Cyfraddau Cyflog ar gyfer Athrawon Cyflenwi

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 19 Medi 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 2:12, 19 Medi 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Hefin. Cyrff llywodraethu ysgolion ac awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am gyflogi, defnyddio a rheoli gweithlu'r ysgol. Telir athrawon cyflenwi a gyflogir yn uniongyrchol gan ysgolion ac awdurdodau lleol yn unol â chyfraddau cyflog y cytunwyd arnynt yn genedlaethol. Telir athrawon a gyflogir gan asiantaethau cyflenwi preifat yn unol â thelerau eu contract cyflogaeth.