Part of the debate – Senedd Cymru am 5:29 pm ar 18 Gorffennaf 2018.
Diolch am yr adroddiad pwysig yma. Mi oeddwn i’n falch o weld fod Comisiwn y Cynulliad yn cyflwyno papurau cyhoeddus i bwyllgorau yn ddwyieithog ar y cyfan, ond, fel mae Suzy a Bethan wedi sôn, yn bryderus o weld fod y Llywodraeth wedi cyflwyno gwybodaeth yn uniaith Saesneg 174 o weithiau. Hefyd, mae'r adroddiad yn dweud bod 25 y cant o'r dogfennau a osodwyd—fel rydym ni newydd fod yn ei drafod rŵan, memoranda esboniadol ac is-ddeddfwriaeth—heb gael eu gosod yn ddwyieithog, dogfennau y mae'r Llywodraeth ei hun yn eu cynhyrchu. Felly, mae angen rhoi neges glir heddiw, rydw i'n meddwl, i'r Llywodraeth, i sicrhau bod y Llywodraeth yn cydymffurfio â'r safonau iaith sydd wedi cael eu gosod arni wrth ymwneud â'r Cynulliad, ac rydw i'n galw ar y Llywodraeth i gydweithio efo'r Comisiwn i sicrhau eu bod nhw yn perfformio'n well ac yn peidio â llesteirio ewyllys y Cynulliad yma.
Mae'r adroddiad eleni yn cynnwys data, ond data cychwynnol, ac mae'r adroddiad yn dweud hefyd y bydd adroddiadau mewn blynyddoedd i ddod yn cynnwys y data ar ffurf lle y bydd modd cymharu'r sefyllfa dros nifer o flynyddoedd, ac mae hyn yn hollbwysig, wrth gwrs. Mi fyddai'n fuddiol iawn, rydw i'n meddwl, cael awdit llawn o staff y Cynulliad er mwyn i ni wybod faint o bobl sydd â sgiliau dwyieithog, ym mha adrannau ac ati. Mae hyn yn hanfodol er mwyn cynllunio gweithlu'r dyfodol a defnyddio'r gweithlu presennol yn fwy pwrpasol. Rydw i'n falch o weld bod yna nodyn yn dweud ei bod hi'n fwriad i wneud hynny.
Rydw i'n falch iawn hefyd o weld y peuoedd iaith yma'n datblygu yn y Cynulliad, sef timau o bobl sydd yn gweithio'n bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg, a bod y rhain yn dechrau dwyn ffrwyth. Mae'r timau yn cynnwys cyfuniad o siaradwyr rhugl a dysgwyr, ac mae cynllunwyr iaith yn nodi, yn gyffredinol, felly, fod creu peuoedd iaith yn y man gwaith, lle mae'r iaith leiafrifol yn cael ei defnyddio i weinyddu a chyfathrebu'n fewnol, yn hollbwysig wrth ddiogelu a datblygu iaith, ac mi fyddai creu awdit sgiliau iaith yn gallu annog creu rhagor o beuoedd Cymraeg, ac rydw i'n edrych ymlaen at weld hynny.
Un peth i orffen: fel rydych chi'n gwybod, rydw i yn dewis defnyddio fy iaith gyntaf, y Gymraeg, bron bob tro wrth fy ngwaith yn y Cynulliad, ac rwy'n falch iawn fy mod i'n gallu gwneud hynny, wrth gwrs. Un rhwystr i hynny ydy'r ffaith bod briffiadau'r Gwasanaeth Ymchwil ar gyfer gwaith pwyllgor yn cael eu paratoi yn Saesneg. Weithiau, mae hynny'n golygu oedi o ddiwrnod neu ddau cyn bod y fersiwn Gymraeg ar gael. Un ffordd o ddechrau goresgyn hynny fyddai annog y rhai sy'n meddu ar sgiliau dwyieithog yn y Gwasanaeth Ymchwil i gynhyrchu briffiadau yn y Gymraeg—yn y lle cyntaf, hynny yw. Mi fyddan nhw'n siŵr o gael eu trosi i'r Saesneg yn gyflym iawn, felly. I mi, dyma un arwydd o wir ddwyieithrwydd—hynny yw, bod dogfennau yn cael eu cynhyrchu yn y Gymraeg, ac ychydig iawn o hynny sydd yn digwydd rŵan, yn ôl fy mhrofiad i, beth bynnag. Ac yn ogystal â symud i'r cyfeiriad yna, efallai y byddai cynnwys dangosydd penodol i fesur cynnydd yn y maes yna yn bwysig.
Felly, rydw i yn edrych ymlaen at weld y ffrwyth gwaith yn parhau ac i weld cynnydd cyffredinol pellach erbyn i ni gael yr adroddiad y flwyddyn nesaf. Diolch.