Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 25 Medi 2018.
Rydym ni'n sôn fel arfer am ymateb ambiwlans i bobl sydd â salwch corfforol. Ond, wrth gwrs, mae yna bobl sydd ag anghenion salwch meddyliol hefyd, ac nid oes gennym ni dimau penodol sy'n ymateb i alwadau iechyd meddwl. Rŵan, yn Sweden—yn Stockholm, yn benodol—oherwydd y nifer uchel o hunanladdiadau, mae yna dîm arbennig wedi cael ei sefydlu, sef tîm ymateb brys seiciatryddol. Rŵan, o ystyried yr angen sydd yna am ymateb brys i bobl sydd ag anhwylder acíwt meddwl neu i'r rheini sydd mewn peryg o hunanladdiad, a ydych chi fel Prif Weinidog yn cytuno y dylai'r gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru fod yn edrych ar y posibilrwydd o greu tîm brys iechyd meddwl, neu dimau brys iechyd meddwl, hefyd yng Nghymru?