3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am y Trefniadau Pontio Ewropeaidd

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:50 pm ar 18 Medi 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 3:50, 18 Medi 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd Cyllid. Fel y gwyddoch chi, rwyf wedi mynegi yn gyson fy mhryderon ynghylch effaith Brexit ar hawliau gweithwyr a chydraddoldeb o ran cyfraith yr UE, ac wedi cefnogi swyddogaeth gadarnhaol cronfeydd strwythurol i ehangu cyfle cyfartal yn y farchnad lafur, a welir, er enghraifft, yn eich cyhoeddiad diweddar o £17 miliwn i bobl ifanc yn ne-ddwyrain Cymru er mwyn helpu i wireddu eu potensial o ran gyrfa.

Rwyf wedi bod yn astudio'r hysbysiadau technegol—maen nhw'n fyr iawn, mae'n rhaid imi ddweud—pe bai 'dim bargen'. Mae'r canllawiau ar hawliau gweithle os bydd Brexit 'dim bargen' yn ein hatgoffa o ystod cyfraith yr UE sydd wedi dod â manteision hawliau gweithwyr, gan gynnwys: rheoliadau amser gweithio; hawl i wyliau oherwydd rhesymau teuluol gan gynnwys absenoldeb mamolaeth a thadolaeth; deddfwriaeth i atal a chywiro gwahaniaethu ar sail oedran, rhyw, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd neu gred, hil neu darddiad ethnig yn y gweithle; deddfwriaeth i amddiffyn gweithwyr rhan-amser a phobl ifanc, a llawer mwy. Dywed yr hysbysiad technegol y bydd Llywodraeth y DU yn parhau i weithio gyda'r gweinyddiaethau datganoledig i sicrhau bod hawliau gweithwyr yn dal yn weithredol ledled y DU. Unwaith eto, a wnewch chi gadarnhau bod yr ymgysylltiad hwn yn digwydd a rhoi unrhyw sicrwydd ynglŷn â'r hawliau a'r amddiffyniadau hyn os ceir sefyllfa o 'ddim bargen'?

Mae angen sicrwydd hefyd o ran grantiau Cronfa Gymdeithasol Ewrop pe bai 'dim bargen'. Unwaith eto, dywed yr hysbysiad technegol:

Yn y sefyllfa annhebygol o beidio â gallu taro bargen, y byddai ymadawiad y DU o'r UE yn golygu na fyddai sefydliadau yn y DU yn gallu cael cyllid yr UE ar gyfer prosiectau Cronfa Gymdeithasol Ewrop ar ôl y diwrnod ymadael, sef Mawrth 2019. A ydych chi wedi cael sicrwydd gan Lywodraeth y DU na fydd unrhyw fwlch mewn cyllid ar gyfer twf rhanbarthol, ac y câi prosiectau'r UE eu gwarantu, gan gynnwys Cronfa Gymdeithasol Ewrop, mewn sefyllfa o 'ddim bargen'?

Yn olaf, fe hoffwn i ofyn cwestiwn am gronfa bontio'r UE o ryw £50 miliwn a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru. Soniwyd amdano wrth graffu ar waith Prif Weinidog Cymru ddoe yn y pwyllgor materion allanol. A allwch chi gadarnhau na fydd y swm canlyniadol gan Lywodraeth y DU yn ddigon i ariannu pob gweithgaredd sy'n ymwneud â Brexit y mae angen inni ei wneud, felly mae'n rhaid inni ddiwallu'r anghenion hyn o ran paratoi ar gyfer y cyfnod pontio drwy ddefnyddio cyllideb gyfyngedig iawn o ganlyniad i gyni ac nad yw Llywodraeth y DU yn darparu'r arian sydd ei angen arnom ni o ran y cyfnod pontio hwnnw?