9. Dadl Fer: Gwella ein democratiaeth a thrafodaeth wleidyddol: Pam y mae'n rhaid i Gymru arwain y ffordd o ran creu a darparu gwleidyddiaeth fwy caredig

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:30 pm ar 19 Medi 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 6:30, 19 Medi 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Rwyf innau hefyd yn hynod o ddiolchgar i Jack am gyflwyno'r ddadl hon heddiw, oherwydd wrth gwrs, fe all ac fe ddylai Cymru arwain y ffordd yn hyrwyddo gwleidyddiaeth fwy caredig a mwy amrywiol. Wrth gwrs, dylai ansawdd y drafodaeth yn y Siambr hon ac mewn mannau eraill mewn bywyd cyhoeddus osod y cywair ar gyfer dadleuon cyhoeddus yng Nghymru, ac rwyf innau hefyd yn credu, Ddirprwy Lywydd, fod lefel y ddadl yn y Siambr wedi newid yn sylweddol dros y flwyddyn ddiwethaf, ac rwy'n gresynu at hynny.

Ni chlywais y ddadl rhwng fy nghyd-Aelod Kirsty Williams a Darren Millar yn gynharach, ond hoffwn ddweud rhywbeth sydd wedi fy nharo'n fawr yma—gallwn gael anghytundeb egnïol iawn yn aml, trafodaeth fywiog, dadl fywiog, ac mae Darren a minnau wedi cyfnewid safbwyntiau egnïol ac angerddol ar wahanol ochrau'r sbectrwm, ond yr hyn nad yw'r cyhoedd yn ei weld yw ein bod yn gyfeillgar iawn tu allan mewn gwirionedd, fod gennym lawer mwy yn gyffredin na'r hyn sy'n ein rhannu. Pe baech am ei ddangos fel canran, rydym yn cytuno ar lawer iawn—rydym yn dadlau am swm bach iawn o wahaniaeth. Mae pawb ohonom yma am yr un rheswm mewn gwirionedd: mae pawb ohonom yma oherwydd ein bod am wneud Cymru yn lle gwell i etholwyr ac i bawb ohonom, ac mae gennym fap llwybr gwahanol i gyrraedd yno, ond mae pawb ohonom yn ymdrechu i gyrraedd yr un man. Felly, rwy'n credu mai'r hyn y mae'r ddadl yn ei wneud yw amlygu hynny.

Mor aml mewn bywyd cyhoeddus, mae'n cael ei ystyried yn waith gwrthwynebol, ond mae pawb ohonom yn gwybod bod llawer o'r hyn a wnawn yma'n gydsyniol mewn gwirionedd, ein bod yn dadlau am ddarnau bach o fanylion ffeithiol a phwyslais gwahanol, ond mewn gwirionedd, i raddau helaeth rydym yn cytuno. Fel arall, ni fyddem yn gallu pasio deddfwriaeth. Rydym yn aml yn symud i'r un cyfeiriad, ond efallai fod gennym lwybr ychydig yn wahanol. Os ydych am ddefnyddio'r gyfatebiaeth â mapiau Google: efallai y bydd eich amser cyrraedd ddau funud yn arafach os ewch ar hyd y llwybr hwn, ond rydym yn ceisio cyrraedd yr un lle.

Mewn gwirionedd, credaf fod hynny'n rhywbeth y dylem sôn mwy amdano. Er enghraifft, wrth annog menywod ifanc i ddod i mewn i wleidyddiaeth, mae'n aml yn syndod iddynt ein bod yn cyd-fynd yn dda iawn, a bod pawb ohonom ar draws y pleidiau yn cyd-fynd yn dda y tu allan i'r Siambr, fel ein bod yn aml yn cael trafodaeth, oherwydd yr hyn a welant, wrth gwrs, yw dadl fywiog i mewn yma. Maent yn rhagdybio bod hynny'n lledaenu i'r pwyllgorau ac ati, oherwydd, mewn gwirionedd, nid yw pobl yn gwylio'r pwyllgorau i'r fath raddau. Nid ydynt yn gweld y gweithio caled cydsyniol a'r gwaith manwl sy'n digwydd ynddynt. Mewn gwirionedd, rwy'n credu bod dyletswydd arnom i wneud yn siŵr fod pobl yn gweld y rhan honno o'r gwaith cydsyniol—i ddyfynnu dyfyniad Jo Cox a ddefnyddiodd Darren, mae gennym fwy yn gyffredin na'r hyn sy'n ein rhannu.

Weithiau mae'n cymryd gweithred erchyll fel marwolaeth Jo Cox AS i greu ton o emosiwn o'r fath. Gwnaed argraff fawr arnaf, ar ôl i Jo farw, gan y modd y siaradai'r cyfryngau, am ennyd, am wleidyddion fel gweision cyhoeddus, fel y gwyddom sy'n wir, a'r ddeuoliaeth ofnadwy sy'n wynebu pawb ohonom lle caiff gwleidydd lleol ei edmygu'n fawr yn lleol, ond mewn gwirionedd, ni chaiff gwleidyddion yn gyffredinol eu hedmygu. Cafwyd ymchwydd bach, oni chafwyd, pan oedd pobl yn deall yr holl waith hwnnw, ac yna aethom yn ôl at y miri beunyddiol. Ond rwy'n credu y dylai'r ymddygiad cadarnhaol a modelau rôl fod yn rhywbeth rydym yn ei ddathlu mewn gwirionedd, a phan fyddwn yn siarad â'r bobl ifanc yn ein senedd ieuenctid, er enghraifft, a thynnodd Jack sylw at hyn, dylem sicrhau eu bod yn adeiladu'r math hwnnw o gonsensws, oherwydd fe wyddoch ein bod i gyd yn cyflawni mwy pan fyddwn yn adeiladu'r consensws hwnnw, ac rydym yn aml yn ceisio mynd i'r un cyfeiriad.

Credaf fod yna nifer o bethau sydd angen inni eu hystyried o ddifrif yn y Siambr hon hefyd. Mae yna bethau y gallem eu gwneud, y gallai'r Comisiwn eu gwneud ac y gallai pawb ohonom eu gwneud, pethau fel interniaethau—interniaethau cyflogedig, interniaethau priodol—sy'n annog pobl nad ydynt ar hyn o bryd yn cael eu cynrychioli yn y Siambr i fod yma. Felly, gellid cynnig interniaethau penodol ar gyfer pobl ag anableddau, er enghraifft, neu bobl o gymunedau amrywiol nad ydynt yn cael eu cynrychioli yma ar hyn o bryd fel y gallwn ddangos i bobl fod y lle hwn yn lle croesawgar ar gyfer pob un ohonynt.

Yn ddiweddar, fel y Dirprwy Lywydd, cyfarfûm â grŵp o bobl ifanc o ystod o gefndiroedd lleiafrifol ethnig amrywiol, a gwnaed argraff fawr arnaf gan y modd yr oeddent yn dweud nad oeddent wedi teimlo croeso yn yr adeilad oherwydd, pan wnaethant edrych drwy'r waliau gwydr i mewn i'r adeilad, nid oeddent yn gweld unrhyw un a edrychai'n debyg iddynt hwy, ac felly nid oeddent yn teimlo ei fod yn lle ar eu cyfer hwy. Cefais fy syfrdanu'n fawr gan hynny. Credaf fod angen inni wneud rhywbeth ynglŷn â hynny. Mae angen inni wneud yn siŵr fod y lle hwn yn lle croesawgar a thryloyw i'n holl gymunedau yng Nghymru, ar gyfer ein pobl ifanc yn ogystal â—wel, i bob cymuned. Dyna'r pwynt. Ac mae'r bobl yn edrych am rywun sy'n edrych yn debyg iddynt hwy, i weld a yw'r lle'n eu croesawu. Yn bersonol, er enghraifft, buaswn i'n ei chael hi'n anodd iawn cerdded i mewn i siop goffi neu far nad oedd yn cynnwys unrhyw un a edrychai'n debyg i fi. Rwy'n credu na fyddai llawer o groeso i mi yno yn ôl pob tebyg, a gallwch allosod hynny i fywyd cyhoeddus. Ac fe welwch fod diffyg modelau rôl yn wirioneddol bwysig.

O ran pethau fel troseddau casineb, soniodd Jack am y cynnydd mewn troseddau casineb. Rydym yn gweithio'n galed iawn i wneud yn siŵr ein bod yn annog pobl i roi gwybod am yr holl droseddau sy'n digwydd, oherwydd gwyddom nad yw'r holl droseddau'n cael eu cofnodi, a rhan o'r broblem honno yw sicrhau bod pobl yn deall—ac rydym wedi siarad â phob un o'n cydweithwyr ymhlith comisiynwyr yr heddlu am hyn hefyd—y bydd rhywbeth yn cael ei wneud os ydynt yn rhoi gwybod am drosedd oherwydd, mewn gwirionedd, mae llawer o ragdybiaeth ynghylch hynny. Mae comisiynwyr yr heddlu ar draws y sbectrwm pleidiol wedi gweithio'n galed iawn i sicrhau y bydd rhywbeth yn cael ei wneud os ydych yn rhoi gwybod am drosedd o'r fath ac rydym yn pwysleisio hynny—nad yw hon yn ffordd dderbyniol o ymddwyn yn y Gymru fodern, ac rydym wedi gweithio'n galed iawn i wneud hynny.

Yn yr un modd gyda'n cynllun ar gyfer ceiswyr lloches a ffoaduriaid a'n cynllun cenedl noddfa sy'n destun balchder i ni ac rydym wrthi'n dadansoddi ymatebion iddo. Rydym am wneud yn siŵr y gall pawb yng Nghymru wneud cyfraniad priodol i'n bywyd, y gallant ddefnyddio'r doniau sydd ganddynt yng Nghymru er lles pawb ohonom. Rydym yn gwybod na allem weithredu ein gwasanaeth iechyd gwladol, ni allem weithredu llawer o'n gwasanaethau cyhoeddus heb gyfraniad pobl a ddaeth yma, gan ddianc weithiau rhag y sefyllfaoedd mwyaf echrydus ac sydd wedyn yn gallu trawsnewid eu hunain a defnyddio'u sgiliau er ein lles. Nid wyf byth yn hapusach na phan welaf hynny'n digwydd, a gobeithio y gwelwch y fideo hyfryd iawn sydd ar gael ar Facebook—mae'n ymddangos yn aml iawn ar fy ffrwd i beth bynnag—o'r ddau berson ifanc mewn gwisg draddodiadol Fwslimaidd yn siarad Cymraeg dros nant yn sir Gaerfyrddin. Mae'n galonogol dros ben, ac maent yn siarad yn Gymraeg ynglŷn â sut y mae eu bywydau wedi newid ers iddynt ddod i Gymru, sy'n wirioneddol hyfryd. Rwy'n credu mai dyna'r math o fodel rôl sydd ei angen arnom—i'r bobl ifanc hynny ddod i mewn i fywyd cyhoeddus ar ôl gwneud bywyd yma fel y mae Jack yn ei ddweud. Felly, rwy'n falch ei fod wedi dweud hynny.

Rwyf am ddweud un peth olaf ynglŷn â hynny. [Torri ar draws.] Wrth gwrs, Angela.