Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 19 Medi 2018.
Diolch, Llywydd. Mae un o'r prif bwyntiau gweithredu o dan thema 2, 'Cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg', yn eich strategaeth 'Cymraeg 2050' yn ymwneud a rôl ganolog y gweithle wrth gyrraedd y targed o weld 20 y cant o'r boblogaeth yn defnyddio'r Gymraeg bob dydd. Rydych chi'n cydnabod rôl hanfodol Llywodraeth Cymru fel cyflogwr pwysig yng Nghymru yn hynny o beth ac yn ymrwymo y byddwch chi fel Llywodraeth yn, ac rydw i'n dyfynnu,
'arwain drwy esiampl drwy hybu a hwyluso cynnydd yn y defnydd a wneir o’r Gymraeg gan ein gweithlu ein hunain.'
A allwch chi roi diweddariad i ni ar y gwaith yma?