1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 18 Medi 2018.
6. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella cyfraddau goroesi canser? OAQ52610
Cyflwynir ein dull ar gyfer gwella cyfraddau goroesi canser yn y cynllun cyflawni ar ganser Cymru. Mae hwnnw'n cynnwys pwyslais penodol ar ganfod canser yn gynnar, mynediad amserol at driniaeth a'r ddarpariaeth o ofal o ansawdd uchel.
Diolch. Prif Weinidog, diagnosis cynnar yw'r peth allweddol i wella cyfraddau goroesi canser cleifion canser Cymru. Cysylltodd meddyg teulu â mi gan fynegi pryder ynghylch nifer yr atgyfeiriadau canser sy'n cael eu hisraddio fel mater o drefn gan feddyg ymgynghorol. Mae'r meddyg teulu a gododd y mater hwn gyda mi yn credu, fel yr wyf innau, y dylai'r meddyg teulu gael ei hysbysu am y penderfyniad hwn fel bod modd iddo herio'r penderfyniad. Mae meddyg teulu yn adnabod ei glaf yn well o lawer na meddyg ymgynghorol sydd erioed wedi gweld y claf, ac er efallai y bydd gan y meddyg ymgynghorol wybodaeth arbenigol am ganser, mae gan y meddyg teulu wybodaeth arbenigol am y claf. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi ei gwneud hi'n ofyniad gorfodol bod meddygon teulu yn cael eu hysbysu am unrhyw benderfyniadau i israddio atgyfeiriad canser?
Wel, rwy'n amharod i roi fy hun yn lle oncolegydd o ran yr hyn y gallai'r oncolegydd hwnnw ei feddwl. Byddwn yn tybio y byddai'n arfer da beth bynnag i feddyg teulu gael ei hysbysu am gynnydd o ran claf. Nawr, mae gan bobl wahanol diwmorau; maen nhw'n ymateb mewn gwahanol ffyrdd o ran gwahanol ganserau. Rydym ni'n gwybod hynny, a dyna pam, yn y dyfodol, mai therapi genynnau sy'n cario'r fflach o obaith mawr i nifer fawr iawn o bobl. Er fy mod i'n synnu o glywed am yr enghraifft—ac os hoffai rannu mwy o wybodaeth â mi, yna byddwn yn falch o edrych ar hynny—byddwn yn meddwl y byddai'n arfer da i'r llif gwybodaeth fynd y ddwy ffordd.
Prif Weinidog, ers nifer o flynyddoedd erbyn hwn, rwyf i wedi defnyddio cwestiynau i'r Prif Weinidog i ofyn i chi nodi pryd y mae eich Llywodraeth yn bwriadu cyrraedd ei thargedau amseroedd aros canser, ac rydych chi, a bod yn deg, wedi rhoi sicrwydd rheolaidd i mi y bydd yn digwydd yn y dyfodol agos iawn. Ond dangosodd y ffigurau diweddaraf ar gyfer mis Mehefin 2018 bod y targed ar gyfer cleifion sy'n cael eu hatgyfeirio drwy'r llwybr brys yn cael ei fethu gan yn agos i 10 y cant. Mae'n amlwg mai un o'r rhwystrau i gyrraedd y targedau hyn yw cynllunio gweithlu gwael ar gyfer y swyddi diagnostig. Pa sicrwydd allwch chi ei roi y bydd y sefydliad Addysg a Gwella Iechyd Cymru sydd newydd gael ei greu yn canolbwyntio ar gynllunio gweithlu mwy effeithiol? Ac wrth i'ch cyfnod fel Prif Weinidog ddirwyn i ben, a gaf i ofyn un tro olaf: pryd mae eich Llywodraeth yn bwriadu cyrraedd ei thargedau amseroedd aros canser?
Wel, y cwbl y gallaf i ei ddweud yw bod gennym ni'r cyfraddau goroesi uchaf a adrodd hyd yma, a siawns bod hynny'n rhywbeth y dylem ei groesawu—goroesodd 72.7 y cant o'r rheini a gafodd ddiagnosis rhwng 2005-09 a 2010-14 o leiaf blwyddyn, disgwylir i 57.1 y cant oroesi am o leiaf pum mlynedd, ac mae marwolaethau cynamserol a achoswyd gan ganser wedi gostwng gan oddeutu 10 y cant yn ystod y degawd diwethaf. Mae'r ffigurau hynny yn siarad drostynt eu hunain o ran yr hyn sydd wedi digwydd gyda darpariaeth ganser. [Torri ar draws.] Wel, mae hi'n sôn am dargedau—mae hwnnw'n gwestiwn teg—ond yr ateb a roddaf yw, 'Edrychwch ar y canlyniadau'. Y gwir amdani yw bod mwy a mwy o bobl sydd nid yn unig yn cael eu gwella—pum mlynedd yn rhydd o ganser yw hynny—ond hefyd yn byw gyda chanser mewn ffordd a oedd yn amhosibl 10 neu 15 mlynedd yn ôl, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth i ni ei ddathlu. Ydym, wrth gwrs, rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod mwy o bobl yn cael eu gweld cyn gynted â phosibl, a dechreuodd 85.9 y cant o bobl sydd newydd gael diagnosis canser drwy'r llwybr brys driniaeth swyddogol o fewn yr amser targed ym mis Mehefin, 97.4 y cant o'r rheini nad oeddent ar y llwybr brys. Ond gallwn weld o'r cyfraddau goroesi bod pethau'n symud i'r cyfeiriad cywir.
Mi oedd yna stori yn y wasg ddoe, yn digwydd bod, am glaf a oedd wedi goroesi canser ond a oedd wedi dod o hyd i dyfiant newydd. Mi wnaed cais am brawf PET, ac mi wrthodwyd hynny. Nid oedd rheswm wedi'i roi pam ei fod o wedi cael ei wrthod, ond yn ôl cyngor iechyd cymuned y gogledd, mae'n llawer haws cael mynediad at brofion PET mewn rhai ardaloedd nag mewn ardaloedd eraill. Mae yna anghysondeb.
Rŵan, gan ein bod ni'n gwybod bod diagnosis cynnar yn yrrwr allweddol pan mae'n dod at oroesi canser, onid ydy hi'n amlwg bod yn rhaid cael, yn gyntaf, mynediad mor gyflym â phosibl, yn enwedig i bobl sydd wedi cael canser ac wedi goroesi yn y gorffennol, ond hefyd ei bod hi'n amlwg bod yna anghysondeb, fel y gwelsom ni efo profion mpMRI yn ddiweddar? A wnewch chi gyfaddef bod y diffyg cysondeb yna yn golygu bod rhai pobl mewn rhai rhannau o Gymru â llai o siawns o oroesi canser na phobl eraill?
Na, nid ydw i'n derbyn bod yna ddiffyg cysondeb. Rŷm ni'n gwybod bod y scanners ar gael—mae un yng Nghaerdydd ac mae un yn Wrecsam. Rŷm ni'n gwybod bod y system ddim yn cael ei rheoli ynglŷn â faint o capacity sydd. So, mae yna capacity yn y system. Anodd iawn, wrth gwrs, yw gwybod y rheswm, a pham fod yr unigolyn wedi cael yr ateb yna, ond nid oes yna ddim tystiolaeth i ddangos bod pobl yn y gogledd, er enghraifft, mewn sefyllfa waeth na'r rheini yn y de. Ond heb wybod y manylion, wrth gwrs, mae'n anodd siarad mwy amdano fe.