Part of the debate – Senedd Cymru am 4:44 pm ar 18 Medi 2018.
Diolch Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl Cyfnod 1 i nodi prif gasgliadau ac argymhellion y Pwyllgor Plant, Pobl ifanc ac Addysg ynghylch y Bil Cyllido Gofal Plant.
Byddwch yn gweld o'n hadroddiad fod saith o'r wyth Aelod yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil hwn. Fel y clywsoch, nid oedd Llyr Gruffydd o blaid symud y Bil y tu hwnt i Gyfnod 1, ac rwy'n siŵr y bydd ef yn amlinellu'r rhesymau dros hyn yn fuan.