Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 18 Medi 2018.
Wel, rwy'n dal i fod yn bryderus iawn am ddiffygion sylfaenol credyd cynhwysol. Rwy'n siomedig bod Llywodraeth y DU yn mynnu ei gyflwyno. Mae canfyddiadau'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol ar gredyd cynhwysol yn tynnu sylw at lawer o broblemau yr ydym ninnau hefyd wedi eu codi dro ar ôl tro gyda Llywodraeth y DU.