Part of the debate – Senedd Cymru am 4:30 pm ar 19 Medi 2018.
Rwy'n credu'n bendant fod y Ddeddf teithio llesol yn llwyddiant mawr. Mae'n rhywbeth rwy'n arbennig o falch ohono ac ni chredaf y dylem danbrisio'r effaith a gafodd y Ddeddf eisoes. Mae wedi cyflawni rhywbeth na wnaethpwyd erioed o'r blaen yng Nghymru. Ac ers ei chychwyn bedair blynedd yn ôl, mae'r Ddeddf wedi arwain at ddatblygu cynlluniau'n systematig ar gyfer rhwydweithiau cerdded a beicio diogel ar gyfer yr holl drefi mwy a chanolig eu maint a phentrefi yng Nghymru—mwy na 140 ohonynt.
Credaf fod creu'r cynlluniau yn gyflawniad allweddol, ond nid ydym wedi rhoi'r gorau i fuddsoddi mewn seilwaith yn y cyfamser. Yn y pedair blynedd ariannol ers gwneud y Ddeddf, rydym wedi buddsoddi mwy na £60 miliwn mewn seilwaith cerdded a beicio o'r cyllidebau trafnidiaeth yn unig. Mae'r ffigur yn cynnwys cyllid ar gyfer tua 125 o gynlluniau Llwybrau Diogel mewn Cymunedau, a thua 70 o gynlluniau'r gronfa trafnidiaeth leol sy'n canolbwyntio ar deithio llesol. Ond nid yw'r arian hwnnw'n cynnwys gwelliannau ehangach a ariannwyd gennym fel rhan o gynlluniau diogelwch ar y ffyrdd, cyfyngiadau terfyn cyflymder a chynlluniau trafnidiaeth integredig.
A nawr bod y cynlluniau yn eu lle, rydym yn cyflymu'r gwaith o greu llwybrau teithio llesol. Eleni, rydym eisoes wedi dyrannu mwy na £22 miliwn o fuddsoddiad cyfalaf ar gyfer gwelliannau teithio llesol lleol drwy ein grantiau trafnidiaeth lleol ac wedi addo £50 miliwn pellach ar gyfer y ddwy flynedd ddilynol fel rhan o'r gronfa teithio llesol, ar ben y £10 miliwn ar gyfer Llwybrau Diogel mewn Cymunedau. Ac fel y dywedodd Julie Morgan, byddwn yn gwario cannoedd o filiynau o bunnoedd ar wella gorsafoedd trên a gorsafoedd bysiau yng Nghymru, gyda'r nod o wella cyfleoedd i bobl fabwysiadu arferion teithio llesol.
Nawr, rwy'n cydnabod, fel yr amlygwyd gan argymhellion y pwyllgor, y gellid ac y dylid gwella prosesau. Rwy'n credu bod ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y pwyllgor yn dangos ein parodrwydd i wneud hyn. Mae fy swyddogion yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol, gyda Sustrans a phartneriaid eraill i ystyried ac i ddysgu o brofiad y camau cynnar a llywio camau dilynol y broses. Byddwn yn nodi gwelliannau pellach y gellir eu gwneud i'r broses.
Eisoes rydym wedi cryfhau cynrychiolaeth awdurdodau lleol ar y bwrdd teithio llesol, fel yr argymhellwyd, ac rydym wedi croesawu cynrychiolaeth ranbarthol newydd yng nghyfarfod diwethaf y bwrdd ym mis Mehefin. Mae Trafnidiaeth Cymru hefyd yn aelod parhaol o'r bwrdd teithio llesol bellach ac rwyf wrth fy modd fod Trafnidiaeth Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio arweinydd teithio llesol dynodedig i adeiladu capasiti arbenigol yn y sefydliad, fel y trafodwyd gyda'r pwyllgor yn gynharach eleni.
Ac roeddwn yn cytuno gyda'r pwyllgor fod yn rhaid gweithredu'r Ddeddf mewn modd integredig. Derbynnir yn gyffredinol fod gan deithio llesol botensial i sicrhau manteision uniongyrchol mewn ystod eang o feysydd, ac mae hyn yn golygu nad mater trafnidiaeth yn unig neu hyd yn oed yn bennaf yw cynyddu lefelau teithio llesol, fel y dywedodd Lee Waters. O'm rhan i, nid wyf yn cerdded a beicio'n rheolaidd er mwyn ysgafnhau traul ar fy nghar nac i arbed costau ar danwydd; rwy'n ei wneud er fy lles meddyliol ac emosiynol a chorfforol fy hun. Ac rwy'n credu bod Vikki Howells wedi gwneud achos cryf iawn dros fuddsoddi mewn teithio llesol er mwyn gwella iechyd a lles ar draws y wlad.
Rwy'n gweld gwerth mewn partneriaid yn gweithio gyda'i gilydd i wneud y mwyaf o'r cyfleoedd y mae teithio llesol yn eu cynnig, yn enwedig ym maes iechyd y cyhoedd, a hefyd rwy'n bwriadu cynnal cyfarfodydd dwyochrog gyda chyd-Aelodau o'r Cabinet i drafod beth arall y gellir ei wneud yn ein meysydd cyfrifoldeb ein hunain. Credaf fod Lee Waters wedi gwneud pwynt pwysig iawn ynglŷn ag iechyd y cyhoedd, oherwydd mae'n arbennig o bwysig ein bod yn sicrhau bod newid ymddygiad yn cael ei drin gyda'r difrifoldeb mwyaf, ar draws y Llywodraeth ac ar draws llywodraeth leol, ac yn wir ar draws y sector cyhoeddus a'r sector preifat i gyd.
Buaswn yn bendant yn cytuno â John Griffiths fod yn rhaid inni annog cyflogwyr i wneud mwy i annog eu gweithwyr yn eu tro i ymgymryd â theithio llesol. Mae pedwar amod ynghlwm wrth y contract economaidd. Felly, bydd unrhyw fusnes sy'n awyddus i gael cyllid gan Lywodraeth Cymru yn gorfod cydymffurfio â hynny. Wel, mae dau o'r amodau'n ymwneud â datgarboneiddio a gwelliannau i iechyd meddwl ac iechyd corfforol eu gweithwyr. Wrth gwrs, mae dechrau ymgymryd â theithio llesol, annog teithio llesol, gan fuddsoddi mewn seilwaith yn y gweithle sy'n galluogi gweithwyr i feicio neu gerdded i'r gwaith yn un ffordd o ddatgarboneiddio'r busnes ac mae'n ffordd arall o wella iechyd meddwl ac iechyd corfforol cyflogeion, felly lluniwyd y contract economaidd i wneud hynny.
Nawr, yr hyn a ddaeth yn amlwg yn glir iawn o waith y pwyllgor oedd yr angen i wella ymgysylltu ac ymgynghori o fewn y broses teithio llesol, a chytunaf â phwysigrwydd ymgynghori nid yn unig gyda rhai sy'n ymgymryd â theithio llesol ar hyn o bryd, ond hefyd gyda rhai y gellid eu perswadio i roi cynnig arni pe bai'r amodau'n iawn.
Rwy'n ymwybodol o'r amser, Ddirprwy Lywydd, ond dylwn ddweud ein bod hefyd ar y camau cynnar o ddatblygu strategaeth drafnidiaeth newydd i Gymru. Bydd y strategaeth honno'n amlinellu ein polisïau strategol ar gyfer cyfleusterau a gwasanaethau effeithiol ac economaidd sy'n ddiogel, yn integredig, ac yn gynaliadwy. Wrth gwrs, bydd cerdded, beicio a dulliau eraill cynaliadwy yn ffocws i'r strategaeth hon.
Yn olaf, mae llawer o'r Aelodau yn hoffi pregethu, weithiau, wrth Lywodraeth Cymru ynglŷn â sut y dylem ac y gallem wneud mwy, ond fy nghwestiwn yn ôl i'r Aelodau yw gofyn i chi sut y gallwch chi wneud mwy hefyd fel arweinwyr gwleidyddol, fel arweinwyr dinesig. Fel y dywedodd Russell George, mae'n ymwneud â mwy nag arian—mae'n ymwneud ag ymddygiad. Mae hyn yn cynnwys eich ymddygiad chi fel arweinwyr dinesig, felly buaswn yn annog pob Aelod i fod yn gyson â'r hyn y maent yn ei ddweud trwy ymgymryd â theithio mwy llesol o ran y ffordd y maent hwy eu hunain yn teithio, i ddangos arweiniad gwleidyddol eu hunain ac i arwain drwy esiampl a beicio a cherdded yn fwy rheolaidd, fel y gwn fod pobl fel Jenny Rathbone yn ei wneud—sef cerdded y llwybr ei hun ac nid siarad am wneud hynny'n unig.