Part of the debate – Senedd Cymru am 4:27 pm ar 18 Gorffennaf 2018.
Hoffwn ddiolch i Paul Davies am geisio mynd i'r afael â rhai o'r pryderon a fynegais am yr ystod o gyflyrau niwroddatblygiadol y mae hyn yn mynd i'r afael â hwy. Rwy'n gwerthfawrogi ei ymdrechion ac edrychaf ymlaen at weld sut y caiff hynny ei graffu wrth i'r Bil fynd ar ei hynt a gweld a yw'n mynd i fod yn ddigon cadarn i dawelu fy mhryderon ai peidio. Ddydd Gwener diwethaf, ymwelais â Meithrinfa Ddydd Serendipity ym Mhen-bre, sef yr ysgol gyntaf yn sir Gaerfyrddin i gyflawni'r rhaglen dysgu gydag awtistiaeth ar gyfer y blynyddoedd cynnar, a ddatblygwyd o dan y rhaglen gwasanaeth awtistiaeth integredig. Gwnaed argraff fawr arnaf gan yr hyn yr oeddent wedi'i wneud yno, yn creu amgylchedd lle maent yn cefnogi plentyn ag awtistiaeth sydd heb gael diagnosis eto—am fod amser aros hir iawn yn Hywel Dda am ddiagnosis—ond a oedd yn amlwg yn arddangos arwyddion o awtistiaeth, ond hefyd, yn hollbwysig, maent yn rhoi sylw i'r plant eraill hefyd a gwneud iddynt ddeall beth yw ystyr gwahaniaeth a sut roedd angen iddynt addasu eu hymddygiad er mwyn creu amgylchedd cefnogol.
Yn hyn oll—ac rwyf wedi meddwl llawer am rôl deddfwriaeth yn hyn, ac rwy'n dal i fod yn agored i'r posibilrwydd o ddeddfwriaeth os nad yw'r gwasanaeth awtistiaeth integredig i'w weld yn cyflawni, ond credaf mai'r hyn sydd ei angen arnom go iawn yw ymateb cymdeithasol i'r cysyniad o niwroamrywiaeth. Sbectrwm yw hwn wedi'r cyfan. Nid oes unrhyw fwled hud. Pan fydd gennych label, pan fydd gennych ddiagnosis, nid yw'n golygu eich bod yn mynd i gael eich gwella. Mae'n ymwneud â chreu amgylchedd lle rydym yn deall bod gan bob un ohonom gryfderau a gwendidau a'n bod yn darparu ar gyfer hynny ac yn galluogi pobl i gyflawni eu potensial. Mae'n bosibl fod rôl i'r gyfraith yn hynny, ond pe bai mor syml â hynny, rydym eisoes wedi pasio deddfau a ddylai ymdrin â rhai o'r pethau hyn. Mae'r ffaith ein bod yn teimlo nad ydynt yn gweithio'n hollol fel y dylent yn awgrymu efallai nad deddf arall yw'r ateb hawdd rydym yn chwilio amdano.
Rwy'n ymwybodol fod Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth wedi lansio ymgyrch effeithiol iawn, ond dylid cydnabod nad yw clinigwyr a gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda'r cyflwr hwn yn unedig eu barn mai deddfwriaeth yw'r ateb cywir. Nid ydynt yn gyffyrddus iawn yn dweud hynny'n gyhoeddus ond rwyf wedi siarad â sawl un nad ydynt yn gyfforddus â'r syniad o Fil awtistiaeth ac nid ydynt yn credu ei fod yn ddefnydd cywir o adnoddau na blaenoriaethau na ffocws. Rwy'n meddwl bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi gwneud achos argyhoeddiadol drwy ddweud, os yw'r adnoddau yn y system yn gyfyngedig, does bosibl nad yw'n well inni eu cyfeirio tuag at wella'r gwasanaeth yn hytrach na datblygu deddfwriaeth a'r holl rigmarôl sydd ynghlwm wrth hynny.
Wedi dweud hynny, nid yw'r gwasanaeth awtistiaeth integredig wedi'i gyflwyno yn llawn eto. Nid yw'n bodoli yn sir Gaerfyrddin, a cheir problemau cychwynnol o hyd. Siaradais ag un ymarferydd y bore yma a nododd broblem sy'n eu pryderu'n fawr yn ymwneud â'r ffaith bod plant sydd wedi cael diagnosis o gyflyrau dysgu cysylltiedig yn cael eu troi ymaith o'r gwasanaeth awtistiaeth integredig ac yn bodoli mewn rhyw fath o dir neb—dywedir wrthynt am ddychwelyd at y gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed am fod ganddynt gyflwr arbenigol, ond mewn gwirionedd, CAMHS a geisiodd eu dargyfeirio oddi wrth CAMHS i'r gwasanaeth awtistiaeth integredig yn y lle cyntaf. Felly, credaf fod honno'n broblem yr hoffwn i Ysgrifennydd y Cabinet edrych arni. Credaf fod problemau cychwynnol o hyd wrth i'r gwasanaeth newydd hwn ymsefydlu. A chredaf y gall pawb ohonom gytuno mai dyna rydym ei eisiau—beth sy'n digwydd yn y pen draw. Gallwn drafod y modd o gyrraedd yno; y pen draw sy'n bwysig, ac rwy'n dal i gredu bod angen gwneud rhagor o berswadio i argyhoeddi pawb ohonom mai deddfwriaeth yw'r ffordd o wneud hynny.