Part of the debate – Senedd Cymru am 4:08 pm ar 18 Gorffennaf 2018.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rydw i'n llongyfarch yr Aelod am ddod â'r ddeddfwriaeth yma ger ein bron ni. Rydym ni fel plaid wedi credu ers amser y gallai Deddf awtistiaeth gynnig budd eang i bobl sydd yn byw efo awtistiaeth, yn sicr o ran annog diagnosis, taclo materion fel amseroedd aros, ac, rydw i'n meddwl, delifro cysondeb hefyd ar draws Cymru. Rydw i'n ymwybodol hefyd fod yna randdeiliaid sydd ag amheuon am werth deddfwriaeth. Rydw i'n clywed yn gyson beth mae'r Llywodraeth yn ei ddweud. Rydw i'n clywed y bobl sydd yn dweud, 'Watsiwch chi fynd lawr y ffordd yma. Bydd yna bobl eraill efo salwch eraill neu gyflyrau eraill am gael deddfwriaeth benodol ar eu cyfer nhw.' Ond rydw i'n edrych ymlaen at weld y gwaith y mae'r pwyllgor yn ei wneud yn y maes yma.
Mi fyddwn i'n licio gwybod—a gwnaf ganolbwyntio dim ond ar y pwynt yma—beth ydy barn yr Aelod am un mater, rydw i'n meddwl, sydd angen ei herio, sef y syniad yma o awtistiaeth fel salwch neu gyflwr gan rai—y model meddygol, os liciwch chi. Sut mae o'n meddwl y gallai deddfwriaeth newid a herio'r canfyddiad hwnnw? Achos mae'r canfyddiad yna o awtistiaeth yn methu'r pwynt braidd, rydw i'n meddwl. Rydw i'n meddwl y dylem ni o bosibl fod yn meddwl llawer mwy yn nhermau niwro-amrywiaeth; hynny ydy, dylem ni weld awtistiaeth, Asperger's ac ati fel ffyrdd gwahanol mae'r ymennydd yn gweithio. Mae yna ddigon o enghreifftiau erbyn hyn o sut mae sefydliadau neu gwmnïau yn gweld nodweddion arbennig, nodweddion positif, mewn pobl sydd â'u hymenyddion yn gweithio mewn ffordd wahanol. Mae GCHQ wedi bod yn recriwtio pobl sydd ddim yn neurotypical oherwydd eu bod nhw'n dadansoddi data mewn ffordd wahanol.
Rydw i'n meddwl y gallai deddfwriaeth helpu i newid agweddau mewn ffordd bositif. Mi fydd rhai ar y sbectrwm yn cael eu hystyried i fod ag anabledd yn barod, ac yn cael cefnogaeth yn hynny o beth, ond beth rydym ni ei angen, rydw i'n meddwl, ydy cydnabod nodweddion ac rydw i'n meddwl y gallai deddfwriaeth fod yn ddefnyddiol. Mi fydd rhai pobl ar y sbectrwm, drwy gael eu cydnabod fel bod ag anabledd, yn cael cefnogaeth drwy ddeddfwriaeth cydraddoldeb. Ond, pe baem ni'n meddwl yn wahanol, ac yn ystyried niwro-amrywiaeth fel nodwedd benodol a neilltuol o fewn y maes cydraddoldeb, mi allai hynny fod yn bositif er mwyn newid y ffordd mae gwasanaethau'n cael eu cynllunio a'r ffordd mae gwasanaethau’n cael eu delifro. Ac nid wyf yn argyhoeddedig bod y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a'r Ddeddf anghenion dysgu ynddyn nhw eu hunain yn ddigon i newid y ffordd rydym ni'n meddwl am ASD yng Nghymru. Felly, rydw i'n gobeithio y bydd y broses bwyllgor yn edrych ar y maes hwnnw ac mi fyddai'n dda gen i glywed barn yr Aelod ar y potensial i'r ddeddfwriaeth wneud hyn.