Mercher, 19 Medi 2018
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Vikki Howells.
1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i gyhoeddi canllawiau statudol newydd ar gyfer gwisgoedd ysgol? OAQ52592
3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu'r cyngor am gau ysgolion gwledig y mae Llywodraeth Cymru'n ei ddarparu i awdurdodau lleol ar hyn o bryd? OAQ52595
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Siân Gwenllian.
4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y twf arfaethedig mewn addysg cyfrwng Cymraeg? OAQ52574
6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y ddarpariaeth o gyfleusterau chwarae mewn ysgolion lleol? OAQ52581
7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyfraddau cyflog ar gyfer athrawon cyflenwi? OAQ52591
9. Beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i hyrwyddo lles emosiynol mewn ysgolion? OAQ52601
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Ysgrifennydd Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Mohammad Asghar.
1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella gwasanaethau i oroeswyr strôc yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ52582
2. A wnaiff Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am argaeledd gwelyau yn y GIG yng Nghymru? OAQ52594
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Angela Burns.
3. What assessment has the Cabinet Secretary made of the level of progress over the last six months to solve problems at Betsi Cadwaladr University Health Board? OAQ52607
4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyno system Trawsgrifio Meddyginiaethau ac E-ryddhau ar draws holl ysbytai Cymru? OAQ52577
5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â heriau recriwtio yn y GIG? OAQ52575
6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am hyrwyddo iechyd corfforol ymysg pobl ifanc? OAQ52589
8. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am argaeledd gwasanaethau i gefnogi plant ag arthritis yng Nghanol De Cymru? OAQ52597
9. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i annog pobl i gofrestru fel rhoddwyr mêr esgyrn i gefnogi'r rhai sydd angen trawsblaniad mêr esgyrn? OAQ52587
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiwn amserol—Neil McEvoy.
1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gefnogi'r gwyddonwyr sy'n ceisio atebion gan Magnox Cyf. ynghylch nifer a graddau'r damweiniau pyllau oeri yn Hinkley Point A a allai fod wedi arwain at symiau...
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiadau 90 eiliad, ac mae'r datganiad cyntaf gan Nick Ramsay.
Yr eitem nesaf yw'r ddadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar graffu ôl-ddeddfwriaethol ar Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013. Rwy'n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud...
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Julie James, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Rhun ap Iorwerth.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Paul Davies, gwelliant 2 yn enw Rhun ap Iorwerth, a gwelliant 3 yn enw Julie James. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu...
Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch, rwy'n symud yn syth i'r bleidlais. Mae'r bleidlais gyntaf ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar safonau...
Os ydych yn gadael y Siambr, a allwch wneud hynny'n dawel, os gwelwch yn dda, ac yn gyflym? Rydym yn symud yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar Jack Sargeant i siarad ar y pwnc a ddewiswyd...
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i sicrhau bod myfyrwyr yng Nghymru yn gallu cael mynediad at wybodaeth ar achrediad proffesiynol cyrsiau gradd?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y ddarpariaeth o glybiau ar ôl ysgol? Trosglwyddwyd i'w ateb yn ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia