Part of the debate – Senedd Cymru am 4:05 pm ar 18 Gorffennaf 2018.
O'r gorau. Mae'r ffaith bod hwnnw wedi dod o hyd i wendidau ac anghysondebau yn asesiadau a gwasanaethau diagnostig y strategaeth awtistiaeth integredig, a methiant i gydgynhyrchu, a dull o'r brig i lawr, sydd wedi llesteirio datblygiad y rhain—os cawn hynny'n iawn o'i osod ar sail statudol, gallwn ddechrau darparu gwasanaethau o'r diwedd ac os mai'r flaenoriaeth yw arian, fel y gwelais o'r fan hon, gallwn arbed arian hefyd.