Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 19 Medi 2018.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Ychydig cyn toriad yr haf, cyhoeddasoch ganllawiau newydd mewn perthynas ag ysgolion gwledig—rhywbeth a gafodd groeso. Yn amlwg, daw'r canllawiau hynny i rym yn ddiweddarach eleni. Hoffwn ddeall pa bwys y dylai awdurdodau lleol ei roi ar hyn o bryd ar y canllawiau penodol a gyhoeddwyd gennych. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, nid ydynt wedi'u hymgorffori yn y cod, ond mae llawer o awdurdodau—ac rwy'n meddwl am un ym Mro Morgannwg—yn penderfynu ar gau ysgolion ar hyn o bryd, ac mae'n bwysig nad oes brys i gau nifer o ysgolion sydd mewn perygl cyn i'r canllawiau newydd hyn ddod yn rhan o'r cod. Felly, a allech nodi pa bwys rydych chi fel Ysgrifennydd y Cabinet yn ei roi ar y nodyn a ddosbarthwyd gennych cyn toriad yr haf, os gwelwch yn dda?