Brexit

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 18 Medi 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Steffan Lewis Steffan Lewis Plaid Cymru 2:06, 18 Medi 2018

(Cyfieithwyd)

Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Wrth gwrs, bydd polisi mewnfudo'r dyfodol yn hollbwysig i baratoadau ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac mae'r Pwyllgor Cynghori ar Fewnfudo wedi cyhoeddi adroddiad heddiw. Maen nhw'n dweud bod mewnfudwyr o'r UE wedi talu mwy mewn treth nag y maen nhw wedi ei dderbyn mewn budd-daliadau, wedi cyfrannu mwy at weithlu'r GIG na'r gofal iechyd y maen nhw wedi ei dderbyn, ac na chawsant unrhyw effaith ar gyfraddau troseddu. Yn anffodus, wrth gwrs, mae'r ffigurau mewnfudo diweddaraf yn dangos bod mewnfudiad net o'r UE ar ei lefel isaf ers 2012. Fel y dywedodd y Prif Weinidog ddoe gerbron y pwyllgor materion allanol, mae gennym ni, i bob pwrpas, gyflogaeth lawn yng Nghymru, ond galw cynyddol am wasanaethau cyhoeddus ac, wrth gwrs, anghenion llafur yn yr economi ehangach. Felly, wrth i'r Torïaid gau'r bont godi ar ynys ffantasi Prydain, a yw'r Prif Weinidog yn nes o gwbl i ddatblygu'r awgrym ar gyfer system trwydded waith i Gymru?