Part of the debate – Senedd Cymru am 4:32 pm ar 18 Gorffennaf 2018.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn ddiweddarach yr wythnos hon, ar 20 Gorffennaf, bydd Huw Vaughan Thomas CBE yn cwblhau ei ddiwrnod olaf yn ei swydd fel Archwilydd Cyffredinol Cymru. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i fyfyrio ar ei gyfnod fel archwilydd cyffredinol ac i fynegi diolch iddo am ei gyfraniadau i fywyd cyhoeddus.
Penodwyd Huw yn archwilydd cyffredinol yn 2010, gan ddwyn cyfoeth o brofiad ac arbenigedd gydag ef o'i yrfa hir a llwyddiannus ar draws y sector cyhoeddus. Mae wedi profi'n benodiad rhagorol. Cymerodd at ei rôl gyda llawer o heriau o'i flaen, gan ddechrau gyda'r amgylchiadau anodd a etifeddodd yn dilyn digwyddiadau yn Swyddfa Archwilio Cymru cyn ei benodi. Un o'i heriau cyntaf oedd cyflwyno cynigion i gryfhau trefniadau llywodraethu ac atebolrwydd y sefydliad a goruchwylio dros gyfnod o newid sefydliadol a diwylliannol. Fe wnaeth hyn gyda phenderfyniad, ac yn dilyn adolygiad mewnol, cyflwynodd set o drefniadau llywodraethu newydd, a adferodd hyder y cyhoedd a thrawsnewid y diwylliant yn Swyddfa Archwilio Cymru.
Yn ystod y cyfnod hwn o newid yn yr amser y bu Huw yn ei swydd, daeth Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 i rym, deddf a gryfhaodd ac a wellodd drefniadau atebolrwydd a llywodraethu Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru, gan gynnal a gwarchod annibyniaeth a gwrthrychedd Archwilydd Cyffredinol Cymru. Roedd cyflwyno bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru yn 2014 yn cryfhau trefniadau llywodraethu Swyddfa Archwilio Cymru ymhellach a hyd yn oed tan yn ddiweddar mae Huw wedi bod yn goruchwylio dros newidiadau sylweddol yn y diwylliant a'r arferion gweithio, gan gynnwys buddsoddiadau diweddar mewn dadansoddi data. Wrth i Huw ddod at ddiwedd ei yrfa, mae wedi plannu'r hadau ar gyfer y genhedlaeth nesaf o archwilwyr, gyda buddsoddiadau mewn hyfforddeion a phrentisiaid cyllid, i ysbrydoli archwilydd cyffredinol yn y dyfodol efallai. Yn ystod ei gyfnod yn y swydd, mae Huw wedi bod ar flaen y gad yn gwella gwasanaethau cyhoeddus ac yn sicrhau gwerth am arian i'r trethdalwr. Mae ei rôl fel archwilydd cyffredinol wedi bod yn hollbwysig a dylanwadol, yn rym ysgogol a chalon llywodraethu ac atebolrwydd da. O dan arweiniad Huw, yn ystod cyfnodau o gyni o'r newydd a ffocws cynyddol ar gyllid cyhoeddus a her ynglŷn â sut y gwerir yr arian hwnnw, mae wedi cyflawni.
Mae Huw bob amser wedi hyrwyddo pwysigrwydd archwilio cyhoeddus annibynnol i gefnogi craffu effeithiol ar Lywodraeth Cymru, nid yn unig o ran dwyn y Llywodraeth i gyfrif, ond hefyd o ran darparu mewnwelediad hanfodol a chefnogi gwelliannau. Fel archwilydd cyffredinol, mae Huw wedi goruchwylio dros gyhoeddi nifer o adroddiadau cadarn. Mae'r adroddiadau hyn wedi taflu goleuni ar drefniadau llywodraethu gwael a defnydd aneffeithlon o arian cyhoeddus, a chyfeiriaf yn benodol at rai o adroddiadau mwyaf dylanwadol Huw: yn 2011, ei adroddiad arolwg arbennig ar Gyngor Sir Ynys Môn a arweiniodd at gomisiynwyr yn cael eu gyrru i mewn gan Lywodraeth Cymru i ysgwyddo'r gwaith o weithredu'r cyngor—rhywbeth a ddigwyddodd am y tro cyntaf yn y DU; ei adroddiad yn 2012 ar AWEMA, a arweiniodd, ar y cyd ag adroddiadau archwilio eraill, at newidiadau ar raddfa eang i'r modd y rheolai Llywodraeth Cymru ei gwariant blynyddol o £2.6 ar grantiau; ei adolygiad ar y cyd yn 2013 gydag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru o'r trefniadau llywodraethu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a ragflaenodd y penderfyniad i wneud y bwrdd iechyd yn destun mesurau arbennig; ei adroddiad yn 2015 ar gronfa buddsoddi Cymru mewn adfywio, a oedd yn gwerthu tir cyhoeddus am lawer llai na'i werth, gan golli degau o filiynau o bunnoedd i'r trethdalwr o bosibl; a'i adroddiad budd y cyhoedd cyntaf ar gorff GIG yn 2017 mewn perthynas â chamreoli contract ymgynghoriaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.
Er bod eu darllen yn ddigon i'ch sobri, mae adroddiadau o'r fath wedi bod yn hanfodol ar gyfer nodi meysydd sydd angen eu cryfhau ac i hybu gwelliannau i brosesau gwneud penderfyniadau Llywodraeth Cymru a'r modd y caiff gwasanaethau cyhoeddus eu darparu. Ni ellir tanddatgan pwysigrwydd hyn. Cefnogir yr archwilio annibynnol hwn gan graffu seneddol gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, sydd wedi gweithio'n agos gyda Huw dros ei gyfnod yn y swydd i sicrhau bod ei waith mor effeithiol â phosibl yn dwyn Llywodraeth Cymru a sefydliadau perthnasol eraill i gyfrif. Mae Huw wedi bod yn ffynhonnell gyson o gymorth a chyngor i'r pwyllgor, yn gwella ein gwaith, ac yn gynyddol, defnyddiwyd adroddiadau Archwilydd Cyffredinol Cymru i lywio gwaith pwyllgorau eraill y Cynulliad, ac enghraifft ragorol o hyn yw ystyriaeth y Pwyllgor Cyllid o adroddiadau ar barodrwydd cyllidol.
Yn fwy diweddar, mae Huw hefyd wedi bod yn allweddol i weithrediad Deddf cenedlaethau'r dyfodol 2015. Mae'r Ddeddf yn mynnu bod yr archwilydd cyffredinol yn adrodd ar i ba raddau y mae cyrff cyhoeddus wedi cymhwyso'r egwyddor datblygu cynaliadwy i'r ffordd y maent yn pennu eu hamcanion a'r camau y maent yn eu cymryd i fodloni'r amcanion hynny. Yn ddiweddar, cyhoeddodd Huw ei adroddiad sylwebaeth blwyddyn 1 ar sut y mae cyrff cyhoeddus wedi ymateb i'r Ddeddf, adroddiad sy'n nodi nifer o arferion da sy'n dod i'r amlwg ledled Cymru i eraill eu harfer. Cydnabuwyd y gwaith caled a'r ymrwymiad a ddangoswyd gan Huw pan gafodd CBE yn anrhydeddau pen-blwydd y Frenhines 2018 am wasanaethau i archwilio cyhoeddus ac atebolrwydd yng Nghymru, ac estynnwn ein llongyfarchiadau i Huw ar y llwyddiant arbennig hwn.
Mae'r gydnabyddiaeth hon i gyfraniad rhagorol Huw i fywyd cyhoeddus yn atgyfnerthu ymrwymiad oes i fywyd cyhoeddus. Mae wedi bod yn archwilydd cyffredinol nad yw wedi ofni ei dweud hi fel y mae pan fo angen, ac mae'n gadael y swydd gyda record ragorol, ar ôl gwasanaethu pobl Cymru fel archwilydd cyffredinol am yr wyth mlynedd diwethaf. Huw, rydych wedi arwain gyda gonestrwydd a byddwch yn gadael gwaddol barhaus o hyder cyhoeddus newydd mewn archwilio cyhoeddus ac atebolrwydd. Dymunwn yn dda i chi yn y dyfodol. Diolch yn fawr.