Part of the debate – Senedd Cymru am 5:17 pm ar 18 Gorffennaf 2018.
Diolch, Llywydd. Hoffwn groesawu cyhoeddi adroddiad blynyddol y cynllun ieithoedd swyddogol ar gyfer 2017-18. Yn amlwg, mae'n ddefnyddiol bod yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi cyn gynted ag sy'n bosibl. Felly, hoffwn longyfarch y Comisiwn a staff y Cynulliad am gyflawni'r ymrwymiad i gyhoeddi'r adroddiad erbyn y mis Gorffennaf yn dilyn y flwyddyn ariannol y mae'n ymwneud â hi.
Er ein bod ni'n croesawu hynny, mae'n achosi rhai anawsterau i ni fel pwyllgor. Y cyfle cyntaf a gafodd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu i ystyried yr adroddiad oedd yn ein cyfarfod y bore yma. Roedd hyn yn rhy hwyr i ni allu cael cyngor ystyriol ar ei gynnwys ac nid yw wedi caniatáu amser i ni ystyried pa un a ydym am graffu ar y Comisiwn o ran y cynnwys, heb sôn am wneud unrhyw graffu ychwanegol. Felly, yn ddelfrydol, byddai'r pwyllgor wedi hoffi gweld yr adroddiad mewn da bryd er mwyn ystyried ei gynnwys, craffu arno—os oeddem yn credu bod angen gwneud hynny, wrth gwrs—ac yna bwydo canlyniad y gwaith craffu hwnnw i'r ddadl hon heddiw.
Rwyf wedi siarad efo Adam Price ac yn deall bod rhai problemau ymarferol wrth gyhoeddi'r adroddiad llawer yn gynt yn y flwyddyn. Yn sicr, ni fyddwn am weld oedi gyda chyhoeddiadau yn y dyfodol. Serch hynny, gofynnaf fod y Comisiwn yn gwneud pob ymdrech yn y dyfodol i gyhoeddi'r adroddiad yn ddigon cynnar er mwyn caniatáu i'r pwyllgor ei ystyried yn briodol, ac, os bydd angen, craffu arno cyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn. Os yw hynny'n golygu cynnal y ddadl yn y Cyfarfod Llawn yn yr hydref yn hytrach na diwrnod olaf tymor yr haf, yna rwy'n credu bod y pris hwnnw'n werth ei dalu er mwyn gwneud gwaith craffu effeithiol.
Gan droi at gynnwys yr adroddiad ei hun, mae gennyf nifer o bwyntiau i'w gwneud a chwestiynau i'r Comisiynydd. Yn gyntaf, pan luniwyd y cynllun presennol, cafodd asesiad o effaith ar gydraddoldeb, neu EIA, ei baratoi. Nodaf fod y gweithgor a sefydlwyd i weithio ar thema 1, sef recriwtio, yn edrych yn rheolaidd ar y tasgau sy'n codi o'r EIA i sicrhau eu bod yn cael eu gwneud mewn gwirionedd. Fodd bynnag, a allai'r Comisiynydd sicrhau bod EIA diwygiedig, sy'n dangos yn glir y cynnydd a wnaed ar y tasgau hyn bellach wedi'i gyhoeddi?
Nid oes llawer o wybodaeth yn yr adroddiad yma am y broses recriwtio newydd na gwybodaeth am y lefelau sgiliau iaith a gesglir. Efallai y gallai'r Comisiynydd ymhelaethu ar hynny. Er enghraifft, bydd y dystysgrif lefel cwrteisi newydd a roddir i bawb a gaiff eu hasesu ar y lefel hon ond yn para am ddwy flynedd. Pam dwy flynedd? Byddai esboniad o'r rhesymeg y tu ôl i hynny yn ddefnyddiol i ni fel pwyllgor. Yn fwy cyffredinol, byddai rhagor o wybodaeth yn y maes hwn ac, yn y dyfodol, mwy o ddata—mwy o ddata eto, sori—am y niferoedd sy'n cael eu recriwtio ar bob lefel yn ddefnyddiol i ni.
Mae'r adroddiad yn dweud bod Comisiwn y Cynulliad yn disgwyl i'r sefydliadau a'r cyrff hynny sy'n destun safonau neu gynlluniau iaith gydymffurfio â'u cynlluniau eu hunain wrth gyflwyno gwybodaeth i'r Cynulliad. Fodd bynnag, mae'r adroddiad yn cyfeirio at is-ddeddfwriaeth, sy'n aml yn cael ei chyflwyno yn Saesneg yn unig. Tybed a all y Comisiynydd roi sylwadau pellach ar hynny a pha gamau sy'n cael eu cymryd i sicrhau bod Llywodraeth Cymru, rwy'n tybio, yn cydymffurfio â'i chyfrifoldebau yn y maes hwn.
Ar bwynt tebyg, nodaf fod 23 y cant o bapurau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru i bwyllgorau'r Cynulliad yn Saesneg yn unig. Pa gamau y mae'r Comisiwn yn eu cymryd i godi'r mater hwn gyda Llywodraeth Cymru? A hefyd o ran cydymffurfiaeth Llywodraeth Cymru, ar hyn o bryd nid oes unrhyw wybodaeth ynghylch i ba raddau y mae Aelodau’r Cynulliad yn derbyn atebion yn Gymraeg i gwestiynau ysgrifenedig y Cynulliad. A bod yn deg, mater i'r Cynulliad fynd i'r afael ag ef yw hynny i ddechrau ond a oes unrhyw dystiolaeth bod y Llywodraeth yn ymateb yn Saesneg i gwestiynau yn y Gymraeg?
Mae 20 y cant o gyfraniadau mewn dadleuon yn y Cyfarfod Llawn gan Aelodau yn cael eu gwneud yn Gymraeg. Fodd bynnag, dim ond 8 y cant o'r cyfraniadau mewn pwyllgorau sy'n Gymraeg. A all y Comisiynydd gynnig unrhyw esboniad am y gwahaniaeth hwnnw ac a oes unrhyw waith yn cael ei wneud i annog mwy o ddefnydd o'r Gymraeg mewn pwyllgorau? Yn fy marn bersonol i, un o'r prif broblemau yw, weithiau, rŷm ni'n gofyn cwestiynau yn y Gymraeg ac mae pobl yn tynnu eu clustffonau oddi arnynt ac wedyn yn disgwyl weithiau fod y cwestiynau atododol yn mynd i ddilyn yn Saesneg ac wedyn mae'n amharu ar lif y rheini sy'n gofyn y cwestiynau. Felly, efallai mwy o wybodaeth i'r rheini sydd yn rhoi tystiolaeth gerbron y pwyllgor fod yna oblygiad—neu efallai y gallan nhw gadw'r clustffonau hynny arnynt yn ystod sesiynau pwyllgorau.
Yn olaf, nodaf fod enghreifftiau o gwynion wedi codi ynghylch diffyg cydymffurfio â'r cynllun—rydych chi wedi dweud hyn yn barod, Adam. Fodd bynnag, nid oes unrhyw ddata er mwyn rhoi syniad i ni o nifer y cwynion. Byddai'n ddefnyddiol pe byddai data yn y dyfodol yn cynnwys nifer y cwynion a ddaeth i law fel y gellir gwneud cymariaethau o flwyddyn i flwyddyn. Byddai hynny hefyd yn golygu y gellir monitro'n effeithiol unrhyw gynnydd neu ostyngiad, yn ogystal ag unrhyw dueddiadau ynghylch y math o gwynion.
Hoffwn orffen drwy ddiolch i holl staff y Cynulliad sy'n ein helpu i weithio mewn amgylchedd gwirioneddol ddwyieithog, boed hynny'r rhai sy'n cyfieithu fy sylwadau heddiw neu'r rhai sy'n ein helpu gyda gwasanaethau cyfieithu ysgrifenedig. Ond diolch hefyd i'r staff hynny, siaradwyr Cymraeg a di-Gymraeg fel ei gilydd, sy'n cydnabod pa mor bwysig ydyw bod y lle hwn yn cael ei weld fel esiampl o sefydliad dwyieithog ac sydd, drwy ei waith, yn caniatáu i ni weithio yn ein hiaith o ddewis ac sy'n sicrhau bod gwasanaethau yn cael eu darparu i ganiatáu i'r cyhoedd ryngweithio â ni yn eu dewis iaith.