5. Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Gwaith Craffu ar ôl Deddfu ar Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:40 pm ar 19 Medi 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 3:40, 19 Medi 2018

(Cyfieithwyd)

Ni ddylem synnu nad yw Ysgrifennydd y Cabinet ond wedi derbyn ein hargymhelliad cyntaf mewn egwyddor yn unig, argymhelliad a oedd yn ystyried mai diffyg arweinyddiaeth strategol ar lefel Llywodraeth Cymru a'r awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am y diffyg cynnydd hyd yn hyn, lle dylid cryfhau arweinyddiaeth Llywodraeth Cymru ac egluro'r hyn y mae'n ei ddisgwyl gan arweinwyr lleol.

Un peth yw i Ysgrifennydd y Cabinet ddweud,

'Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dangos arweinyddiaeth wrth roi’r Ddeddf

Teithio Llesol ar waith', ond fel y mae ein Cadeirydd, Russell George, yn datgan yn rhagair yr adroddiad,

'Mae'n bryd nawr i'r Llywodraeth newid ei hymddygiad ei hun, dangos arweinyddiaeth go iawn a chymryd camau i wireddu uchelgeisiau'r Ddeddf.'

Yn wir, nid yw ymateb disylwedd, hunanesgusodol Ysgrifennydd y Cabinet y bydd yn parhau i hyrwyddo'r agenda hon a bod gan awdurdodau lleol rôl glir i'w chwarae yn gwneud y tro. Ac nid yw'n ddigon da iddo dderbyn mewn egwyddor yn unig ein hargymhelliad y dylai Llywodraeth Cymru adolygu ei chanllawiau statudol i gynnwys cydgynhyrchu fel safon ofynnol ar gyfer cyflwyno Deddf Teithio Llesol (Cymru), a chynnwys rhanddeiliaid nid yn unig yn y broses o nodi'r broblem, ond eu galluogi i fod yn rhan o'r ateb hefyd.

Mae disgrifio technegau cydgynhyrchu fel modd o ddatblygu cynlluniau da yn unig yn dangos methiant cyson Ysgrifennydd y Cabinet i ddeall bod cydgynhyrchu'n golygu gwneud pethau'n wahanol—llunio a darparu gwasanaethau gyda phobl a chymunedau er mwyn gwella bywydau a chryfhau'r cymunedau hynny. Nid yw cydgynhyrchu'n ymwneud â chyni; mae'n rhan o fudiad byd-eang sy'n ddegawdau oed bellach ac wedi gwneud gwelliannau sylweddol ar draws ein planed. Mae'n ymwneud â symud o ddulliau seiliedig ar anghenion tuag at ddatblygu sy'n seiliedig ar gryfder—helpu pobl mewn cymunedau i nodi'r cryfderau sydd ganddynt eisoes, a defnyddio'r cryfderau hynny gyda hwy.

Ym mis Gorffennaf 2017, agorais a siaradais mewn digwyddiad yn y Cynulliad gydag ESP Group ar wneud i wasanaethau trafnidiaeth a thechnoleg weithio dros gynhwysiant a lles. Mae'r ESP Group yn helpu gweithredwyr trafnidiaeth mawr a dinasoedd i ddarparu gwasanaethau i gwsmeriaid heddiw a llunio gwasanaethau symudedd ar gyfer y dyfodol, gyda chleientiaid megis Transport for London, Rail Delivery Group, ScotRail, Stagecoach, cynghorau Llundain a Llywodraeth yr Alban. Fel y dywedais yno, rwy'n falch o weithio gyda Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru a'r nifer gynyddol o sefydliadau ar draws Cymru sy'n arddel egwyddorion cydgynhyrchu, gan gydnabod nad yw hyn yn ymwneud â chyni, ond â datgloi cryfderau pobl i allu adeiladu bywydau gwell a chymunedau cryfach.

Hefyd dyfynnais ddatganiad Sefydliad Bevan sy'n dweud, os yw pobl yn teimlo bod polisïau'n cael eu gorfodi arnynt, nad yw'r polisïau hynny'n gweithio, ac y dylid cynhyrchu rhaglen newydd gyda chymunedau ac nid ei chyfeirio o'r brig i lawr. Ychwanegai y gallwn gyflawni mwy drwy ddeall beth sy'n bwysig a thrwy gynllunio tuag yn ôl, gan ddefnyddio'r pen blaen fel y system gynllunio proses, lle dylai ymwneud cymunedol mewn cydgynllunio a chyd-ddarparu gwasanaethau lleol fod yn ganolog.

Mewn cyferbyniad, dywedodd Cŵn Tywys Cymru ac RNIB Cymru yn glir wrth y pwyllgor, er bod llwybrau'n gallu troi'n fannau anhygyrch, ni fu fawr iawn o ymgysylltiad â phobl ddall a rhannol ddall na sefydliadau sy'n cynrychioli eu safbwyntiau. Fel y mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn dweud, rhaid i gyrff cyhoeddus gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod pobl yn gallu cyfrannu at eu cymuned, a'u bod yn cael eu hysbysu, eu cynnwys a'u clywed. Rhaid i Ysgrifennydd y Cabinet ddeall bod cyflawni hyn yn galw am roi diwedd ar ddweud wrth bobl beth y gallant ei gael, a gofyn iddynt yn lle hynny beth y gallant ei gyflawni.

Mae Sustrans Cymru, yr elusen sy'n ei gwneud yn haws i bobl gerdded a beicio, yn gweld gwerth mewn buddsoddi a chysylltu pob math o drafnidiaeth fel bod cerdded a beicio yn opsiwn hawdd a hygyrch. Maent yn disgrifio proses gaffael masnachfraint Cymru a'r Gororau fel, cyfle a gollwyd i integreiddio cerdded a beicio'n well gyda thrafnidiaeth gyhoeddus, ac maent yn datgan y dylai gorsafoedd trên fod yn ganolfannau teithio llesol, gan ei gwneud yn haws i gymudwyr, pobl leol ac ymwelwyr gadw'n heini.

Ym mis Ebrill 2017, noddais ddigwyddiad Cynulliad yma ar gyfer y cwmni datblygu seilwaith Furrer+Frey, a oedd yn lansio eu Papur Gwyn ar ddatblygu atebion trafnidiaeth cynaliadwy, hyblyg, amlfodd ar gyfer Cymru. Roedd yn cynnwys canlyniadau llawn arolwg YouGov o drafnidiaeth gyhoeddus Cymru, a ganfu mai 29 y cant o bobl yn unig sy'n meddwl bod trafnidiaeth gyhoeddus wedi'i chydgysylltu'n dda yng Nghymru, gyda 5 y cant yn unig yn fodlon iawn yng ngogledd Cymru. Rwy'n gorffen gyda'u datganiad fod seilwaith trafnidiaeth yn cysylltu cymunedau a rhaid ei ddefnyddio mewn ffordd gynaliadwy a than reolaeth gan ddefnyddio adnoddau lleol, h.y. pobl, lle bynnag sy'n bosibl.