Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 18 Medi 2018.
Prif Weinidog, yn amlwg, yn ogystal â diwydiant, fel yr ydym wedi clywed, mae'n amlwg bod llygredd cysylltiedig â thrafnidiaeth o'r M4 a ffyrdd lleol yn ychwanegu at yr heriau ansawdd aer ym Mhort Talbot. Nawr, gallai metro bae Abertawe a chymoedd y gorllewin leihau nifer y ceir ar y ffyrdd yn sylweddol, ond yn amlwg mae angen cyllid i wneud hyn. Felly, pa drafodaethau mae eich Llywodraeth wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU a Network Rail ers cyhoeddi adroddiad 'Yr Achos dros Fuddsoddi' yr Athro Barry ym mis Gorffennaf? A pha mor hyderus ydych chi ar hyn o bryd y bydd Llywodraeth y DU yn gwrando ar geisiadau am gyllid rheilffyrdd teg i Gymru, gan nad ydym ni erioed wedi cael cyllid rheilffyrdd teg yng Nghymru?