Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 19 Medi 2018.
Diolch yn fawr, Lywydd. Yn gyntaf, a gaf fi ddiolch i Paul Davies am fy mhenodi i'r swydd newydd hon? Ni allaf ddweud wrthych faint rwy'n edrych ymlaen. Gobeithiaf na fydd ots gan Ysgrifennydd y Cabinet os dechreuaf gyda rhywbeth o ddiddordeb personol a dychwelyd at ysgolion gwledig, o ystyried profiad fy nheulu dros y 15 mlynedd diwethaf.
Gallaf weld bod yr ymgynghoriad ar y newidiadau hyn, ac wrth gwrs, ar newidiadau eraill i'r cod—rhaid inni beidio ag anghofio hynny—wedi'i gynnal dros flwyddyn yn ôl, fwy neu lai yn ystod gwyliau haf 2017. Sut y gwnaeth eich adran gydymffurfio â'i rhwymedigaeth i roi sylw dyledus i erthygl 12 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn wrth gynnal yr ymgynghoriad?