Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 25 Medi 2018.
Wel, yn amlwg mae problemau yn ysbytai Lloegr hefyd, a bydd adegau pan fydd y galw yn arbennig o ddwys. Yr hyn y gallaf ei ddweud wrtho, fodd bynnag, yw, o ran Powys, ym mis Awst, yr ymatebwyd i 71.2 y cant o alwadau coch o fewn wyth munud—mae hynny'n uwch na'r targed cenedlaethol o 65 y cant am y pedwerydd mis yn olynol. Tua pedwar munud ac wyth eiliad oedd yr amser ymateb nodweddiadol ar gyfer y math hwnnw o alwad—yr amser ymateb nodweddiadol cyflymaf yng Nghymru y mis hwnnw. Ac, yn olaf, er nad oes targed amser ffurfiol ar waith ar gyfer galwadau ambr, 20 munud ac 17 eiliad oedd yr ymateb nodweddiadol ar gyfer galwad ambr ym Mhowys ym mis Ionawr, sydd unwaith eto yn well na'r cyfartaledd cenedlaethol o 24 munud ac 19 eiliad.