Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 19 Medi 2018.
Rwyf am ddweud wrth Suzy Davies fy mod yn ymwybodol ei bod hi a minnau'n rhannu dyhead i wella safonau addysg wledig, gan gydnabod bod gan ysgolion gwledig ran bwysig i'w chwarae, nid yn unig o ran addysg plant gwledig ond yn y gymuned ehangach. Mewn llawer o leoliadau gwledig, yr ysgol yw'r unig adeilad cyhoeddus sydd ar ôl yn y lle hwnnw, ac felly mae angen inni wneud ein gorau i'w cefnogi. O ran yr ymgynghoriad, rwy'n fodlon, wrth gynnal yr ymgynghoriad hwnnw y llynedd, fod Llywodraeth Cymru wedi cydymffurfio â'r holl ofynion a roddwyd arnynt.