Part of the debate – Senedd Cymru am 4:39 pm ar 18 Gorffennaf 2018.
Mae'n bleser gen i hefyd godi i ddiolch i'r archwilydd am ei wasanaeth. Mae'n nodweddiadol ohono fe, a dweud y gwir, ei fod e'n arloesi hyd yn oed wrth adael, achos rydw i'n credu mai fe yw'r un cyntaf o'r archwilwyr i gynnig llythyr ffarwelio sydd yn rhoi mewn un lle, a dweud y gwir, braslun—gorolwg, a dweud y gwir—o'r tirwedd y mae e wedi bod yn arsylwi arni dros yr wyth mlynedd ddiwethaf, ac mae'n ddefnyddiol tu hwnt. Mae'n ymylu ar y deifiol weithiau. Ac, wrth gwrs, mae yna gyfeiriad at rai o'r adroddiadau sydd wedi pwyntio at lywodraethu gwael, ond mae yn ddiddorol i weld mai Swyddfa Archwilio Cymru ydy un o’r llefydd mwyaf pwysig sydd yn gyrru arloesedd. Nid yw efallai’n draddodiadol ein bod ni’n cysylltu archwilio gyda phethau fel arloesedd a chreadigedd, ond mae yna dîm yn y tîm arferion gorau sydd wedi bod yn gyrru’r agenda yma. Yr unig enghraifft arall rwy’n gallu meddwl amdani yw llys archwilwyr Brasil lle mae gyda nhw hefyd, yr archwilwyr, labordy arloesedd, ac efallai bod mawr ei angen e yn y wlad honno.
Mae’r pwyntiau mae’r archwilydd yn eu gwneud yn y llythyr yn eithaf diddorol o ran y diffygion mae e’n pwyntio mas hefyd o ran ein gwladwriaeth ni, er efallai nad ydym wedi cwympo i mewn i’r un trybini yn ddiweddar â gwladwriaeth Brasil. Ond mae yna reswm inni wrando ar lais yr archwilydd cyffredinol, oherwydd mae e’n pwyntio mas y diffyg, efallai, meddwl radical—ein bod ni ddim yn gallu meddwl yn ddigon arloesol, ein bod ni’n dueddol o weithiau meddwl yn nhermau mwy yn y byr dymor ac nid o ran y tymor hir, bod yna oreffaith, efallai, ar effeithlonrwydd yn hytrach nag edrych yn fwy eang, yn fwy pwrpasol, ar ailsiapio ein gwasanaethau cyhoeddus mewn ffordd mwy cynhwysfawr. Mae yna oredrych ar strwythurau yn hytrach na chanlyniadau, ac wedyn mae yna duedd, wrth gwrs, o ailbecynnu problemau yn hytrach na mynd i’r afael â nhw ar lefel sylfaenol. Mae yna ddigon o ddadansoddi.
Roedd yntau hefyd wedi gwasanaethu ar y comisiwn Williams. Rŷm ni i gyd yn gwybod beth yw’r problemau. Strategaethau arbennig o dda, a dim cymaint â hynny o anghytundeb ar draws y pleidiau—the truth that dare not speak its name ynglŷn â gwerthoedd, efallai. Ond sut rŷm ni’n gallu, wedyn, cyfieithu’r nodau, y gwerthoedd a’r amcanion hynny i mewn i bolisïau sydd yn mynd i ddelifro? Mae’r archwilydd wedi gwneud cymwynas inni, rwy’n credu, hyd yn oed wrth ffarwelio, er mwyn gosod inni’r her, a dweud y gwir—hynny yw, sut rŷm ni yn y Senedd yma yn gallu codi ein gorwelion a dechrau gwireddu rhai o’r amcanion rŷm ni i gyd yn eu rhannu. Diolch.