Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 18 Medi 2018.
Ond ar gost, oherwydd daw cost gyda gweinyddiaeth bob amser, ac mae'r costau'n sylweddol fel rheol. Byddai'n well gen i weld y problemau'n cael eu datrys fel hyn—yn hytrach na chostau yn mynd ar weinyddiaeth, bod yr arian hwnnw'n cael ei roi i hawlwyr credyd cynhwysol, ac yn ail, wrth gwrs, gweld Llywodraeth Lafur yn cael ei hethol yn Llundain a fydd yn datrys y sefyllfa'n briodol.