Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 18 Medi 2018.
Gwn fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn rheoleiddio'r gwaith dur yn unol â'r drwydded a gyflwynir o dan y drefn trwyddedu amgylcheddol. Mae gennym ni, wrth gwrs, ein hymrwymiad i wella a mynd ati'n rhagweithiol i fynd i'r afael ag ansawdd aer gwael yn yr ardal. Ym mis Ebrill, cyflwynodd Gweinidog yr Amgylchedd gynlluniau i ail-edrych ar y cynllun gweithredu—y dull y mae'n ei ddefnyddio a'r dystiolaeth sy'n sail iddo—a deallaf y bydd y Gweinidog yn cyfarfod gyda Tata, gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a gyda chyngor Castell-nedd Port Talbot yn fuan i gynorthwyo'r broses honno.