1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 18 Medi 2018.
5. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y paratoadau diweddaraf ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd? OAQ52585
Gwnaf. Ceir tri pheth y gallaf gyfeirio atynt. Yn gyntaf oll, rydym ni'n cadw llygad manwl iawn ar ba ddeddfwriaeth allai fod ei hangen ac amseriad unrhyw ddeddfwriaeth o'r fath cyn Brexit. Yn ail, rydym ni'n gweithio, er enghraifft, ar ddarparu cymorth drwy ein cronfa bontio'r UE gwerth £50 miliwn. Byddwn yn lansio porth busnes newydd maes o law, ac, yn ogystal â hynny, rydym ni'n ehangu ein gweithrediadau tramor i amddiffyn marchnadoedd presennol. Byddwn hefyd yn recriwtio mwy o swyddogion. Mae miloedd wedi eu recriwtio yn Whitehall. Ni allwn ni gyrraedd y lefel honno, ond rydym ni'n bwriadu recriwtio 198 o aelodau staff ychwanegol i ymdrin â'r mater pwysicaf yr ydym ni wedi ei wynebu yn yr 20 mlynedd diwethaf. Yn wir, 21 mlynedd yn ôl i heddiw y cynhaliwyd y refferendwm.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Wrth gwrs, bydd polisi mewnfudo'r dyfodol yn hollbwysig i baratoadau ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac mae'r Pwyllgor Cynghori ar Fewnfudo wedi cyhoeddi adroddiad heddiw. Maen nhw'n dweud bod mewnfudwyr o'r UE wedi talu mwy mewn treth nag y maen nhw wedi ei dderbyn mewn budd-daliadau, wedi cyfrannu mwy at weithlu'r GIG na'r gofal iechyd y maen nhw wedi ei dderbyn, ac na chawsant unrhyw effaith ar gyfraddau troseddu. Yn anffodus, wrth gwrs, mae'r ffigurau mewnfudo diweddaraf yn dangos bod mewnfudiad net o'r UE ar ei lefel isaf ers 2012. Fel y dywedodd y Prif Weinidog ddoe gerbron y pwyllgor materion allanol, mae gennym ni, i bob pwrpas, gyflogaeth lawn yng Nghymru, ond galw cynyddol am wasanaethau cyhoeddus ac, wrth gwrs, anghenion llafur yn yr economi ehangach. Felly, wrth i'r Torïaid gau'r bont godi ar ynys ffantasi Prydain, a yw'r Prif Weinidog yn nes o gwbl i ddatblygu'r awgrym ar gyfer system trwydded waith i Gymru?
Fel y bydd ef yn gwybod, nid wyf i wedi bod yn erbyn system o'r fath mewn egwyddor. Ni fu trafodaethau pellach ynghylch hyn ers iddo gael ei godi ddiwethaf gan David Davis gyda mi. Rwy'n credu bod heddiw'n gyfle amserol i ystyried hynny unwaith eto. Ond nid wyf yn cytuno â chanfyddiadau'r adroddiad hwnnw. Mae pawb yn dweud, 'Mae angen i ni ddenu gweithwyr proffesiynol.' Does neb yn anghytuno â hynny. Ond y gwir amdani yw bod angen i ni ddenu pobl mewn llawer o feysydd o'r economi. Y gwir amdani, os edrychwn ni ar brosesu bwyd, os edrychwn ni ar ein lladd-dai, nad ydyn nhw at ddant pawb o ran rhywle i weithio ynddo, yw bod niferoedd enfawr, os nad mwyafrif y gweithwyr yn y diwydiannau hynny, yn dod o wledydd eraill mewn gwirionedd. Pe na bydden nhw'n gallu dod yma, byddai'r lladd-dai hynny'n cau a byddai pobl leol a oedd yn gweithio yno yn colli eu swyddi. Mae hynny'n rhywbeth sy'n cael ei anghofio yn aml. Nid yw'n gwestiwn o, 'Wel, gadewch i ni gael y bobl mwyaf medrus yn unig'; rydym ni angen y bobl sydd eu hangen ar yr economi er mwyn i'r economi, nid yn unig ffynnu, ond gweithredu.
Prif Weinidog, a fyddech chi'n cytuno â mi bod angen i Gymru fanteisio ar y cyfleoedd a gyflwynir gan Brexit, yn ogystal ag ymdrin â'r canlyniadau anffafriol posibl? Un o'r cyfleoedd hynny, yn ogystal â'r cyfleoedd masnach dramor—yr ydych chi eisoes wedi eu nodi, a bod yn deg, fel Llywodraeth, ac rydych chi wedi buddsoddi yn eich swyddfeydd tramor—yw newidiadau i'r prosesau caffael y gallai'r Llywodraeth eu defnyddio yng Nghymru. Nawr, yn amlwg, mae rheoliadau'r UE ar hyn o bryd yn achosi problemau sylweddol, yn enwedig i fusnesau bach a chanolig eu maint, sy'n aml iawn eisiau cyflawni busnes gyda'r sector cyhoeddus. Beth mae eich Llywodraeth chi yn ei wneud i edrych ar y prosesau caffael sy'n weithredol yma yng Nghymru yn y sector cyhoeddus er mwyn manteisio ar y cyfleoedd o adael yr UE?
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei ganmoliaeth i'r swyddfeydd tramor a feirniadwyd yn gyffredinol yn y gorffennol am gael eu hagor? Ond croesawaf y dröedigaeth. Ers rhai blynyddoedd bellach, mae'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol wedi darparu gwasanaeth rhagorol i fusnesau fanteisio ar gyfleoedd caffael. Rydym ni wedi gweld, er enghraifft, nifer y gwasanaethau sy'n cael eu caffael yn lleol yn cynyddu mewn llywodraeth leol ac o ran yr hyn yr ydym ni'n ei gaffael mewn gwirionedd. Oes, mae'n rhaid i ni fod yn barod am yr hyn y gallai Brexit ei daflu atom ni, ond, ddwy flynedd yn ddiweddarach, ni allaf weld beth yn union yw manteision Brexit. Nid wyf i'n gweld unrhyw gytundebau masnachu ar y bwrdd, nid wyf i'n gweld unrhyw gyfleoedd i allforwyr Cymru a fyddai'n disodli'r rhwystrau yr ydym ni'n eu codi i'r farchnad Ewropeaidd, felly gadewch i ni obeithio y bydd cytundeb sy'n rhesymol ym mis Tachwedd, cytundeb a gytunir, a chytundeb, yn bwysig, sy'n gweithio i weithwyr Cymru.
Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno ag ysgrifennydd cyffredinol Cyngres yr Undebau Llafur, Frances O'Grady, a ddywedodd yr wythnos diwethaf bod hawliau gweithwyr a mesurau diogelu cyflogaeth mewn perygl o dan Brexit a'r posibilrwydd brawychus o 'ddim cytundeb'? A ydych chi'n cytuno y byddai 'dim cytundeb' yn drychinebus i weithwyr yng Nghymru?
Wel, wrth gwrs, y twyll yw, ddwy flynedd yn ôl, ar adeg y refferendwm, ni ddywedodd neb—ni ddywedodd neb, hyd yn oed y cefnogwyr diwyro dros ymadael—'Wrth gwrs ni fydd unrhyw gytundeb'. Ddywedodd neb hynny. Dywedodd pawb wrth gwrs y bydd cytundeb, bydd yr UE yn awyddus dros ben i roi cytundeb i ni a bydd gweithgynhyrchwyr ceir yr Almaen yn dod i'n hachub—cefais gyfarfod â rhai ohonyn nhw bythefnos yn ôl, a dydyn nhw ddim yn mynd i wneud hynny—a gorfodi llaw Llywodraeth yr Almaen ac, felly, yr Undeb Ewropeaidd. Nid yw hynny wedi digwydd. Nid yw wedi digwydd, a dyma'r oeddem ni i gyd yn ei ofni, ar y pryd, ddwy flynedd yn ôl. Os na allwn ni daro bargen gyda'n marchnad agosaf, fwyaf y mae gennym ni aliniad rheoleiddio sylweddol â hi eisoes, nid oes gennym ni unrhyw siawns o'i wneud â neb arall—dim siawns. Mae pobl yn sôn am gytundeb masnach rydd gyda Seland Newydd; wel, iawn, ond mae Seland Newydd yn farchnad â dim ond 4.8 miliwn o bobl ac mae 12,000 o filltiroedd i ffwrdd. Ni fydd byth yn disodli'r farchnad Ewropeaidd o 450 miliwn, y mae gennym ni ffin dir â hi, ac weithiau mae hynny'n cael ei anghofio. Felly, ie, ar bob cyfrif, edrychwch ar gytundebau masnach rydd eraill, ond y gwir amdani yw, os na chawn ni ein perthynas gydag Ewrop yn iawn, ni fydd dim byd arall yn gweithio.