Part of the debate – Senedd Cymru am 6:17 pm ar 19 Medi 2018.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch ichi am y cyfle hwn i gyflwyno fy nadl fer gyntaf yn y Senedd ar wella ein democratiaeth a thrafodaeth wleidyddol: pam y mae'n rhaid i Gymru arwain y ffordd o ran creu a darparu gwleidyddiaeth fwy caredig. Rwy'n falch iawn heddiw hefyd i roi munud o fy amser i gyd-Aelodau ar draws y Siambr, gan gynnwys Adam Price, Julie Morgan a Darren Millar.
Deuthum i'r Cynulliad hwn ar yr adeg anoddaf yn fy mywyd i a bywyd fy nheulu, ac i lawer ohonom mae'n dal i fod yn amser anoddaf ein bywydau. Bryd hynny, addewais i fy etholwyr, pobl y Blaid Lafur ac yn wir, i bobl ledled Cymru y buaswn yn chwarae fy rhan i sicrhau gwleidyddiaeth fwy caredig a hefyd yn adeiladu ar waddol fy nhad. Roedd yn ymgorffori gwleidyddiaeth fwy caredig, gyda'i allu a'i barodrwydd i weithredu ac i ymdrechu bob amser i weithio'n drawsbleidiol. Byddai'n tynnu sylw at fwlio pan fyddai'n dod ar ei draws a bob amser yn cynorthwyo pobl i ddod drwy eu hanawsterau. Rwy'n bwriadu gwneud yr un peth: adeiladu gwleidyddiaeth fwy caredig, nid yn unig mewn gwleidyddiaeth ei hun, ond caredigrwydd mewn bywyd yn gyffredinol.
Byddwn yn brifo pobl ar adegau, am mai dyna yw bywyd. Fodd bynnag, ni ddylem wneud hynny'n fwriadol byth, a dylem oll fod yn ymwybodol fod angen i ni fod yn fwy caredig wrth ein gilydd. I gyflawni hynny, mae angen newid diwylliant yn sylfaenol: newid yn niwylliant ein gwleidyddiaeth i'w gwneud yn fwy hygyrch i'r bobl a gynrychiolwn, trin ein gilydd gyda pharch, waeth beth yw ein safbwyntiau a gwrando ar syniadau a gweithio ar draws rhaniadau pleidiol er lles y wlad, am mai dyna y mae pobl yn ei ddisgwyl gan eu cynrychiolwyr etholedig.
Credaf fod y ddadl hon yn un amserol gyda phenawdau newyddion diweddar ac ystadegau'n dangos cynnydd mewn troseddau casineb, gwleidyddion yn cael negeseuon casineb ar-lein ac anesmwythyd cyhoeddus ar gynnydd. Mae cynnydd enfawr yn y defnydd o gyfryngau cymdeithasol, a heriau cymdeithasol a gwleidyddol oll yn ffactorau sy'n egluro pam y mae ein gwleidyddiaeth fodern wedi dod yn un amrywiol a llwythol. Er gwaethaf yr holl gynnydd a wnaed gennym fel gwlad, mae Cymru'n rhan o'r DU sy'n wynebu llawer o raniadau, nid yn unig materion yn ymwneud ag 'aros' neu 'adael' yr UE, ond rhwng yr ifanc a'r hen, y gogledd a'r de, y cyfoethog a'r tlawd, y trefol a'r gwledig. Mae llawer o bobl yn disgwyl i fy mhlaid arwain y ffordd a gwella'r rhaniadau hyn, ond mae'n ddyletswydd ar bawb ohonom i chwarae ein rhan ein hunain ac arwain y newid sydd ei angen arnom.
Mae'r genhedlaeth nesaf o bobl ledled Cymru yn disgwyl inni weithredu er eu budd. Yn Oriel y Senedd mae yna fwrdd arddangos gyda phethau y mae pobl o bob rhan o Gymru a thu hwnt am eu gweld, ac yn fy araith gyntaf yn y Senedd dywedais fy mod yn gobeithio, fel cynrychiolydd cenhedlaeth newydd yn y Cynulliad hwn, y gallwn wneud rhywbeth i adeiladu gwleidyddiaeth well a mwy caredig i bawb ar gyfer y dyfodol. Ac mae hyn yn golygu annog mwy o'r genhedlaeth iau i gymryd rhan—cenhedlaeth y dyfodol gyda syniadau ffres—yn y lle hwn ac mewn sefydliadau gwleidyddol eraill.