Part of the debate – Senedd Cymru am 5:11 pm ar 18 Medi 2018.
Nid yw'n iawn fod teuluoedd sy'n ennill hyd at £200,000 y flwyddyn yn gallu cael gofal plant am ddim pan fo'r plant tlotaf o aelwydydd di-waith, wrth gwrs, yn cael eu heithrio rhag mwynhau'r union fanteision hynny. Gwyddom fod y plant tlotaf, erbyn yr adeg y maen nhw'n dair blwydd oed, eisoes 10 mis y tu ôl i'w cyfoedion mwy cefnog o ran datblygu geirfa, lleferydd a llythrennedd. Yn wir, mae Coleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith yn dweud wrthym fod yr 20 y cant tlotaf, mewn gwirionedd, 17 mis ar ôl y grŵp incwm uchaf erbyn iddynt gyrraedd tair oed.
Mae peidio â sicrhau bod gofal plant o ansawdd uchel ar gael i'r plant tlotaf hynny yn cadarnhau tlodi rhwng cenedlaethau. Nid yw torri'r cylch; mae'n ei waethygu. Nid dim ond fy marn i ac eraill yn y Siambr hon yw hyn—mae'r comisiynydd plant yn rhannu'r pryderon hyn. Mae hi wedi disgrifio'r polisi fel cymhorthdal mawr i rai o'r teuluoedd sy'n ennill y cyflogau mwyaf yng Nghymru sy'n debygol o atgyfnerthu'r anghydraddoldebau mewn canlyniadau ar gyfer gwahanol grwpiau cymdeithasol. Mae Achub y Plant a sefydliadau plant eraill wedi mynegi pryderon, fel y mae rhai o undebau'r athrawon hefyd, yn wir.
Nawr, rydym wedi clywed sawl gwaith bod Dechrau'n Deg yno ar gyfer yr ardaloedd tlotaf, i'w cefnogi, ac mae Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl ifanc ac Addysg eisoes wedi ein hatgoffa bod y rhan fwyaf o'r plant tlawd yng Nghymru yn byw y tu allan i ardaloedd Dechrau'n Deg. Mae hynny'n garfan fawr o bobl ifanc—neu blant, ddylwn i ei ddweud—sy'n disgyn drwy'r bylchau ym mholisïau'r Llywodraeth hon, a dydy hynny ddim yn dderbyniol i mi nac i fy mhlaid i.
Cafwyd cyfeiriadau at werthuso'r cynlluniau treialu a fydd ar gael yr hydref hwn, ac rwy'n ddiolchgar bod y Gweinidog yn dweud y bydd yn rhoi cipolwg cynnar inni o'r gwerthusiad hwn. Ond, wrth gwrs, mae ef eisoes wedi cyflwyno'r Bil, felly nid oes gennym y dystiolaeth i ategu'r stwff anecdotaidd, y dywedir wrthym yn y Pwyllgor ac yn y Siambr hon, mai hwn yw'r polisi cywir a'i fod yn gweithio. Rwyf i eisiau gweld y dystiolaeth cyn inni gymeradwyo'r darn hwn o ddeddfwriaeth. Yn wir, mae Pwyllgor arall yn y Cynulliad hwn—ac rydym ni, fel Pwyllgor, hefyd—wedi clywed nad yw'n gywir targedu plant tair i bedair-oed o reidrwydd ar gyfer y buddsoddiad hwn, a bod angen inni, efallai, ystyried ei wneud cyn hynny. Mewn gwirionedd, o ran buddsoddi i ganiatáu i'r rhieni hynny ddychwelyd i'r gwaith, mae'r angen mwyaf yn digwydd o'r adeg pan mae'r plentyn yn un oed. Mae'r her yn dod yn ôl atom ni fel plaid, hefyd, i edrych ar ein polisi ni, ond mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni'n barod i'w wneud, ac nid dim ond palu ymlaen er gwaethaf popeth â'n llygaid ar gau a'n pennau i lawr.
Mae'n rhaid imi ddweud, er mor ganmoladwy oedd cynnig y Gweinidog i arwain ei blaid, fe wnaeth yn glir mai ei uchelgais mawr oedd rhoi darpariaeth cyn-ysgol i bawb. Wel, mae gennym gyfle i wneud hynny, ac roeddech chi'n gwbl iawn i ddweud y byddai'r ddarpariaeth honno yn mynd i'r afael ag effeithiau tlodi. Roeddech chi'n gwbl iawn i ddweud y byddai'n lleihau'r bwlch cyrhaeddiad pan fydd plant yn dechrau ysgol ac y byddai'n trawsnewid cyfleoedd bywyd y plant hynny. Wel, wyddoch chi beth? Pe byddech chi wedi pleidleisio dros Blaid Cymru yn etholiad diwethaf y Cynulliad, gallem ni eisoes fod wedi dechrau cyflawni hynny.