Cysylltiadau Economaidd rhwng Cymru a De-orllewin Lloegr

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 18 Medi 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 1:58, 18 Medi 2018

(Cyfieithwyd)

Dim ond nawr y mae'n dod yn fwy eglur y bydd effaith gostwng y tollau ar Bont Hafren yn cynyddu traffig gan oddeutu 20 y cant, wrth i yrru ddod yn ddewis rhatach a mwy deniadol yn hytrach na thrafnidiaeth gyhoeddus, yn ogystal ag effaith y mesur ar brisiau eiddo ar draws y de-ddwyrain. Pa asesiad mae'r Prif Weinidog wedi ei wneud o'r mesurau trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol newydd a amlinellwyd yn yr adroddiad a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf gan y comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol?