6. Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:45 pm ar 18 Medi 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour 4:45, 18 Medi 2018

(Cyfieithwyd)

Mae'n deg dweud bod nifer ohonom wedi rhannu rhai o bryderon Llyr ynghylch y cynnig gofal plant ar ei ffurf bresennol. Byddaf yn ymhelaethu ar rai o'r meysydd hynny ychydig yn ddiweddarach. Fodd bynnag, ar y cyfan, nid oeddem o'r farn bod y pryderon hyn yn gyfiawnhad i'r Pwyllgor argymell y dylai'r Bil fethu ar hyn o bryd. Daethom i'r casgliad hwn ar sail ein cred bod angen y Bil er mwyn gallu defnyddio'r data sydd gan adrannau Llywodraeth y DU, gan gynnwys Cyllid a Thollau EM, i asesu cymhwystra ar gyfer y cynnig. Roedd y dystiolaeth a gyflwynwyd inni yn dangos cefnogaeth aruthrol i'r dull hwn.

Roedd y cymorth hwn wedi'i seilio ar un brif ddadl. Roedd pawb yn cydnabod y gellid cyflwyno'r cynnig gofal plant yn genedlaethol trwy ofyn i rieni brofi eu bod yn gymwys trwy ddarparu gwaith papur perthnasol i awdurdodau lleol. Fodd bynnag, roedd consensws eang, ar sail profiad yn yr ardaloedd sy'n ei dreialu ar hyn o bryd, fod hyn wedi bod yn feichus i rieni, darparwyr a llywodraeth leol fel ei gilydd. Roedd llawer hefyd yn dadlau y gallai ei gyflwyno ar sail archwiliadau â llaw gynyddu'r potensial ar gyfer anghysondeb a cham-drin y system.

Felly, ar y sail honno, roedd mwyafrif ein pwyllgor yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil hwn. Serch hynny, nodwyd gennym nifer o feysydd y credwn y dylid eu gwella. Y prynhawn yma, byddaf yn amlinellu rhai o'r camau y credwn y dylai'r Gweinidog eu cymryd i wella'r Bil.

Cyn imi wneud hynny, dylwn egluro ein bod wedi gwneud ein hargymhellion ar sail y gred gadarn nad oes modd gwahanu darpariaethau'r Bil oddi wrth fanylion y cynnig gofal plant ei hun. Mae'r Bil hwn yn rhoi pwerau eang i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth i bennu manylion eu cynnig gofal plant. Er nad ydym efallai yn amau y bwriadau a nodwyd gan y Llywodraeth hon, mae'n rhaid inni gofio, os caiff y Bil hwn ei basio, y bydd y pwerau yno i unrhyw Lywodraeth yn y dyfodol wneud fel y mynnon â nhw. Ein cyfrifoldeb ni yw sicrhau ein bod yn eglur ynghylch yr hyn yr ydym yn deddfu i'w ganiatáu, ac a oes digon o fanylion ar wyneb y Bil i sicrhau bod bwriadau'r Cynulliad wedi'u diffinio'n glir yn y ddeddfwriaeth sy'n cael ei phasio.

I symud yn awr at fanylion ein hargymhellion. Yn gyntaf, rydym yn awyddus i sicrhau bod y gwersi a ddysgwyd o'r gwerthusiad o'r cynnig presennol sy'n cael ei dreialu yn llywio'r ddeddfwriaeth hon. Er ein bod yn cydnabod bod angen i'r Cynulliad symud yn gyflym i ddeddfu er mwyn cyflawni cyflwyniad cenedlaethol sy'n cynnwys y data sydd gan adrannau'r DU, rydym yn dal i fod yn siomedig na lwyddwyd i gwblhau gwerthusiad y cynllun treialu o'r cynnig cyn i'r ddeddfwriaeth hon gael ei dwyn ymlaen. Rydym yn pryderu mai'r prif reswm a nodwyd gan randdeiliaid dros adael llawer o'r manylion sy'n sail i ddarpariaethau'r Bil i'r rheoliadau oedd yr angen i barhau i fod yn hyblyg wrth aros am ganlyniadau'r gwerthusiad. Mae'r Gweinidog a'r rhanddeiliaid wedi rhoi pwysau sylweddol ar y gwersi a fydd yn deillio ohono.

Yn sgil hyn, credwn y dylai canfyddiadau'r gwerthusiad fod ar gael i ni eu hystyried cyn dechrau Cyfnod 3. Mae hyn er mwyn rhoi digon o gyfle i bob aelod gynnig ac ystyried unrhyw welliannau i'r Bil a allai fod yn ofynnol o ganlyniad i'r gwerthusiad. Rydym yn croesawu awgrym y Gweinidog yn ei ymateb ysgrifenedig a'i sicrwydd heddiw y bydd yn ymdrechu i rannu'r canfyddiadau cyn i Gyfnod 3 ddechrau.

Mae un arall o'n hargymhellion allweddol yn ymwneud ag a ddylid cyfyngu darpariaethau'r Bil i blant rhieni sy'n gweithio yn unig. Yn y dystiolaeth a gawsom, mynegwyd cryn bryderon y gallai cyfyngu'r Bil i'r grŵp hwn yn unig olygu mwy o anghydraddoldeb rhwng plant rhieni nad ydynt yn gweithio a phlant rhieni sydd yn gweithio, yn arbennig mewn cysylltiad â'r bwlch o ran parodrwydd i'r ysgol a chyrhaeddiad addysgol.

I liniaru'r effaith ar rai o deuluoedd tlotaf Cymru, argymhellwyd i'r Gweinidog y dylid ymestyn darpariaethau'r Bil y tu hwnt i rieni sy'n gweithio, yn benodol i'r rheini sy'n ymgymryd ag addysg a hyfforddiant sy'n gysylltiedig â sicrhau cyflogaeth.

Rydym yn siomedig nad yw'r Gweinidog wedi derbyn yr argymhelliad hwn. Rydym yn cydnabod bod rhaglenni eraill ar gael i gefnogi rhieni nad ydynt yn gweithio, gan gynnwys Rhieni, Gofal Plant a Chyflogadwyedd a Dechrau'n Deg, ac yn croesawu ymrwymiad y Gweinidog i egluro pa gymorth sydd ar gael ac i bwy. Fodd bynnag, rydym yn parhau i bryderu nad yw rhaglenni o'r fath ar gael i bawb y mae angen cymorth arnyn nhw ar hyn o bryd. Wedi'r cyfan, dangosodd ein hymchwiliad diweddar i Dechrau'n Deg fod y rhan fwyaf o'r plant sy'n byw mewn tlodi yn byw y tu allan i ardaloedd diffiniedig Dechrau'n Deg. Anogaf y Gweinidog i ailystyried yr argymhelliad hwn.

Yn ystod ein gwaith craffu, clywsom y bydd materion pwysig megis pa ofal plant a ariennir y bydd plentyn cymwys yn gallu ei gael, lle y bydd y gofal plant yn cael ei ddarparu, pwy fydd yn ei ddarparu, ac ar ba gyfradd fesul awr, yn cael eu nodi yn y cynllun gweinyddol. O dan y cynlluniau presennol, nid oes gan y cynllun gweinyddol unrhyw statws cyfreithiol. Rydym yn credu bod angen mynd i'r afael â hyn.

Roedd Argymhelliad 6 yn galw ar y Gweinidog i ddiwygio'r Bil i'w gwneud yn ofynnol i'r cynllun gweinyddol gael ei wneud trwy is-ddeddfwriaeth er mwyn iddo fod ar sail statudol. Byddwn yn gwahodd y Gweinidog i ailystyried ei ymateb i'r argymhelliad hwn. Ni wnaethom nodi y dylai'r manylion hyn fod ar wyneb y Bil neu mewn rheoliadau. Rydym yn awyddus i wneud yn siŵr bod dyletswydd gyfreithiol i lunio'r cynllun gweinyddol hwn os bydd yn cynnwys manylion pwysig o'r fath.

Yn fwy cyffredinol, rydym yn cytuno â'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol fod angen rhagor o waith ar y cydbwysedd rhwng yr hyn sydd ar wyneb y Bil, yr hyn a gaiff ei adael i'r rheoliadau, a'r hyn sydd wedi'i gynnwys yn y cynllun gweinyddol. Rydym wedi galw ar Lywodraeth Cymru i roi mwy o fanylion ei chynnig arfaethedig ar wyneb y Bil, gyda phŵer i Weinidogion ddiwygio manylion yn y dyfodol trwy'r Rheoliadau, yn ddarostyngedig i'r weithdrefn uwchgadarnhaol.

Rydym yn croesawu awgrym y Gweinidog ei fod yn archwilio'r opsiynau sydd ar gael iddo. Ond, rydym yn parhau i fod o'r farn os na chymerir camau o'r fath, dylai'r rheoliadau a wneir o dan adran 1 o'r Bil fod yn ddarostyngedig i weithdrefn uwchgadarnhaol o ystyried eu harwyddocâd.

Yn yr amser sydd gennyf yn weddill, hoffwn ganolbwyntio ar ddau fater a oedd yn peri pryder arbennig i ni yn ein gwaith craffu, a hoffwn i ragor o eglurhad yn eu cylch. Yn gyntaf, a wnaiff y Gweinidog fy sicrhau i y bydd yn cynnal asesiad effaith diwygiedig o ran hawliau plant sy'n ystyried effaith y Bil ar y plant hynny nad ydynt yn gymwys o dan ei ddarpariaethau? Fel pwyllgor, rydym yn credu bod hyn yr un mor bwysig ag asesu'r effaith ar blant cymwys, ac nid oedd yr ymateb ysgrifenedig yn egluro hyn. Yn ail, rwyf yn annog y Gweinidog i ailystyried yn ofalus allu darparwyr i godi ffioedd ychwanegol ar rieni. Rydym yn poeni'n fawr y gallai bil o hyd at £162 y mis olygu bod y cynnig gofal plant yn anfforddiadwy i rieni sy'n gweithio ac yn cael y cyflog isaf. Rydym o'r farn bod angen ailystyried hyn.

I gloi, hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei ymgysylltiad â'n hadroddiad. Er nad yw wedi derbyn rhai o'n hargymhellion, rwy'n cydnabod ei fod wedi derbyn y mwyafrif, ac edrychaf ymlaen at barhau ag ymgysylltiad adeiladol y Pwyllgor â'r Gweinidog i geisio dod o hyd i atebion i'r problemau mwyaf dybryd yr ydym wedi'u nodi. Diolch.