1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 18 Medi 2018.
4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella ansawdd aer ym Mhort Talbot a'r cyffiniau? OAQ52615
Mae rhaglen waith wedi'i theilwra ar y gweill i adolygu'n annibynnol y cynllun gweithredu aer glân ar gyfer Port Talbot ac i ddatblygu cynllun gwaith ar gyfer y dyfodol i wella ansawdd aer ymhellach yn y rhanbarth. Hefyd, cafodd swyddogion gyfarfod y bore yma gyda Chyfoeth Naturiol Cymru a chyngor Castell-nedd Port Talbot.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Rwy'n siŵr bod llawer o faterion yr ydych chi'n rhoi ystyriaeth iddynt. Canolbwyntiwyd y gwaith o fonitro ansawdd aer ar PM10s a PM2.5s—sy'n ddealladwy, gan mai dyna'r rhai a gydnabyddir sy'n cael yr effaith fwyaf ar iechyd pobl—ond rydym ni wedi gweld cynnydd mawr i'r hyn a adnabyddir fel alldafliadau llwch niwsans o waith dur Port Talbot ar draws holl ardal Port Talbot. Nawr, rwy'n cydnabod efallai nad yw hwn yn cael ei ystyried fel mater iechyd, ond mae'n sicr yn fater iechyd—mae pobl yn anadlu hwn i mewn, maen nhw'n ei gerdded drwy eu tai, mae ar eu ceir a'u heiddo—ac mae'n broblem wirioneddol i lawer o'm hetholwyr i. Hefyd, does dim amheuaeth nad o waith dur Tata mae hwn yn dod, ac rwyf i wedi cael trafodaethau gyda rheolwyr Tata i ystyried beth maen nhw'n ei wneud am hyn. Ceir cynlluniau i broblemau tymor hwy gael eu datrys drwy wella'r amgylchedd, ond ceir problem tymor byr o ran ei wneud nawr. Beth allwn ni ei wneud am y prosesau cynhyrchu i sicrhau bod y cynnyrch hwn yn cael ei leihau a'i gyfyngu cymaint â phosibl? A wnewch chi fel Llywodraeth ystyried y ffyrdd y gallwch chi weithio gyda Tata i ystyried yr atebion tymor hir? Hoffwn eich atgoffa nad yw cymorth gwladwriaethol yr UE yn effeithio ar ddewisiadau amgylcheddol, felly ceir posibilrwydd o ystyried yr atebion tymor hwy hynny. Ond a allwch chi hefyd gael trafodaethau gyda Tata i ystyried sut y gallan nhw fod yn gymydog cyfrifol i sicrhau bod yr alldafliadau yr ydym ni'n eu dioddef ym Mhort Talbot yn cael eu lleihau fel nad ydym yn cael sefyllfa lle, bob bore, mae pobl yn deffro i lwch du neu goch ar eu gerddi, neu ar eu ceir neu ar eu silffoedd ffenestri a gorfod edrych ar hynny bob un dydd? Mae hyn wedi digwydd ac mae'n annerbyniol. Mae angen gweithredu arnom ni nawr i sicrhau bod Tata yn cymryd eu cyfrifoldeb o ddifrif.
Gwn fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn rheoleiddio'r gwaith dur yn unol â'r drwydded a gyflwynir o dan y drefn trwyddedu amgylcheddol. Mae gennym ni, wrth gwrs, ein hymrwymiad i wella a mynd ati'n rhagweithiol i fynd i'r afael ag ansawdd aer gwael yn yr ardal. Ym mis Ebrill, cyflwynodd Gweinidog yr Amgylchedd gynlluniau i ail-edrych ar y cynllun gweithredu—y dull y mae'n ei ddefnyddio a'r dystiolaeth sy'n sail iddo—a deallaf y bydd y Gweinidog yn cyfarfod gyda Tata, gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a gyda chyngor Castell-nedd Port Talbot yn fuan i gynorthwyo'r broses honno.
Prif Weinidog, bu ychydig dros chwe mis erbyn hyn ers i'r parth 50 mya ar yr M4 gael ei ymestyn rhwng Port Talbot a throad Earlswood ar gyfer Abertawe, gyda'ch Gweinidog yn dweud wrthym ar y pryd bod hyn cyn cwblhau modelu manwl a fyddai'n digwydd yn yr haf. Wel, mae'r haf ar ben, felly a allwch chi ddweud wrthym ni beth mae'r tri mis hynny wedi ei gynhyrchu o ran data, pa un a yw'r modelu manwl wedi ei gwblhau, ac yn benodol, pa un a yw unrhyw gyfran o'r traffig wedi cael ei ddargyfeirio i'r ffordd ddosbarthu?
Mae'r data hynny yn cael eu dadansoddi ar hyn o bryd. Bydd yr allbwn yn cael ei gyhoeddi fel y gall yr Aelodau a'r cyhoedd ei weld, a bydd hynny'n cael ei wneud cyn gynted â phosibl.
Prif Weinidog, yn amlwg, yn ogystal â diwydiant, fel yr ydym wedi clywed, mae'n amlwg bod llygredd cysylltiedig â thrafnidiaeth o'r M4 a ffyrdd lleol yn ychwanegu at yr heriau ansawdd aer ym Mhort Talbot. Nawr, gallai metro bae Abertawe a chymoedd y gorllewin leihau nifer y ceir ar y ffyrdd yn sylweddol, ond yn amlwg mae angen cyllid i wneud hyn. Felly, pa drafodaethau mae eich Llywodraeth wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU a Network Rail ers cyhoeddi adroddiad 'Yr Achos dros Fuddsoddi' yr Athro Barry ym mis Gorffennaf? A pha mor hyderus ydych chi ar hyn o bryd y bydd Llywodraeth y DU yn gwrando ar geisiadau am gyllid rheilffyrdd teg i Gymru, gan nad ydym ni erioed wedi cael cyllid rheilffyrdd teg yng Nghymru?
Wel, gofynnodd i mi a wyf i'n ffyddiog ynghylch cyllid rheilffyrdd teg, a'r ateb gonest yw 'nac ydw', gan fod hanes yn dweud yn wahanol wrthym ni. Rydym ni wedi derbyn 1.1 y cant o'r buddsoddiad mewn seilwaith, er gwaethaf y ffaith y dylai ein cyfran boblogaeth fod yn uwch o lawer. Cymru a Lloegr yw hynny, wrth gwrs, heb yr Alban hefyd.
O ran Abertawe, wrth gwrs, tynnwyd llawer o rwydwaith rheilffyrdd Abertawe ymaith yn y 1960au, wrth gwrs, felly bydd llawer o'r atebion i'w cael mewn dewisiadau nad ydynt yn rhai rheilffyrdd trwm. Mae trafodaethau yn parhau rhwng swyddogion—ac, yn wir, gyda'r Gweinidog—gyda, er enghraifft, awdurdodau lleol ac, wrth gwrs, yr awdurdodau sy'n ymdrin â'r fargen ddinesig. Yr hyn sy'n hynod bwysig, wrth gwrs, yw gwneud yn siŵr bod pob cymuned yn cael ei gwasanaethu'n briodol. Gwn y bu awgrym ar un adeg na fyddai Castell-nedd ar y brif reilffordd mwyach. Ni fu hynny erioed yn wir; gallaf roi'r sicrwydd pendant hwnnw i bobl. Mae hynny'n gwbl eglur. Felly, mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n gallu cysylltu mwy o gymunedau trwy nifer o foddau trafnidiaeth yn ardal bae Abertawe.