1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 18 Medi 2018.
3. Beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i wella cysylltiadau economaidd rhwng Cymru a de-orllewin Lloegr? OAQ52568
Mae ein buddsoddiad mewn cysylltedd trafnidiaeth, ynghyd â'r cynllun gweithredu economaidd, yn dangos ein hymrwymiad i fwy o weithio trawsffiniol a thyfu'r cysylltiadau economaidd gyda'n cymdogion.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am ei ymateb. Yr wythnos diwethaf, cadeiriais fforwm polisi Cymru yng Nghasnewydd ar greu pwerdy gorllewinol, ac roeddwn ni'n synnu o wrando ar gryn dipyn o sylwadau negyddol yn enwedig o feinciau Plaid Cymru am hyn. A ddoe, rwy'n credu, dywedodd economegydd Plaid Cymru ei fod yn ymosodiad ar uniondeb Cymru. A wnaiff y Prif Weinidog ar ran Llywodraeth Cymru gadarnhau ei fod yn cefnogi ein gwaith agosach gyda gorllewin Lloegr, ac yn benodol gyda Marvin Rees a Tim Bowles, y ddau faer a etholwyd yn uniongyrchol sydd gennym ni yno, ac a wnaiff ef sicrhau y bydd Llywodraeth Cymru, i'r graddau y mae ganddi bwerau, yn ogystal â dinas-ranbarth Caerdydd, yn gweithio gyda'r meiri hynny a etholwyd yn uniongyrchol a chyda Llywodraeth y DU i wneud popeth posibl i sicrhau ein bod ni'n cael y budd gorau y gallwn o ddiddymu'r tollau a chryfder yr economi dros bont Hafren i gysylltu â ni yma yn ne Cymru?
Wel, nid oes unrhyw anhawster gyda gweithio'n draws-ffiniol. Mae pawb arall yn ei wneud. Os byddwn ni'n dweud nad ydym ni'n mynd i weithio ar draws y ffin, mae'n arwydd o deimlo'n israddol. Ac felly rydym ni'n fwy na pharod i weithio nid yn unig â chydweithwyr yn Lloegr, ond yn Iwerddon hefyd ac, yn wir, gyda'n partneriaid Ewropeaidd, sy'n hynod bwysig i ni. Rydym ni'n Llywodraeth rhyng-genedlaetholaidd—rydym ni'n edrych tuag allan, ac mae hynny'n golygu edrych y tu hwnt i ffiniau Cymru ym mhob ffordd. Fodd bynnag, yr hyn na all hyn fod yw achos o gipio grym gan Lywodraeth y DU i sefydlu rhyw fath o gorff trawsffiniol sy'n dianc rhag rheolaeth Llywodraeth Cymru. Ni fyddwn yn goddef hynny. Un o'r problemau, wrth gwrs, yw nad oes lefel gyfatebol o Lywodraeth yn Lloegr y gallwn ni siarad â hi, mewn gwirionedd. Dim ond Llywodraeth y DU sydd yna. Nid oes gan y meiri y pwerau sydd gennym ni, ac mae hynny'n drueni i bobl yn Lloegr. A gwelsom hyn: roedd cyfle gwych i ni pan aeth yr asiantaethau datblygu rhanbarthol—diflannodd ein holl gystadleuaeth. Roedd yn newyddion gwych i ni; nid oedd yn newyddion da i ranbarthau Lloegr. Felly, byddwn, wrth gwrs y byddwn yn gweithio gyda phartneriaid y tu allan i Gymru, ond mae'n rhaid cael ffordd ddiffiniedig o wneud hynny nad yw'n effeithio ar bwerau a chyfrifoldebau'r Llywodraeth a'r Cynulliad.
Dim ond nawr y mae'n dod yn fwy eglur y bydd effaith gostwng y tollau ar Bont Hafren yn cynyddu traffig gan oddeutu 20 y cant, wrth i yrru ddod yn ddewis rhatach a mwy deniadol yn hytrach na thrafnidiaeth gyhoeddus, yn ogystal ag effaith y mesur ar brisiau eiddo ar draws y de-ddwyrain. Pa asesiad mae'r Prif Weinidog wedi ei wneud o'r mesurau trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol newydd a amlinellwyd yn yr adroddiad a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf gan y comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol?
Wel, yn gyntaf oll, mae'n rhaid i mi wneud y penderfyniad o ran ba un a ddylai'r llwybr du fynd rhagddo ai peidio. Rwyf i bob amser yn ystyried dewisiadau eraill. Nid yw rhai ohonynt yn eglur, o'r adroddiad, ynghylch sut y byddent yn gweithredu'n ymarferol, ond, fel Llywodraeth, wrth gwrs, rydym ni wedi bod yn ymrwymedig dros ben i fuddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus. Rydym ni'n gweld hynny, wrth gwrs, drwy'r rhwydwaith rheilffyrdd a'r buddsoddiad sylweddol a fydd yn cael ei wneud ym metro de Cymru ac mewn rhannau eraill o Gymru dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.
Mae'r Prif Weinidog yn iawn, wrth gwrs: mae diben gwleidyddol ehangach ar waith yn y fan yma. Wrth greu'r ddau gytref helaeth hyn, Mersi Dyfrdwy yn y gogledd, Glannau Hafren yn y de, sy'n croesi ffin Cymru fel cawr, maen nhw yno i ailintegreiddio Cymru i economi wleidyddol Lloegr. Ond mae hyn wedi bod yn rhan o agenda eich Llywodraeth chi hefyd. A all y Prif Weinidog ddweud yn onest bod troi Casnewydd yn faestref cymudo i Fryste fwyaf yn gwneud unrhyw beth—unrhyw beth—cadarnhaol i bobl ar gyflogau isel neu gyfartalog yng Nghasnewydd? Ac, yn hytrach na'r obsesiwn hwn â chysylltiadau trawsffiniol a chysylltedd trawsffiniol, beth am rywfaint o gysylltedd o fewn Cymru? Beth am gael cysylltiadau trafnidiaeth yng Nghymru fel bod ceisio cael o dde i ogledd ein gwlad ddim yn antur ar raddfa glasurol?
Wel, nid wyf i'n credu mai adeiladu wal Berlin economaidd yw'r ateb, a dweud y gwir. Y gwir amdani yw bod y llifau economaidd a masnachol yn mynd o'r gorllewin i'r dwyrain. Nid oes rhaid i hynny amharu ar ein hunaniaeth ni. Mae hynny'n rhywbeth y dylem ni fod yn falch ohono. Nid yw hynny'n golygu ei fod yn fygythiad i Gymru. Os byddwn ni'n ei weld felly, rydym ni'n ddioddefwyr ein teimlad o israddoldeb ein hunain. Ceir cysylltiadau llawer gwell i'r gogledd na fu erioed. Mae gennym ni awyren ddwywaith y dydd ac mae'r trenau yn rhedeg bob dwy awr; pan ddeuthum i yma ym 1999, nid oedd yr un trên yn mynd i'r gogledd o gwbl—nid oedd trên uniongyrchol. Mae hynny wedi gwella. Rydym ni wedi gweld gwelliannau graddol ar yr A470 hefyd, ond, fel y gwyddoch, nid ffordd yw'r ateb cyn belled ag y mae mynd o'r gogledd i'r de yn y cwestiwn. Ond mewn gwirionedd, ni fyddai unoliaethwyr Gogledd Iwerddon hyd yn oed yn dweud, 'Nid ydym ni eisiau gweithio gyda'r Weriniaeth'. Maen nhw'n gweld gwerth gweithio traws-ffiniol; nid ydyn nhw'n ei weld fel bygythiad iddyn nhw eu hunain yn arbennig. Dylem ni ei groesawu—ei reoli a'i groesawu—a gwneud yn siŵr ei fod yn gweithio o blaid ein pobl ein hunain.