Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 19 Medi 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, mewn perthynas â'r cynlluniau arfaethedig i symud/cau Ysgol Gynradd Llancarfan, y cyfeiriodd fy nghyd-Aelod atynt yn awr, clywais fod mater mynediad at y rhaglen adeiladu ysgolion yn aml yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion gael eu hadeiladu ar safleoedd newydd ac i ysgolion gael eu cyfuno neu eu hehangu. Mae hon yn broblem wirioneddol i ysgolion mewn cymunedau gwledig, lle gall fod yno safle cyfyngedig, heb opsiwn arall ar gael a lle nad oes arian ar gael ar gyfer addasu—mae'n rhaid i chi gael adeilad newydd cynhwysfawr—ac mae hyn yn cyfyngu ar y dewisiadau sydd gan awdurdodau lleol, yn enwedig pan fyddant yn awyddus i gynyddu hyfywedd ein hysgolion gwledig, llai o faint. A wnewch chi edrych ar y rhaglen adeiladu?