynglŷn â hyn.
A yw deddfu ar gyfer yr hyn sy'n dal i fod yn ystod gymharol gul o ddata meddygol yn ddefnydd priodol o ddeddfwriaeth? Mae'n ymddangos i mi nad oes modd osgoi gweld hynny'n ein clymu, o bosibl, wrth ddull y gallai fod angen iddo newid wrth i wybodaeth feddygol ynglŷn â gofal a thriniaeth newid. Clywais yr hyn a ddywedodd yr Aelod yn ei ddatganiad agoriadol, ond credaf fod perygl gwirioneddol o hyd er hynny o gael ein clymu wrth ddull y byddem eisiau ei newid. Yn hollbwysig, pam y byddai'r ddeddfwriaeth yn gwella ein gallu i fynd i'r afael â'r broblem graidd o dyfu neu recriwtio clinigwyr sydd â chymwysterau addas? Ac wrth gwrs, ceir costau'r ddeddfwriaeth hon a sut y cânt eu talu. Nawr, bydd yr Aelodau wedi cael sesiwn friffio ar y cyd gan Gydffederasiwn y GIG, a phedwar gwahanol goleg brenhinol, rwy'n credu, sy'n nodi amrywiaeth o gwestiynau i'w gofyn yn ystod hynt y Bil yn ogystal.
I grynhoi, mae pobl ag anhwylder sbectrwm awtistiaeth, eu teuluoedd a'u gofalwyr yn haeddu gwell gwasanaethau ar sail fwy cyson, ac maent yn haeddu ein cefnogaeth i'r rheini. Yn Llywodraeth Cymru, credwn fod gennym gynllun gweithredu clir ar gyfer gwneud hynny, gydag ymrwymiad ac adnoddau ariannol yn wir ar gyfer cyflawni hynny. Wrth gwrs, ceir achos y bydd yr Aelodau am ei ystyried dros adael i'r mesurau newydd a roddwyd ar waith ymsefydlu ac i adolygu cynnydd yn hytrach na deddfu yn awr. Dyna'r dewis i'r Aelodau ei wneud. Ond bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ymwneud yn adeiladol â hynt y Bil a thrwy broses y Cynulliad. Ein cwestiwn allweddol, fodd bynnag, yw a fydd y Bil hwn yn gwella profiadau a chanlyniadau, a bydd hynny'n llywio ein hymagwedd tuag at y cam nesaf. Rydym yn edrych ymlaen at glywed y dystiolaeth, ei gweld yn cael ei phrofi a chymryd rhan yn y broses graffu.
A gaf fi ddechrau drwy ddweud bod Ysgrifennydd y Cabinet a minnau eisiau gweld gwelliannau mewn gwasanaethau, ac mae'r ddau ohonom eisiau gweld gwell canlyniadau yn cael eu cyflawni ledled Cymru? Yn y cyfarfodydd a gawsom gyda'n gilydd rwy'n credu ein bod ein dau wedi gwneud hynny'n gwbl glir. Rydym ar yr un dudalen yn ein hawydd i wella gwasanaethau i bobl ag awtistiaeth, ond credaf mai cyflwyno deddfwriaeth sylfaenol yw'r unig ffordd o wneud yn siŵr ein bod yn rhoi gwasanaethau ar sail statudol, a'n bod yn gweld cysondeb yn y gwasanaethau ar draws Cymru. Rwy'n derbyn bod mesurau wedi eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, yr hyn sy'n glir yw mai'r materion a nodwyd yn y strategaeth gyntaf yn 2008 yw'r un materion sy'n parhau yn awr yn 2018: diagnosis, data, gwasanaethau cymorth, hyfforddiant, cyflogaeth, tai, iechyd meddwl—i enwi ond ychydig. Dyna beth y mae pobl yn ei ddweud wrthyf am y mater hwn—mai dyna'r un materion a gâi eu trafod bryd hynny, 10 mlynedd yn ôl, a dyna pam y mae angen deddfwriaeth sylfaenol.
Nawr, soniodd Ysgrifennydd y Cabinet, wrth gwrs, am ei god ymarfer. Y broblem gyda chyflwyno cod yw y gellir ei ddirymu. Nid yw'n sicrhau ffocws parhaus ar yrru a gwella gwasanaethau, a bydd y Bil hwn wrth gwrs yn rhoi sicrwydd wrth symud ymlaen, oherwydd pan gyflwynir cod, ni ellir craffu arno, ei ddiwygio na'i wella, yn wahanol i ddarn o ddeddfwriaeth. Bydd fy neddfwriaeth i'n mynd drwy broses graffu'r Cynulliad, ac mae'r gymuned awtistiaeth, yn yr ymgynghoriadau a gynhaliais, wedi mynegi'n glir y byddai'n well ganddynt weld deddfwriaeth sylfaenol. Mae ymgynghoriadau dilynol wedi dangos bod angen Bil, nid cod, arnom. Rwy'n bryderus braidd hefyd ynglŷn ag i ba raddau y byddai cod yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol ddilyn ei ofynion, yn hytrach nag ystyried ei ofynion. Mae fy Mil yn hollol glir: bydd yn gwneud yn siŵr ei bod hi'n ofynnol i awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol gynnig gwasanaethau yn eu hardaloedd lleol. Dyna'r gwahaniaeth rhwng eich cod a'r darn hwn o ddeddfwriaeth.
Nawr, soniodd Ysgrifennydd y Cabinet hefyd am gostau. Nid oes dianc rhag y ffaith y bydd deddfwriaeth sy'n gwella gwasanaethau i bobl ag anhwylder sbectrwm awtistiaeth yn costio arian. Fodd bynnag, credaf fod y costau hynny'n werth chweil i'r unigolion yr effeithir arnynt a byddant hefyd yn y pen draw yn arwain at arbedion economaidd hirdymor. Er enghraifft, mae'r Bil yn nodi bod rhaid i'r strategaeth awtistiaeth ei gwneud yn ofynnol i gyfarfod diagnostig cyntaf ddigwydd o fewn yr amserlen a nodir gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE). Ar hyn o bryd, ffrâm amser NICE ar gyfer cyfarfod diagnostig cyntaf yw ei fod yn digwydd o fewn tri mis i atgyfeirio. Targed Llywodraeth Cymru yw bod pobl yn aros am hanner blwyddyn am gyfarfod diagnostig cyntaf. Bydd costau ynghlwm wrth leihau'r targed aros hanner blwyddyn hwn, fel y nodir yn y memorandwm esboniadol i'r Bil hwn. Wedi dweud hynny, mae'n economi ffug i feddwl na fydd costau'n gysylltiedig â rhywun sydd heb gael diagnosis eto. Heb ddiagnosis cywir, mae gwasanaethau'n llai tebygol o fod wedi eu teilwra'n dda ac mor effeithiol ag y gallent fod, a bydd llawer o gostau adweithiol yn codi.
Felly, rwy'n ei annog i ailystyried ei safbwynt. Rwy'n credu mai dyma'r ffordd orau o wneud yn siŵr fod gennym ymagwedd gyson ledled Cymru, drwy gyflwyno deddfwriaeth, oherwydd drwy wneud hynny, byddwn yn sicrhau y caiff gwasanaethau eu rhoi ar sail statudol ar gyfer y dyfodol.
A gaf fi ddiolch i Paul am gyflwyno hyn? Fel Cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar awtistiaeth dros nifer o flynyddoedd, gwn fod hon wedi bod yn alwad sylfaenol gan y gymuned awtistiaeth yn gyffredinol. Gyda nifer fawr o bobl ar y sbectrwm, mae eu teuluoedd, eu gofalwyr a'r gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda hwy ar y rheng flaen yn galw am hyn mewn niferoedd enfawr.
Rwy'n cydnabod nad yw awtistiaeth yn fater iechyd meddwl nac anhawster dysgu, ac felly mae'n disgyn rhwng y ddwy stôl. Ar hyn o bryd, mae pethau'n annelwig o gwmpas yr ymylon o ganlyniad i'r gwasanaethau gwael a brofir yn rhy aml. Gwn hefyd, o fy ngwaith achos fy hun a fy ngwaith fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar awtistiaeth, ac rwy’n tybio bod miliynau lawer o bunnoedd yn cael eu gwastraffu ar wneud hyn yn anghywir, gyda phwysau ar wasanaethau eilaidd a statudol na ddylai fod yno, pan ellid ymdrin â hyn drwy gydweithio effeithiol, cydgynhyrchu, ymyrraeth gynnar ac atal.
Cawsom sesiwn friffio gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru cyn y datganiad hwn, sy'n cyfeirio at y cynllun gweithredu strategol newydd, a chredir mai dyma'r unig strategaeth ar gyfer anhwylderau sbectrwm awtistiaeth yn y byd, ond mae hynny'n rhywbeth a glywsom dros flynyddoedd lawer cyn hynny hefyd, ar ôl i'r strategaeth awtistiaeth gychwynnol gael ei lansio. Mewn gwirionedd, bob tro y câi ei chrybwyll, dyna oedd yr honiad, mai dyna oedd y strategaeth gyntaf, ond gwyddom hefyd fod y gymuned wedi dweud wrthym na chafodd fudd ohoni.
Pan arweiniais y ddadl, y pleidleisiodd y Cynulliad hwn drosti, ym mis Ionawr 2015, yn galw am Ddeddf awtistiaeth pan bleidleisiodd y cyfarfod o'i phlaid, cyfeiriais at y cyfarfod o'r grŵp trawsbleidiol y mis Tachwedd blaenorol pan bleidleisiodd y bobl a'i mynychodd, a gynrychiolai gymunedau ledled Cymru gyfan, yn ogystal â grŵp mawr o Aelodau'r Cynulliad, yn unfrydol o blaid galw am Ddeddf awtistiaeth. A ydych yn cytuno â mi felly fod y dystiolaeth a glywsom wedyn yn cadarnhau'r angen am ddeddfwriaeth sylfaenol, pan glywsom gan, er enghraifft, gan Wynedd ac Ynys Môn, a ddywedodd wrthym fod diagnosis yn gwella, ond nad oedd cefnogaeth ar ôl diagnosis ar gael, a bod angen Deddf awtistiaeth i ddiogelu ac atgyfnerthu gwasanaethau a sicrhau cysondeb yn y cymorth? Clywsom gan Ben-y-bont ar Ogwr am y gobaith a ddilynodd y strategaeth awtistiaeth, ond nad oedd wedi cyflawni'r hyn y gallai fod wedi'i gyflawni, a bod pryder ymysg grwpiau rhanddeiliaid lleol yn Mhen-y-bont ar Ogwr ynglŷn â lle'n union roedd awtistiaeth yn ffitio i mewn.
Pan arweiniais y ddadl yma ym mis Hydref 2016, gyda'r Llywodraeth, yn anffodus, yn chwipio ei meinciau cefn i'w threchu, cyfeiriais hefyd at dystiolaeth, er enghraifft, o Ystradgynlais, fod pobl yn teimlo'n siomedig ac yn ddig eu bod wedi gorfod ymladd mor galed i gael y cymorth sydd ei angen arnynt, ac roedd hi'n bwysig nad oedd pobl ag awtistiaeth yn anweledig i'r gwasanaethau mwyach; ac er enghraifft, o sir Gaerfyrddin a sir Benfro, fod y strategaeth yn addo cyflawni cymaint fel bod pobl yn cael eu gwthio i argyfwng pellach. Felly, unwaith eto, a ydych yn cytuno â mi nad yw brolio am fod y cyntaf yn fesur o lwyddiant? Mesur llwyddiant yw sut y mae hyn yn effeithio ar fywydau'r bobl y mae i fod i'w cefnogi.
A ydych yn cytuno bod yr angen am y Bil hwn a'r Ddeddf i'w ganlyn yn cael ei bwysleisio ymhellach gan yr achos adolygiad barnwrol yn ymwneud â methiant i asesu a diwallu anghenion oedolyn awtistig ifanc ym mis Mai eleni, a arweiniodd at Gyngor Sir y Fflint yn cytuno i ddarparu ymddiheuriad ffurfiol a dyfarnu iawndal oherwydd methiant i fodloni gofynion rheoliadau a chodau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), a'i fod yn atgyfnerthu'r angen am ddeddfwriaeth awtistiaeth benodol?
A ydych yn cytuno â mi bod siart a gefais gan grŵp o rieni plant awtistig ddoe ddiwethaf, lle mae niferoedd mawr ohonynt yn nodi methiant ysgolion i adnabod anawsterau plant; methiant iechyd i nodi anawsterau plant; diwylliant asiantaethau o ddiystyru teuluoedd, beio, neu fygwth; diffyg cysylltiad a chydweithio neu gysylltiad a chydweithio annigonol rhwng asiantaethau statudol; teulu nad yw wedi cael gwybod am hawl plant anabl i eiriolaeth gan awdurdod addysg lleol—? Ceir tudalennau yn rhagor o hyn, gyda nifer o rieni a welodd eu bod yn rhannu profiadau sy'n union yr un fath. Rhieni yn sir y Fflint ydynt yn bennaf, ond hefyd yn sir Ddinbych. Cefais hwn ddoe. A ydych yn cytuno bod yr e-bost hwn a gefais gan riant yng ngogledd Cymru ddoe yn cadarnhau ymhellach yr angen am Ddeddf?
Rwyf wrthi'n gorffen cywiriadau'r asesiad a'r cynllun gofal, a ddrafftiwyd gan y gwasanaethau cymdeithasol ar gyfer fy mhlentyn. Fy nod yw dangos eu bod naill ai wedi camglywed yn ddybryd neu wedi methu gwneud nodiadau cywir o'r hyn rwyf wedi'i ddweud wrthynt, neu eu bod wedi hepgor gwybodaeth a manylion a roddais iddynt yn llwyr.
Rwy'n cael negeseuon e-bost fel hyn bob dydd.
A ydych yn dirwyn i ben, os gwelwch yn dda?
Mae'r rhain a llawer o faterion eraill yn pwysleisio'r angen am Ddeddf. Fy mhwynt olaf: a wnewch chi gadarnhau bod y gwerthusiad cychwynnol, y gwerthusiad interim o'r gwasanaeth awtistiaeth integredig, yn anad dim—
Mae'n ddrwg gennyf. A wnewch chi ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda? Rydych wedi cael dros bum munud.
Ac mae'n fater angerddol, yn fater pwysig tu hwnt, ond rwy'n derbyn yn llwyr—
Mae 30 munud ar gyfer pawb, ac mae gennyf restr hir o siaradwyr rwyf am geisio'u cynnwys hefyd.
O'r gorau. Mae'r ffaith bod hwnnw wedi dod o hyd i wendidau ac anghysondebau yn asesiadau a gwasanaethau diagnostig y strategaeth awtistiaeth integredig, a methiant i gydgynhyrchu, a dull o'r brig i lawr, sydd wedi llesteirio datblygiad y rhain—os cawn hynny'n iawn o'i osod ar sail statudol, gallwn ddechrau darparu gwasanaethau o'r diwedd ac os mai'r flaenoriaeth yw arian, fel y gwelais o'r fan hon, gallwn arbed arian hefyd.
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gefnogaeth? Mae'r Aelod wedi ymgyrchu'n ddiflino i wella gwasanaethau awtistiaeth drwy gydol ei amser yma, ac mae wedi gwneud gwaith gwych yn codi'r materion hyn fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar awtistiaeth. Mae'n rhywun sydd wedi bod yn hyrwyddo Bil pwrpasol ers llawer o flynyddoedd er mwyn inni allu gweld y gwelliannau sydd eu hangen ym mhob rhan o Gymru. Mae ei egni, ei frwdfrydedd, ei ymroddiad, ei ymrwymiad wedi bod yn ddiguro. Rwyf wedi croesawu'r gwahoddiad drwy'r Aelod i annerch y grŵp trawsbleidiol ar awtistiaeth, ac mae wedi rhoi dealltwriaeth well i mi ynglŷn â rhai o'r materion sy'n wynebu pobl sy'n byw gydag awtistiaeth.
Credaf fod yr Aelod yn llygad ei le. Rydym wedi derbyn tystiolaeth sylweddol ac arwyddocaol, nid yn unig drwy gydol datblygiad y Bil hwn, ond rydym wedi derbyn tystiolaeth sylweddol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf fod pobl am weld deddfwriaeth yn y maes hwn oherwydd eu bod yn credu y gallwn, drwy gyflwyno deddfwriaeth, gryfhau'r gwasanaethau hyn. Felly mae'n hollbwysig, yn fy marn i, ein bod yn gweld y ddeddfwriaeth hon yn cael ei phasio drwy'r lle hwn, er mwyn inni wneud yn siŵr fod gwasanaethau yn cael eu rhoi ar sail statudol, fel y gallwn sicrhau bod gwasanaethau'n gyson ledled Cymru. Oherwydd dyna'r hyn a glywn bob amser—yr anghysondeb fod rhai gwasanaethau ar gael, ond mewn ardaloedd eraill, nid yw'r gwasanaethau ar gael. Drwy gyflwyno'r ddeddfwriaeth hon byddwn yn sicrhau y bydd gwasanaethau'n gyson ledled Cymru.
Mae'r Aelod wedi rhoi nifer o enghreifftiau ac mae hefyd wedi rhoi nifer o brofiadau pobl lle na chyflawnwyd gwelliannau, a dyna pam ei bod hi'n bwysig ein bod yn cael hyn yn iawn, a dyna pam y mae'n bwysig ein bod yn gweld y ddeddfwriaeth hon yn cael ei phasio gan y lle hwn.
Diolch. Rhun ap Iorwerth.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rydw i'n llongyfarch yr Aelod am ddod â'r ddeddfwriaeth yma ger ein bron ni. Rydym ni fel plaid wedi credu ers amser y gallai Deddf awtistiaeth gynnig budd eang i bobl sydd yn byw efo awtistiaeth, yn sicr o ran annog diagnosis, taclo materion fel amseroedd aros, ac, rydw i'n meddwl, delifro cysondeb hefyd ar draws Cymru. Rydw i'n ymwybodol hefyd fod yna randdeiliaid sydd ag amheuon am werth deddfwriaeth. Rydw i'n clywed yn gyson beth mae'r Llywodraeth yn ei ddweud. Rydw i'n clywed y bobl sydd yn dweud, 'Watsiwch chi fynd lawr y ffordd yma. Bydd yna bobl eraill efo salwch eraill neu gyflyrau eraill am gael deddfwriaeth benodol ar eu cyfer nhw.' Ond rydw i'n edrych ymlaen at weld y gwaith y mae'r pwyllgor yn ei wneud yn y maes yma.
Mi fyddwn i'n licio gwybod—a gwnaf ganolbwyntio dim ond ar y pwynt yma—beth ydy barn yr Aelod am un mater, rydw i'n meddwl, sydd angen ei herio, sef y syniad yma o awtistiaeth fel salwch neu gyflwr gan rai—y model meddygol, os liciwch chi. Sut mae o'n meddwl y gallai deddfwriaeth newid a herio'r canfyddiad hwnnw? Achos mae'r canfyddiad yna o awtistiaeth yn methu'r pwynt braidd, rydw i'n meddwl. Rydw i'n meddwl y dylem ni o bosibl fod yn meddwl llawer mwy yn nhermau niwro-amrywiaeth; hynny ydy, dylem ni weld awtistiaeth, Asperger's ac ati fel ffyrdd gwahanol mae'r ymennydd yn gweithio. Mae yna ddigon o enghreifftiau erbyn hyn o sut mae sefydliadau neu gwmnïau yn gweld nodweddion arbennig, nodweddion positif, mewn pobl sydd â'u hymenyddion yn gweithio mewn ffordd wahanol. Mae GCHQ wedi bod yn recriwtio pobl sydd ddim yn neurotypical oherwydd eu bod nhw'n dadansoddi data mewn ffordd wahanol.
Rydw i'n meddwl y gallai deddfwriaeth helpu i newid agweddau mewn ffordd bositif. Mi fydd rhai ar y sbectrwm yn cael eu hystyried i fod ag anabledd yn barod, ac yn cael cefnogaeth yn hynny o beth, ond beth rydym ni ei angen, rydw i'n meddwl, ydy cydnabod nodweddion ac rydw i'n meddwl y gallai deddfwriaeth fod yn ddefnyddiol. Mi fydd rhai pobl ar y sbectrwm, drwy gael eu cydnabod fel bod ag anabledd, yn cael cefnogaeth drwy ddeddfwriaeth cydraddoldeb. Ond, pe baem ni'n meddwl yn wahanol, ac yn ystyried niwro-amrywiaeth fel nodwedd benodol a neilltuol o fewn y maes cydraddoldeb, mi allai hynny fod yn bositif er mwyn newid y ffordd mae gwasanaethau'n cael eu cynllunio a'r ffordd mae gwasanaethau’n cael eu delifro. Ac nid wyf yn argyhoeddedig bod y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a'r Ddeddf anghenion dysgu ynddyn nhw eu hunain yn ddigon i newid y ffordd rydym ni'n meddwl am ASD yng Nghymru. Felly, rydw i'n gobeithio y bydd y broses bwyllgor yn edrych ar y maes hwnnw ac mi fyddai'n dda gen i glywed barn yr Aelod ar y potensial i'r ddeddfwriaeth wneud hyn.
A gaf i ddiolch i'r Aelod a'i blaid am eu cefnogaeth i'r Bil yma? Rydw i'n falch iawn o glywed y byddan nhw yn cefnogi'r Bil. Rwy'n deall, wrth gwrs, y bydd ef a'i blaid hefyd yn sgrwtineiddio'r Bil dros y misoedd nesaf, ond o beth rydw i wedi'i glywed oddi wrtho fe heddiw, mae'n edrych i fi ei fod e'n cefnogi deddfwriaeth yn y maes yma.
Mae e hefyd yn iawn o ran cysondeb. Mae'n bwysig iawn fod yna cysondeb, rydw i'n credu, ar draws Cymru. Dyna beth nad ydym wedi'i weld, yn anffodus, dros y blynyddoedd diwethaf, oherwydd, yn anffodus, rydym ni wedi gweld gapiau mewn gwasanaethau. Felly, mae'n bwysig ein bod ni'n gweld y cysondeb yma, a dyna'r unig ffordd i gael cysondeb, yn fy marn i, yw gweld deddfwriaeth fel hyn yn cael ei phasio yn y lle hwn.
Rydw i'n credu bod e hefyd yn iawn i edrych ar hyn nid fel salwch ond fel niwro-amrywiaeth. Rydw i'n cytuno gydag ef yn llwyr ac mae'r Bil hwn yn ei gwneud hi'n eithaf clir bod yn rhaid i ni godi ymwybyddiaeth ymysg pawb, ymysg y cyhoedd hefyd, ac mae'r ddeddfwriaeth hon yn mynd i wneud hynny oherwydd, wrth gwrs, fel rhan o'r Bil bydd yn rhaid i Weinidogion sicrhau bod yna ymgyrch barhaol yn mynd ymlaen i sicrhau bod yr ymwybyddiaeth yna'n cael ei chodi ymysg y cyhoedd. Felly, rydw i'n edrych ymlaen, wrth gwrs, i ddelio â'r pwyllgor mae e'n eistedd arno ac yn edrych ymlaen at y sgrwtini rydw i'n siŵr y bydd e'n ei roi i'r ddeddfwriaeth yma dros y misoedd nesaf.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Paul Davies am ei ymdrechion parhaus i wneud Deddf awtistiaeth i Gymru yn realiti. Bydd y Bil hwn yn helpu i gyflawni'r hyn y mae rhai ag anhwylderau sbectrwm awtistiaeth wedi galw amdano ers blynyddoedd—camau gweithredu i wella gwasanaethau awtistiaeth yng Nghymru. Camau gweithredu y mae'r cynllun gweithredu ar anhwylderau sbectrwm awtistiaeth wedi methu eu sicrhau hyd yma.
Ar nifer o achlysuron, mae'r Gweinidog wedi gwadu bod unrhyw angen am y Bil hwn, ond mae'n amlwg nad yw strategaethau blaenorol a'r ddeddfwriaeth bresennol wedi gwneud digon i wella gwasanaethau ar gyfer plant ac oedolion ar y sbectrwm awtistiaeth. Ac mae fy ngwaith achos yn dystiolaeth o hyn. Dylai fod yn destun cywilydd cenedlaethol, mewn sawl rhan o Gymru, nad oes llwybrau clir i ddiagnosis o awtistiaeth, er gwaethaf y ffaith bod y gwasanaeth awtistiaeth integredig wedi'i gyflwyno.
Hoffwn dynnu sylw at achos a ddaeth i fy sylw. Ni chaniatawyd i fenyw ifanc sydd ag awtistiaeth, ar y sbectrwm awtistiaeth, i fynd i'r prom ysgol am nad oedd ganddi lefel presenoldeb o 85 y cant yn yr ysgol. Weithiau, ni allai wynebu mynd i'r ysgol, ac roedd ei phresenoldeb yn isel, oherwydd ei bod hi'n hunan-niweidio; ar adegau eraill, roedd hi am fod ar ei phen ei hun. A chredaf fod hwn yn un maes sydd wedi peri dychryn imi, fod gwahaniaethu'n digwydd, am fod plentyn—wel, menyw ifanc—wedi ymdrechu'n galed gyda lefel presenoldeb o 79 y cant i fynd i'r prom ac ni chafodd wneud hynny. Felly, os bydd Deddf Paul yn gwneud unrhyw beth, yna rwy'n gobeithio, Paul, y byddai'n tynnu sylw at sefyllfaoedd fel hyn ac yn cael gwared arnynt.
Fel y mae Paul Davies eisoes wedi nodi, byddai'r Bil hwn yn gosod dyletswydd ar bob bwrdd iechyd i wneud yn siŵr fod llwybr clir i'r cyhoedd gael diagnosis. Bydd y Bil yn sicrhau bod staff sy'n gweithio yn ein GIG a'r sector gofal cymdeithasol yng Nghymru yn cael eu hyfforddi'n well ac mewn gwell sefyllfa i gefnogi'r rhai ar y sbectrwm awtistiaeth, ac yn helpu i roi diwedd ar y bylchau yn y gwasanaethau. Mae pobl ar y sbectrwm yn cael gwasanaethau sydd naill ai'n canolbwyntio ar anghenion dysgu ychwanegol neu ar ddarpariaeth iechyd meddwl, ac mae llawer, yn anffodus, yn disgyn drwy'r bylchau sy'n bodoli rhwng ein gwasanaeth iechyd a'n gwasanaeth addysg.
Mae 10 mlynedd ers cyhoeddi'r cynllun gweithredu strategol ar awtistiaeth, ac ychydig iawn sydd wedi newid i'r rhai sydd ar y sbectrwm. Mae'r angen am eiriau wedi hen fynd heibio. Rwy'n cefnogi'r bwriad sy'n sail i'r Bil hwn ac yn edrych ymlaen at sicrhau ei daith gyflym drwy'r pwyllgor iechyd.
Paul, a allwch ymhelaethu ar y gefnogaeth sydd i'r Bil hwn gan y cyhoedd yn ehangach? A gawsoch chi'r argraff nid yn unig fod yn well gan y cyhoedd weld Bil, ond ei fod yn hanfodol? Ceir rhai sy'n dweud bod mesurau o'r fath yn gostus. Paul, a wnaed unrhyw asesiad o'r costau o beidio â chyflwyno'r Bil hwn? Yn olaf, mae yna bryderon y bydd cyflwyno deddfwriaeth sy'n ymwneud â chyflwr penodol yn arwain at alwadau am ddeddfwriaeth ar gyfer nifer o gyflyrau eraill. Felly, sut y byddech yn ateb y pryderon hynny?
Diolch ichi unwaith eto am gyflwyno'r Bil hwn. Edrychaf ymlaen at wneud gwaith craffu manwl a sicrhau bod y Bil yn dod yn Ddeddf cyn gynted â phosibl. Diolch.
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei chefnogaeth, ac am gefnogaeth ei phlaid i'r Bil hwn? Mae hi'n iawn, er gwaethaf y strategaeth a gyflwynwyd 10 mlynedd yn ôl, rydym yn dal i weld prinder gwasanaethau ar gyfer pobl ag awtistiaeth mewn rhai rhannau o Gymru.
Mae hi'n codi'r pwynt am osod dyletswydd ar gyrff, a bydd y Bil hwn mewn gwirionedd yn gosod dyletswydd ar fyrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol i sicrhau y caiff gwasanaethau eu darparu yn holl gymunedau Cymru. Mae hefyd yn bwysig dweud, rwy'n credu, y bydd y Bil hwn yn sicrhau bod llwybr clir i ddiagnosis o awtistiaeth, ac rwy'n siŵr ei bod wedi cael enghreifftiau, ac wedi cael etholwyr yn cysylltu â hi, lle mae rhieni wedi methu cael diagnosis i'w plant. Yn fy ardal i, yn sir Benfro, yn anffodus, gwn am rieni y mae eu plant wedi aros hyd at saith mlynedd cyn cael diagnosis. Mae hynny'n gwbl annerbyniol, a dyna pam y mae angen newid, dyna pam y mae angen inni wneud yn siŵr ein bod yn gweld y Bil hwn yn pasio, oherwydd bydd y Bil hwn yn sail i'r gwasanaethau hynny.
Mae hi wedi codi pwynt am gefnogaeth—y cymorth ehangach ar gyfer y Bil hwn. Nid oes gennyf amheuaeth o gwbl nad oes cefnogaeth eang i'r Bil hwn. Rwyf wedi cynnal dau ymgynghoriad yn awr dros y 12 mis diwethaf. Bu'n hollol amlwg o'r ymgynghoriadau hynny y ceir cefnogaeth eithriadol i'r Bil hwn, a chredant ei fod yn gwbl hanfodol.
Fe soniodd am y costau, a chredaf imi gyfeirio at gostau yn gynharach pan ymatebais i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd. Nid oes dianc rhag y ffaith y bydd deddfwriaeth sy'n gwella gwasanaethau i bobl ag anhwylder sbectrwm awtistiaeth yn costio arian, ond credaf fod y costau hynny'n werth chweil i'r unigolion yr effeithir arnynt ac y byddant yn arwain yn y pen draw at arbedion economaidd hirdymor yn ogystal.
Y pwynt olaf a gododd oedd y risg y gallai rhoi statws cyfreithiol arbennig i awtistiaeth greu perygl o ostwng statws cyflyrau eraill. Wel, mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyhoeddi cynllun gweithredu strategol ar awtistiaeth, ac nid wyf yn ymwybodol o unrhyw dystiolaeth a welwyd fod hynny wedi arwain at anghydraddoldeb o ran y cynllun gweithredu hwnnw.
Mae Deddf Awtistiaeth 2009 eisoes ar waith yn Lloegr, ac yng Ngogledd Iwerddon mae Deddf Awtistiaeth (Gogledd Iwerddon) 2011 mewn grym. Unwaith eto, nid wyf yn ymwybodol o dystiolaeth fod y naill Ddeddf na'r llall yn wedi cael effaith andwyol hysbys ar y ddarpariaeth i bobl ag anhwylderau niwroddatblygiadol eraill. Mae'r Bil hefyd yn cynnwys diogelwch rhag lleihau ffocws cyrff perthnasol ar fynd i'r afael ag anghenion pobl sydd ag anhwylderau niwroddatblygiadol eraill. Mae'n cynnwys darpariaeth y gall y diffiniad o anhwylder sbectrwm awtistiaeth gynnwys unrhyw anhwylder niwroddatblygiadol arall a ragnodir gan reoliadau gan Weinidogion Cymru. Felly, gallai Gweinidogion Cymru wneud hynny yn y dyfodol mewn gwirionedd.
Diolch yn fawr, Paul Davies, am godi'r materion pwysig a chymhleth hyn ynglŷn â phobl ar y sbectrwm awtistig. Fodd bynnag, nid wyf yn argyhoeddedig mai Bil yw'r ymateb priodol. Nid mater pleidiol yw hwn, ac rydym yn mynd i gael pleidlais rydd, felly—. Nid wyf yn credu y dylai fod yn fater pleidiol mewn unrhyw amgylchiadau. Er enghraifft, yr enghraifft a roddwyd gan Caroline o fenyw ifanc y gwrthodwyd mynediad iddi i'r prom—nid yw hynny'n ymddangos i mi fel rheswm dros fod angen Deddf awtistiaeth; mae angen adolygiad cyflym iawn o bolisïau lles yr ysgol benodol honno. Nid wyf yn gwadu o gwbl fod pobl ar y sbectrwm awtistig neu eu teuluoedd yn wynebu problemau heriol iawn i gael y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt, ond nid wyf yn siŵr mai Bil awtistiaeth yw'r ffordd ymlaen.
Rwy'n cadw mewn cof fod y ddogfen 'Cymru Iachach', sef ymateb y Llywodraeth i'r adolygiad Seneddol o'r GIG, yn cynnwys pwyslais ar sicrhau bod gennym dîm o amgylch y claf, fod gennym wasanaethau ymatebol, fod gennym ofal sy'n canolbwyntio ar y claf, ond yn ogystal â hynny, rydym mewn perygl o drin yn feddygol rhywbeth y credaf y dylai fod yn llawer mwy o fodel cymdeithasol mewn ymateb i hyn. Mae angen i'n holl ysgolion a'n holl fusnesau fod yn ystyriol o awtistiaeth yn yr un ffordd ag y byddem yn hoffi iddynt fod yn ystyriol o ddementia. Felly, mae gennyf gryn bryderon ynglŷn â gwthio am Fil ar gyfer un cyflwr, pan fo perygl o ddosbarthu cyflyrau i seilos, oherwydd gallai pobl ar y sbectrwm awtistig, ar y naill law, fod yn ffisegwyr niwclear; ar y llaw arall, gallai fod ganddynt gyflyrau eraill sy'n eu gwneud yn anabl ac yn eu herio. Ac efallai nad yr awtistiaeth yw'r brif broblem y maent angen cymorth gyda hi.
Rwy'n llwyr ddeall bod cryn le i wella'r ffordd rydym yn diwallu anghenion plant ac oedolion sydd ar y sbectrwm awtistig, ond nid wyf yn teimlo ein bod o reidrwydd wedi rhoi digon o amser i'r cynllun gweithredu strategol ar anhwylderau sbectrwm awtistig a'r cynllun cyflawni, a lansiwyd ym mis Tachwedd 2016, i allu dweud o ddifrif mai dyma'r ffordd gywir.
Nid oes unrhyw driniaeth glir ar gyfer y cyflwr hwn. Yn amlwg, mae'n dibynnu llawer iawn ar y problemau penodol; nid oes a wnelo hyn â sicrhau bod cydymffurfio'n digwydd â chanllawiau clinigol. Mae arnom angen gwasanaethau priodol i gefnogi'r heriau a wynebir gan unigolion arbennig. Yn amlwg mae angen inni sicrhau bod y rhai sydd â fwyaf o gysylltiad gydag unigolion, yn enwedig ysgolion, yn ymateb yn briodol, ond mae angen inni sicrhau nad oes unrhyw oddefgarwch tuag at ysgolion sy'n gwthio disgyblion oddi ar eu rhestri oherwydd eu bod yn credu y gallent effeithio ar berfformiad arholiadau'r ysgol. Mae angen ysgolion cwbl integredig a chynhwysol, a buaswn yn falch o sefyll ar y llinell biced i herio unrhyw beth felly sy'n digwydd.
Rwy'n dal i fethu deall a fu cynnydd mewn awtistiaeth neu a yw diagnosis yn well. Hoffwn glywed barn Paul Davies ynglŷn â hynny. Yn amlwg, pe bai patrwm o achos ac effaith y gallem ei ganfod drwy gasglu gwybodaeth drwy'r gofrestr y mae'n ofynnol i awdurdodau lleol ei chael ar gyfer plant, ac y gallem eu gorfodi i'w chael ar gyfer oedolion hefyd—pe bai patrwm ynghlwm wrth y diagnosis o awtistiaeth a phe bai'n cael ei gysylltu â materion amgylcheddol, yn amlwg byddai dyletswydd arnom i weithredu ar hynny. Felly, credaf fod gwybodaeth yn eithriadol o bwysig, ond mae gennyf bryderon ynglŷn â gosod hyn mewn Bil caeth pan fo gennym eisoes lawer o rwymedigaethau mewn perthynas â'r ffyrdd y mae angen i awdurdodau lleol a byrddau iechyd ymateb, a theimlaf nad ydym wedi rhoi digon o amser i sicrhau bod y rheini'n cael eu cyflawni a'u cyflwyno'n briodol.
A gaf fi ddiolch i'r Aelod dros Ganol Caerdydd am ei sylwadau? Mae'n ddrwg gennyf nad yw hi wedi ei hargyhoeddi fod angen deddfwriaeth. Byddaf yn parhau i siarad â hi dros y misoedd nesaf, wrth gwrs, i'w darbwyllo mai dyma'r peth iawn i'w wneud ac rwy'n siŵr y bydd hi hefyd yn rhan o'r broses graffu. Nawr, soniodd yn gynharach y dylai gofal cleifion fod yn ganolog i unrhyw welliant i'r gwasanaeth, ac wrth gwrs, dyna holl ddiben y Bil hwn. Mae gofal cleifion yn ganolog i'r Bil oherwydd mai'r hyn rwy'n ceisio ei wneud yw sicrhau bod gwasanaethau yn cael eu rhoi ar sail statudol yn y dyfodol, ac nid yw hynny'n wir ar hyn o bryd, ac yn amlwg bydd hynny'n sicrhau sylfaen gadarn i wasanaethau wrth symud ymlaen.
Nawr, mae'n codi pwynt y gallai'r Bil hwn roi statws arbennig i awtistiaeth. Wel, gallwn ddadlau bod Llywodraeth Cymru yn rhoi statws cyfreithiol arbennig i awtistiaeth drwy ystyried cyflwyno cod, er enghraifft. O gofio bod y Llywodraeth yn ystyried cyflwyno cod, does bosibl ei bod yn credu bod risg mewn rhoi statws cyfreithiol arbennig i awtistiaeth a chreu anghydraddoldeb a diraddio cyflyrau eraill ychwaith, oherwydd bod y Llywodraeth yn ystyried gwneud gwelliannau a chyflwyno mesurau ar yr un pryd.
Fe sonioch am gymorth i ysgolion. Rwy'n cytuno â chi; mae angen inni wneud yn siŵr fod staff mewn ysgolion yn cael hyfforddiant priodol. Unwaith eto, mae hynny wedi'i gynnwys yn fy Mil: gwneud yn siŵr fod y staff sy'n ymdrin â phobl, plant, ag awtistiaeth yn cael yr hyfforddiant cywir. Mae hynny wedi'i gynnwys yn fy Mil hefyd.
Hoffwn ddiolch i Paul Davies am geisio mynd i'r afael â rhai o'r pryderon a fynegais am yr ystod o gyflyrau niwroddatblygiadol y mae hyn yn mynd i'r afael â hwy. Rwy'n gwerthfawrogi ei ymdrechion ac edrychaf ymlaen at weld sut y caiff hynny ei graffu wrth i'r Bil fynd ar ei hynt a gweld a yw'n mynd i fod yn ddigon cadarn i dawelu fy mhryderon ai peidio. Ddydd Gwener diwethaf, ymwelais â Meithrinfa Ddydd Serendipity ym Mhen-bre, sef yr ysgol gyntaf yn sir Gaerfyrddin i gyflawni'r rhaglen dysgu gydag awtistiaeth ar gyfer y blynyddoedd cynnar, a ddatblygwyd o dan y rhaglen gwasanaeth awtistiaeth integredig. Gwnaed argraff fawr arnaf gan yr hyn yr oeddent wedi'i wneud yno, yn creu amgylchedd lle maent yn cefnogi plentyn ag awtistiaeth sydd heb gael diagnosis eto—am fod amser aros hir iawn yn Hywel Dda am ddiagnosis—ond a oedd yn amlwg yn arddangos arwyddion o awtistiaeth, ond hefyd, yn hollbwysig, maent yn rhoi sylw i'r plant eraill hefyd a gwneud iddynt ddeall beth yw ystyr gwahaniaeth a sut roedd angen iddynt addasu eu hymddygiad er mwyn creu amgylchedd cefnogol.
Yn hyn oll—ac rwyf wedi meddwl llawer am rôl deddfwriaeth yn hyn, ac rwy'n dal i fod yn agored i'r posibilrwydd o ddeddfwriaeth os nad yw'r gwasanaeth awtistiaeth integredig i'w weld yn cyflawni, ond credaf mai'r hyn sydd ei angen arnom go iawn yw ymateb cymdeithasol i'r cysyniad o niwroamrywiaeth. Sbectrwm yw hwn wedi'r cyfan. Nid oes unrhyw fwled hud. Pan fydd gennych label, pan fydd gennych ddiagnosis, nid yw'n golygu eich bod yn mynd i gael eich gwella. Mae'n ymwneud â chreu amgylchedd lle rydym yn deall bod gan bob un ohonom gryfderau a gwendidau a'n bod yn darparu ar gyfer hynny ac yn galluogi pobl i gyflawni eu potensial. Mae'n bosibl fod rôl i'r gyfraith yn hynny, ond pe bai mor syml â hynny, rydym eisoes wedi pasio deddfau a ddylai ymdrin â rhai o'r pethau hyn. Mae'r ffaith ein bod yn teimlo nad ydynt yn gweithio'n hollol fel y dylent yn awgrymu efallai nad deddf arall yw'r ateb hawdd rydym yn chwilio amdano.
Rwy'n ymwybodol fod Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth wedi lansio ymgyrch effeithiol iawn, ond dylid cydnabod nad yw clinigwyr a gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda'r cyflwr hwn yn unedig eu barn mai deddfwriaeth yw'r ateb cywir. Nid ydynt yn gyffyrddus iawn yn dweud hynny'n gyhoeddus ond rwyf wedi siarad â sawl un nad ydynt yn gyfforddus â'r syniad o Fil awtistiaeth ac nid ydynt yn credu ei fod yn ddefnydd cywir o adnoddau na blaenoriaethau na ffocws. Rwy'n meddwl bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi gwneud achos argyhoeddiadol drwy ddweud, os yw'r adnoddau yn y system yn gyfyngedig, does bosibl nad yw'n well inni eu cyfeirio tuag at wella'r gwasanaeth yn hytrach na datblygu deddfwriaeth a'r holl rigmarôl sydd ynghlwm wrth hynny.
Wedi dweud hynny, nid yw'r gwasanaeth awtistiaeth integredig wedi'i gyflwyno yn llawn eto. Nid yw'n bodoli yn sir Gaerfyrddin, a cheir problemau cychwynnol o hyd. Siaradais ag un ymarferydd y bore yma a nododd broblem sy'n eu pryderu'n fawr yn ymwneud â'r ffaith bod plant sydd wedi cael diagnosis o gyflyrau dysgu cysylltiedig yn cael eu troi ymaith o'r gwasanaeth awtistiaeth integredig ac yn bodoli mewn rhyw fath o dir neb—dywedir wrthynt am ddychwelyd at y gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed am fod ganddynt gyflwr arbenigol, ond mewn gwirionedd, CAMHS a geisiodd eu dargyfeirio oddi wrth CAMHS i'r gwasanaeth awtistiaeth integredig yn y lle cyntaf. Felly, credaf fod honno'n broblem yr hoffwn i Ysgrifennydd y Cabinet edrych arni. Credaf fod problemau cychwynnol o hyd wrth i'r gwasanaeth newydd hwn ymsefydlu. A chredaf y gall pawb ohonom gytuno mai dyna rydym ei eisiau—beth sy'n digwydd yn y pen draw. Gallwn drafod y modd o gyrraedd yno; y pen draw sy'n bwysig, ac rwy'n dal i gredu bod angen gwneud rhagor o berswadio i argyhoeddi pawb ohonom mai deddfwriaeth yw'r ffordd o wneud hynny.
A gaf fi ddiolch i'r Aelod dros Lanelli am ei sylwadau? Rydym wedi cael nifer o drafodaethau ynghylch y ddeddfwriaeth hon. Rwy'n ddiolchgar ei fod yn parhau i fod â meddwl agored ynglŷn â chyflwyno deddfwriaeth, felly mae'n debyg mai fy ngwaith dros yr ychydig fisoedd nesaf fydd ei berswadio mai dyma'r peth iawn i'w wneud. Ac rwy'n deall beth y mae'n ei ddweud, ei fod yn credu efallai nad deddfwriaeth sy'n cyflwyno deddf yw'r ffordd orau ymlaen o bosibl, ond rwy'n credu mai dyna'r ffordd ymlaen. Mae angen inni sicrhau bod gwasanaethau yn y dyfodol yn cael sylfaen gadarn. Soniais yn gynharach ein bod wedi bod yn trafod y strategaeth awtistiaeth a gyflwynwyd yn 2008, ac nid wyf am ailadrodd yr hyn a ddywedais yn gynharach, ond rydym yn trafod yr un problemau yn awr ag yr oeddem yn eu trafod 10 mlynedd yn ôl. A chredaf mai'r unig ffordd y gallwn sicrhau mewn gwirionedd ein bod yn gweld gwelliannau yn y gwasanaethau yw drwy gyflwyno deddfwriaeth, drwy wneud yn siŵr fod gwasanaethau'n cael eu rhoi ar sail statudol fel bod y gwasanaethau hynny'n gyson ar draws Cymru ac fel nad oes gennym unrhyw fylchau yn y gwasanaethau hynny. Fe wyddoch gystal â minnau—rydych wedi cael etholwyr yn cysylltu â chi, fel finnau, sydd, yn anffodus, yn methu cael gafael ar wasanaethau. Rhaid inni wneud yn siŵr fod y gwasanaethau hynny ar gael. Rhaid inni wneud yn siŵr ei bod hi'n ofynnol i fyrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol ddarparu'r gwasanaethau hyn, a dyna fydd y Bil hwn yn ei wneud mewn gwirionedd.
Diolch yn fawr iawn, ac ymddiheuriadau i unrhyw un arall a oedd yn awyddus i gymryd rhan; rydych 20 munud dros yr amser ar y datganiad hwn.