Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 18 Medi 2018.
Wel, rwy'n amharod i roi fy hun yn lle oncolegydd o ran yr hyn y gallai'r oncolegydd hwnnw ei feddwl. Byddwn yn tybio y byddai'n arfer da beth bynnag i feddyg teulu gael ei hysbysu am gynnydd o ran claf. Nawr, mae gan bobl wahanol diwmorau; maen nhw'n ymateb mewn gwahanol ffyrdd o ran gwahanol ganserau. Rydym ni'n gwybod hynny, a dyna pam, yn y dyfodol, mai therapi genynnau sy'n cario'r fflach o obaith mawr i nifer fawr iawn o bobl. Er fy mod i'n synnu o glywed am yr enghraifft—ac os hoffai rannu mwy o wybodaeth â mi, yna byddwn yn falch o edrych ar hynny—byddwn yn meddwl y byddai'n arfer da i'r llif gwybodaeth fynd y ddwy ffordd.