Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 19 Medi 2018.
Diolch, Lywydd, a phrynhawn da, Ysgrifennydd y Cabinet. Ym mis Awst, dywedodd Comisiynydd Plant Cymru, Sally Holland, nad yw'n credu bod newid yn digwydd yn ddigon cyflym i ddiogelu plant sy'n cael eu haddysgu yn y cartref. Daw hyn ar ôl dau achos mewn dwy flynedd o blant yn cael eu hesgeuluso, a bu un ohonynt farw o ganlyniad i hynny, yn anffodus. A allwch chi ddweud wrthyf beth ydych chi wedi bod yn ei wneud i ddiogelu plant sy'n cael eu haddysgu yn y cartref?