Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 19 Medi 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf wedi darllen y cod a osodwyd ddydd Llun. Mae'n cynnwys dynodiad o ysgolion gwledig at ddibenion rhagdybiaeth yn erbyn cau, ac mae'n defnyddio dosbarthiad gwledig a threfol y Swyddfa Ystadegau Gwladol, ac rwy'n derbyn hwnnw, a dyna pam fod y rhestr yno ar y cefn. Ond pan edrychwch ar y gofynion ychwanegol manwl, rwy'n gofyn y cwestiwn: pam nad ydynt yn berthnasol i bob ysgol, oherwydd mewn gwirionedd, dylai'r gofynion ychwanegol hynny fod yn berthnasol i bob ysgol sydd dan ystyriaeth ar gyfer ei chau? Mae'r awdurdod lleol yn fy ardal i wedi dynodi y dylid cau Ysgol Gyfun Cymer Afan, ond mae'n rhaid i'r astudiaeth fanwl a chydwybodol sydd ei hangen, yn enwedig ynghylch yr effaith ar y gymuned, gael ei defnyddio mewn perthynas â phob ysgol. A wnewch chi edrych ar hyn a dweud nad yw'n ymwneud ag ysgolion gwledig yn unig ac y dylai fod yn berthnasol ar gyfer pob ysgol?